Un o 31talaith ffederal Mecsico , sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin â'rUnol Daleithiau , ywSonora . Mae ganddi boblogaeth o 2,839,989 (2000).
Golchir arfordir 1,208 km Sonora ganMôr Cortez , sy'n rhan oGwlff California , sy'n ei chysylltu â'rCefnfor Tawel i'r de. MaeSonora yn ffinio â thalaithChihuahua i'r dwyrain,Sinaloa i'r de aBaja California i'r gogledd-orllewin; i'r gogledd mae ganddi ffin hir agArizona ac un llai âNew Mexico yn yrUnol Daleithiau . Dros Gwlff California i'r gorllewin mae ganddi ffin forol âBaja California Sur . Sonora yw'r dalaith ail fwyaf ym Mecsico (184,934 km²), gyda 9.2% o arwynebedd y wlad.
Y prif dirweddau yw:Sierra Madre Occidental , Mynyddoedd a Dyffrynnoedd Parallel,Anialwch Sonora , ac arfordir Gwlff California. Cadwyn ySierra Madre oedd un o gadarnleoeddGeronimo acApache Chiricahua eraill yn y 1880au.
Lleoliad talaith Sonora ym Mecsico