Cangen ieithyddol ac ethnig o'r bobloedd Indo-Ewropeaidd yw'rSlafiaid. O'u mamwlad gyntefig ar wastatiroedd Wcráin, ymledodd y bobloedd Slafaidd dros rhan helaeth o Ddwyrain Ewrop, gan wladychu'r Balcaniaid, glannau'r Baltig a Rwsia yn yr Oesoedd Canol cynnar. Gyda thwf Ymerodraeth Rwsia o'r 16g ymlaen, daeth Siberia ac ardaloedd eraill gogledd Asia o dan reolaeth Slafiaid.
Er ei bod yn eglur bod y famwlad Slafaidd gyntefig rhywle yn Nwyrain Ewrop, mae dadleuon ymysg ysgolheigion am ei lleoliad pendant. Gwyddys i'r Slafiaid wladychu ardal y Balcaniaid a'r rhan fwyaf oRwsia yn ystod y cyfnod hanesyddol. Yn ôl y farn fwyaf cyffredin, lleoliad y famwlad Slafaidd oedd ar hyd canol yrafon Dnieper, ardal sydd heddiw yn cyfateb i ogledd canol a gorllewinWcráin a deBelarws. Mae'n amhosibl ail-lunio unrhyw dermau morwrol (er enghraifft, gair am 'cwch' neu 'angor') na gair am 'ambr' yn y gyn-iaith Slafaidd. Mae hyn yn sail i gredu nad oedd y famwlad yn cyrraedd glanau'r Baltig. Nid yw ffynonellau Rhufeinig yn crybwyll y Slafiaid cyn y 6g. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu nad oedd yna ddim Slafiaid ar gyrion gogleddol yrYmerodraeth Rufeinig. Mae tystiolaeth ieithyddol yn dangos hefyd bod y Slafiaid cynnar mewn cysylltiad clòs am beth amser â phobloedd Iranaidd a Germanaidd. Mae nifer o eiriau am gysyniadau crefyddol (er enghraifft y geiriaucyn-Slafoneg am 'duw' a 'paradwys') wedi'u benthyg gan y gyn-iaith Iranaidd. Roedd llwythi Iranaidd (yScythiaid a'rSarmatiaid) yn trigo i'r gogledd o'rMôr Du yn ail hanner y mileniwm cyntaf CC, aGothiaid yn yr un ardal yn ddiweddarach. Mae'r dystiolaeth hyn i gyd yn ddilys â lleoliad i'r famwlad Slafonaidd i'r gogledd o'r llythi hyn, ond heb fod mor bell â Môr Baltig. Mae hyn yn agos iawn at y famwlad Indo-Ewropeaidd ei hun.
Erbyn y chweched a'r 7coedd OC, yn ôl haneswyr Rhufeinig a Groeg, fel Jordanes yn ei hanes o'r Gothiaid 'De origine actibusque Getarum' a Procopius yn ei ysgrifau yntau, cartref y llythi Slafaidd oedd yr ardal i'r gogledd oAfon Donaw (Donwy), mewn rhwymyn o dir rhwngAfon Vistula uchaf acAfon Dniepr (Wcrain aGwlad Pwyl heddiw). O'r bumed i'r 10g roedd ffiniau tiriogaeth y Slafiaid yn ystwyth iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, ehangodd y Slafiaid eu tiriogaeth yn sylweddol, gan ymfudo o'u mamwlad ym mhob cyfeiriad, a dechreuodd eu iaith ymrannu i greu'r tair cangen a welir heddiw. Daeth yr ymfudiadau hyn â'r Slafiaid i'r gogledd a gogledd-ddwyrain (Rwsia heddiw), lle daethant mewn cysylltiad â phobloedd Baltaidd a Ffinno-Wgraidd. Yn y De, croesasantAfon Donaw i gyrraedd tiroedd yrYmerodraeth Fysantaidd ac ymsefydlu yng ngwledydd heddiw Slafiaid y De (Bwlgaria,Serbia,Croatia ayyb). Yn y gorllewin, ymgartrefodd y Slafiaid ar lannau'rMôr Baltig gan gymysgu â llwythi Baltaidd a Germanaidd hyd at ogledd a dwyrain yrAlmaen. Fel hyn y mae'rBrut Cynradd Rwsieg yn disgrifio'r sefyllfa:
Dros cyfnod hir gwladychodd y Slafiaid ar lannau'r Donaw, lle mae'r tiroedd Hwngaraidd a Bwlgaraidd yn gorwedd heddiw. O blith y Slafiaid hyn, ymwasgarodd carfanau dros y wlad, ac fe'u hadnabuwyd gan enwau perthnasol, yn ôl y llefydd a wladychodd. Felly daeth rhai i wladychu ger Afon Morava, ac fe'i henwyd ynMorafiaid, tra i eraill gael eu henwi'n Tsieciaid.