Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ska

Oddi ar Wicipedia

Math o gerddoriaeth sy'n hanu oJamaica ywSka, a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod y 1950-60au.Cerddoriaeth ydyw sy'n cyfuno dylanwadauSbaenaidd/Caribïaidd gyda rhythmauAffricanaidd. Mae'r pwyslais ar yr 'off-beat' bob tro h.y. mae'n groes-acennog iawn.

Cyfnodau

[golygu |golygu cod]

Ceir tri chyfnod o Ska:

1. Jamaica; 1960au - Cerddoriaeth debyg i'r hyn a adnabyddir heddiw fel Reggae, gydag artistiaid blaenllaw felPrince Buster,Skatalites arMaytals.

2. Lloegr; 1980au - Caiff y cyfnod hwn hefyd ei adnabod fel 2 Tone, ar ôl y cwmni recordiau (2 Tone) a oedd yn flaenllaw gyda'r bandiau hyn. Roedd y sin wedi'i lleoli yn bennaf yng Nghoventry, ac roedd y gerddoriaeth yn gyflym iawn gyda dylanwadau pyncaidd. Ymysg y prif artistiaid roeddThe Specials,The Selecter,Madness aBad Manners. Roedd y bandiau'n hoffi gwneud testun caneuon yn wleidyddol, gan fod yn wrth-hiliaeth. Mae'r glasur 'Ghost Town' gan Y Specials yn nodi cyfnod2 Tone a dechrau cyfnod o derfysg ynLloegr. Yn yr iaith Gymraeg, dilynwyd yr un arddull gan grŵpY Ficar o'rFelinheli.

3.California; 1995+ - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (distortion) yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fandNo Doubt a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roeddReel Big Fish,Less Than Jake a'rMighty Mighty Bosstones.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ska&oldid=1760969"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp