LleolirStadiwm y Mileniwm neuStadiwm Principality (Saesneg:Principality Stadium) yngNghaerdydd, ar lanAfon Taf. Mae'r enw yn adlewyrchu cytundeb nawdd gydaCymdeithas Adeiladu'r Principality rhwng 2016 a 2026. Dyma stadiwm cenedlaetholCymru, acUndeb Rygbi Cymru yw ei berchennog. Dyma'r ail stadiwm fwyaf yn byd gyda tho y gellir ei dynnu yn ôl yn gyfan gwbwl; mae ganddo le ar gyfer 75,154 o bobl.[1] Fe'i adeiladwyd yn1999, ar gyferCwpan Rygbi'r Byd, a gynhaliwyd yng Nghymru y flwyddyn honno. Fe gostiodd £126 miliwn iUndeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau. Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbynDe Affrica.
Pan agorodd y stadiwm yn swyddogol ym mis Mehefin 1999, hwn oedd dim ond yr ail stadiwm yn Ewrop â tho gwbwl codadwy, ar ôlArena Amsterdam. Fe'i hadeiladwyd ar safle yr hen Stadiwm Cenedlaethol ymMharc yr Arfau; hwn oedd y pedwerydd tro i'r safle hwnnw gael ei ailddatblygu.[2]
Cynhaliwyd gemau terfynolCwpan yr FA yma rhwng 2001 a 2006,[1] tra'r oeddStadiwm Wembley ynLlundain yn cael ei ail-adeiladu.[3] Cynhaliwyd hefyd gemau pêl-droed yngNgemau Olympaidd 2012[4] a gemau yngNghwpan Rygbi'r Byd 2015.[1] Dyma fydd safle gêm derfynolCynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017.[5] Mae nifer o gerddorion wedi perfformio mewn cyngherddau yma, gan gynnwysMadonna,Take That,The Rolling Stones aPaul McCartney.[6] Yn 2004 cynhaliwydCyngerdd Cymorth Tsunami yn y stadiwm.