Sosialaeth yw'r enw a roddir i gasgliad o ideolegau sy'n ffafrio cyfundrefn sosio-economaidd lle mae eiddo a dosbarthiad cyfoeth yn cael eu rheoli gan gymdeithas.[1]
Gellir olrhain gwreiddyn y mudiad sosialaeth modern yn bennaf at fudiaddosbarth gweithiol y19g. Yn y cyfnod hwn, defnyddiwyd y term "sosialaeth" yn gyntaf pan yn cyfeirio at feirniaid cymdeithasol Ewropeaidd oedd yn collfarnucyfalafiaeth aceiddo preifat. Un fu'n rhannol gyfrifol am sefydlu a diffinio'r mudiad sosialaeth modern oeddKarl Marx. Credai ef y dylid diddymuarian,marchnadoedd,cyfalaf, allafur fel cynwydd.
YCymro a sosialydd cynnarRobert Owen defnyddiodd, am y tro gyntaf ynSaesneg, y termausocialist (yn 1827) asocialism (yn 1837). Roedd hyn yn seiliedig ar y dermFfrengigsocialisme, hawliau'r diwygiwrPierre Leroux a'r cyhoeddwrSaint-Simonian 'ill dau y clod am fathu'r derm honno.Cymdeithasiaeth oedd y derm ffafrioddR. J. Derfel, ond "sosialaeth" daeth yn fwy boblogaidd.[2][3]