Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Steganographia

Oddi ar Wicipedia
Steganographia
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohannes Trithemius Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1606 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1499 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gansteganography Edit this on Wikidata
Prif bwncsteganography Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llyfr ar steganograffeg (negeseuon cudd) ywSteganographia, a ysgrifennwyd tua 1499 gan abadBenedictaidd a polymath o'r Almaen,Johannes Trithemius.

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos fod y testun yn sôn amsêr-ddewiniaeth a syniadau ‘hudol’ aneglur. Honnwyd ei fod yn cynnwys, ymysg pethau eraill, ddull o anfon negeseuon cudd dros bellter mawr. Mae’n cynnwys traethodau hirion am wahanol ysbrydion ac angylion, gyda defodau a thablau o fformiwlâu 'hudol'. Fodd bynnag, mae'n ymddangos erbyn hyn nad oes unrhyw beth ‘hudol’ yn eu cylch. Mewn gwirionedd, mae’r rhestrau o rifau a llythrennau yn allwedd i ffurf glyfar o amgryptio, nad oedd wedi cael ei ddarganfod hyd y 1990au. Mae'n ymddangos fod Johannes Trithemius wedi dyfeisio ffurf gyntefig o’r un systemamgryptio a ddefnyddiwyd yn nes ymlaen i greu'rCod Enigma enwog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

Cafodd y gwaith yma ei drawsysgrifio yn 1591 ganJohn Dee.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Steganographia | Llyfrgell Genedlaethol Cymru".www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd2020-05-22.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Steganographia&oldid=11645860"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp