Rhanbarth hanesyddol yn nwyrainCroatia ywSlafonia[1] (Croateg:Slavoija). Dyma'r fraich uchaf o dir yn y siâp cryman sy'n nodweddu amlinell tiriogaeth Croatia, ac mae'n un o bedwar rhanbarth hanesyddol y wlad, ynghyd â pherfeddwlad Croatia neu Groatia yn ei hanfod (Središnja Hrvatska),Dalmatia, acIstria. Cynrychiolir Slafonia gan darian gydabela ar gefndir glas ararfbais Croatia, a ymddangosir hefyd ary faner genedlaethol. Mae ganddi dir amaethyddol ffrwythlon a choediog sy'n ffinio agAfon Drava i'r gogledd,Afon Sava i'r de, acAfon Donaw i'r dwyrain.
Er ei bod yn un o ranbarthau hanesyddol y wlad, nid yw Slafonia yn adran lywodraethol o fewn y Groatia gyfoes. Mae'n 12,556 km sgwâr, sef dros hanner maintCymru, ond â phoblogaeth o dim ond 806,192, sef llai na thraean o boblogaeth Cymru.
Ni ddylid drysu Slafonia gydaSlofenia (Slofeneg:Slovenija), y wladwriaeth annibynnol sy'n ffinio â gogledd-orllewin Croatia.
Yr enw ar yr ardal ers amser maith yw Slafonia a'i thrigolion yn Slafoniaid. Hyd nes 1849, roedd Slafonia ynghyd â pherfeddwlad Croatia, yn ran o ymerodraeth neu wladwriaethHwngari gydagOsijek yn brifddinas arni.
O danAugustus Cesar, Ymerawdwr yrYmerodraeth Rufeinig, meddiannwyd tir gwastadPannonia (Hwngari gyfoes a thiroedd oddi cwmpas) ac fe gelwid yn Pannonia Savia ar ôl Afon Sava. Dywedir i'r Ymerawdwr,Probus, ddatblygu diwylliant y winwydden. Yn ddiweddarach, pasiodd y rhanbarth o dan reolaeth yrYmerodraeth Fysantaidd am gyfnod. Yn dilyn goresgyn y diriogaeth gan yrAfariaid ("Avars") a erlidwyd gan filwyrSiarlymaen cafwyd mewnfudiad oSlafiaid o dalaith Dalmatia ar yr arfordir.
Yn y 9g, daeth yr ardal dan ddylanwadCristnogaeth gan y seintiau Uniongred,Cyril a Methodius. Er i'r llwythi wrthsefyll yBwlgariaid, syrthiodd dan reolaeth yr Hwngariaid yn 10g. Yn gynnar yn y 12g, ailymgeisiodd yr Ymerodraeth Fysantaidd gipio'r tir ond fe'i trechwyd yn 1127. Yn ôl pob tebyg bu iddynt ymgeisio eto yn 1162, ond methu am y tro olaf.
Rheolwyd Slafonia wedyn gan uchelwyr (Ban) lleol gan dywysogion tŷ brenhinol Hwngari. Yn 1471, ymosodwyd ar y tiriogaeth gan y Tyrciaid Otomanaidd (1471–1476) ac yna yn 1484 a 1524. Mae cytundeb a lofnodwyd ym 1562 cyflwynwyd Slafonia i'rYmerodraeth Otomanaidd tra bod Croatia (y dalaith) yn feddiant iAwstria. Daeth y cyfnod yma o dan reolaeth y Tyrciaid i ben yn 1699 yn sgilCytundeb Karlowitz.[2]
Yn sgil cwymp yr henIwgoslafia yn dilyn datganiad annibyniaeth Croatia yn 1991, datganodd ySerbiaid yn ardal Krajina eu gwladwriaeth annibynnol eu hunain, ac yna pocedi o ddwyrain a gorllewin talaith Slafonia gan gynnwys dinasoedd a threfi Osijek, Vinkovci, Županja,Vukovar, Ilok, a Baranja. Yn y rhannau yma o'r Krajina (mae'r gair yn golygu "Gororau" neu "tir y ffin" mewnSerbo-Croateg) roedd y boblogaeth yn gymysg ethnig ond gyda mwyafrif o ran niferoedd ynGroatiaid. Arweiniodd hyn at ryfel. Roedd y rhan orllewinnol yn cynnwys crib ddaearyddol Okučani a'r rhan fwyaf o fynyddoedd Psunj. Ym mis Mai 1995, dychwelwyd y rhan orllewinnol i reolaeth Croatia annibynnol yn dilyn llwyddiant Cadgyrch Storm (Operacija Oluja yn Groateg). Dychwelwyd gweddill rhan ddwyreiniol y dalaith i Groatia yn 1998.
- NK Osijek yw prif dîmpêl-droed broffesiynnol y dalaith.
- Glas Slavonije ("Newyddion Slafonia") ydy papur lleol y dalaith. Fe'i rheolir gan Branimir Glavaš, gwleidydd ceidwadol o Osijek.