Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Skype

Oddi ar Wicipedia
Skype
DatblygwrMicrosoft Skype Division
Rhyddhad
cychwynnol
Awst 2003 (2003-08)
Iaith raglennuEmbarcadero Delphi, Objective-C (iOS,Mac OS X),C++ gyda Qt (Linux)
system weithreduiOS,Windows XP,Windows Vista,Windows 7,Windows 8,Mac OS X,Windows Phone,Blackberry OS,HP WebOS,Symbian,Android aLinux
Cyfieithu parodNifer o ieithoedd
MathVoice over IP,negeseua sydyn,fideo gynhadledd
TrwyddedMeddalwedd, gydag ychwanegiadau tâl
Gwefanskype.com

Meddalwedd cyfathrebu sy'n eiddo iMicrosoft ywSkype (neu weithiauSgeip). Mae'n galluogi defnyddwyr i gyfathrebu â'i gilydd drwyfeicroffon,gwe-gamera, a negeseua sydyn ar yRhyngrwyd.

Rhyddhawyd gyntaf yn 2003 gan y datblygwyr Ahti Heinla, Priit Kasesalu, a Jaan Tallinn, oEstonia,[1] a chafodd ei brynu gan Microsoft yn 2011 am $8.5 biliwn.[2] Heddiw lleolir pencadlys Skype ynLwcsembwrg ond lleolir y rhan fwyaf o'r tîm datblygu a 44% o'r holl weithwyr ynTallinn aTartu, Estonia.[3][4]

Yn 2010 roedd gan Skype 663 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig.[5]

Er nad yw'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd sydd ar gael yn y fersiwn swyddogol, maeMicrosoft wedi ei gwneud hi'n bosib i addasu iaith yrhyngwyneb oddi fewn i'r rhaglen. Yn Hydref 2013, cyhoeddwyd ffeil rhyngwyneb Cymraeg i Skype ar Windows gan Aled Powell. Mae'r ffeil ar gael i'w lawrlwytho am ddim ac yn cael ei diweddaru wrth i fersiynau newydd o Skype gael ei rhyddhau.[6]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Andreas Thomann (6 Medi 2006)."Skype –A Baltic Success Story". credit-suisse.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd24 Chwefror 2008.
  2. BBC "Microsoft confirms takeover of Skype" Check|url= value (help). bbc.com. 10 May 2011. Cyrchwyd6 Tachwedd 2012.
  3. "Skype employees". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-09-29. Cyrchwyd2012-11-07.
  4. "http://blogs.skype.com/en/2011/10/acquisitionclose.html". Skyp.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-10-15. Cyrchwyd2012-11-07.External link in|title= (help)
  5. "Skype grows FY revenues 20%, reaches 663 mln users".
  6. Aled Powell."Newid Rhyngwyneb Skype i'r Gymraeg". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2015-02-02. Cyrchwyd2 Chwefror 2015.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Skype&oldid=14117473"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp