Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llywodraeth leol yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oSiroedd a Dinasoedd Cymru)
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

I bwrpas llywodraeth leol, ers 1 Ebrill 1996 rhennirCymru yn 22 oawdurdodau unedol a elwir yn "brif ardaloedd". O fewn yr haen uchaf hwn, ceir sawl math osir sefː sir, bwrdeistrefi sirol adinasoedd (gyda statws sirol).[1] Yn aml gelwir nhw o dan un enw - sir, er bod hyn yn dechnegol anghywir. Cynrychiolir yr awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r siroedd hyn ganGymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae cynghorau etholedig yr awdurdodau hyn yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o fewn euprif ardaloedd: addysg, gwaith cymdeithasol, cadwraeth yr amgylchedd a thraffyrdd.

O dan yr haen hwn ceircynghorau cymuned; dirprwyir rhai cyfrifoldebau iddynt hwy, er enghraifft torri gwair, cynnal a chadw parciau lleol.

Fe benodirArglwydd Raglaw ganFrenhines y DU, i'w chynrychioli yn yr wythSir cadwedig sef yr ardaloedd cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru at ddibenion seremonïol Rhaglawiaeth a Siryfiaeth.

Yn Ebrill 2013 cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru am gynnalAd-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda'r bwriad o dorri'r nifer o siroedd o 22 i tua 12.

Dinasoedd

[golygu |golygu cod]

Saithdinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd âstatws dinas, mae gangymunedauBangor,Llanelwy aThyddewi statws dinas a gadarnheir ganfreintlythyrau.

Yn hanesyddol roeddLlanelwy yn ddinas, gan iddi fod ynganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas ynEncyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.[2]

Ar 14 Mawrth 2012, fodd bynnag, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru,Cheryl Gillan, gyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Llanelwy yn ennill statws dinas. Ymgeisiodd sawl tref, a dewiswyd Llanelwy "i gydnabod ei chyfoeth o hanes, ei chyfraniad diwylliannol a’i statws metropolitan fel canolbwynt ar gyfer technoleg, masnach a busnes."[3]

Enillodd Wrecsam gystadleuaeth i gael statws dinas yn 2022. Roedd hyn yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a gwobrwyd 8 tref ar draws y DU. Cafodd Wrecsam ei wneud yn ddinas yn swyddogol ar 1 Medi 2022.[4]

Prif ardaloedd

[golygu |golygu cod]
  1. Abertawe
  2. Castell-Nedd Port Talbot
  3. Pen-y-bont ar Ogwr
  4. Bro Morgannwg
  5. Caerdydd
  6. Casnewydd
  7. Rhondda Cynon Taf
  8. Merthyr Tudful
  9. Caerffili
  10. Torfaen
  11. Blaenau Gwent

Cymunedau

[golygu |golygu cod]
Prif:Cymuned (Cymru) aRhestr cymunedau Cymru

Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru.

Siroedd cadwedig

[golygu |golygu cod]
Prif:Siroedd cadwedig Cymru

Pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1974 diddymwyd yr hen siroedd gweinyddol a chreuwyd wythsir newydd yn eu lle. O'r siroedd hyn, maePowys aGwynedd yn dal i fodoli ond gyda newidiadau i'w ffiniau, yn enwedig yn achos Gwynedd a cholloddYnys Môn ac a welodd yr ardaloedd gogledd-ddwyreiniol yn mynd yn rhan oFwrdeistref Sirol Conwy. Mae siroedd 1974-1996 yn cael eu disgrifio'n swyddogol fel siroedd cadwedig ar gyfer rhai pwrpasau seremonïol ond heb unrhyw ran mewn llywodraeth leol.

Dyma'r siroedd:

Hanes "Siroedd" Cymru

[golygu |golygu cod]

Erbyn 1066 roedd Lloegr gyfan wedi cael ei rhannu'nsiroedd, ond nid oedd gan Gymru siroedd tan y 13g. Aberteifi a Chaerfyrddin a sefydlwyd yn gyntaf a hynny yn y 1240au. Ym 1284 rhannwyd "Tywysogaeth Gwynedd" yn dair sir: Môn, Caernarfon a Meirionnydd. Gellir edrych ar y drefn newydd hon felly fel trefn Seisnig a fwriwyd ar Gymru wedi syrthio'ryn ystod blynyddoedd olaf y TywysogLlywelyn II. Cyn diwedd y ganrif roedd y Fflint hithau wedi'i chlensio'n sir a olygai fod bron i hanner tiriogaeth Cymru o dan reolaeth coron Lloegr.Y Mers oedd yn weddill, a chafwyd gwared a nhw trwy ddefnyddio yDdeddf Uno1536 gan greu Sir Benfro, Sir Drefaldwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Forgannwg, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy. Dyna gyfanswm o 13 sir. Y mwyaf oedd Sir Gaerfyrddin (246,168ha) a Sir y Fflint (65,975ha). Cawsant eu mapio ganJohn Speed ac eraill ac fe'u derbyniwyd yn frwd gan y Boneddigion.

Yn 1974 diddymwyd yr 13 sir. Yn eu lle sefydlwyd y siroedd cadwedig uchod.

NUTS gan Eurostat

[golygu |golygu cod]

O fewnEurostats yrEnwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth(Nomenclature of Territorial Units for Statistics, NUTS), ystyrir Cymru yn rhanbarth lefel-1, gyda'r côd "UKL", ac a isrennir fel a ganlyn:

NUTS 1CôdNUTS 2CôdNUTS 3Côd
CymruUKLGorllewin Cymru aChymoedd De CymruUKL1Ynys MônUKL11
GwyneddUKL12
Conwy aSir DdinbychUKL13
De-orllewin Cymru (Ceredigion,Sir Gaerfyrddin,Sir Benfro)UKL14
Cymoedd Canol (Merthyr Tudful,Rhondda Cynon Taf)UKL15
Cymoedd Gwent (Blaenau Gwent,Caerffili,Torfaen)UKL16
Pen-y-bont ar Ogwr aCastell-nedd Port TalbotUKL17
AbertaweUKL18
Dwyrain CymruUKL2Sir Fynwy aChasnewyddUKL21
Caerdydd aBro MorgannwgUKL22
Sir y Fflint aWrecsamUKL23
PowysUKL24

Heddluoedd a gwasanaethau tân

[golygu |golygu cod]

Heddluoedd

[golygu |golygu cod]
Prif:Heddluoedd Cymru

Ceir pedwarheddlu yng Nghymru:

  1. Heddlu Gogledd Cymru
  2. Heddlu Dyfed-Powys
  3. Heddlu De Cymru
  4. Heddlu Gwent

Gwasanaethau tân ac achub

[golygu |golygu cod]

Ceir trigwasanaeth tân ac achub yng Nghymru:

  1. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  2. Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  3. Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Local Government (Wales) Act 1994
  2. Beckett, J V (2005).City Status in the British isles, 1830 - 2002. Aldershot: Ashgate Publishing, tud. 133 - 135.ISBN 0754650677
  3. Gwefan www.gov.uk; adalwyd 6 Ionawr 2014
  4. Wrexham officially becomes Wales' seventh city after Platinum Jubilee award (en) , WalesOnline, 1 Medi 2022.
gw  sg  go
CymruPrif ardaloedd asiroeddCymru
Prif ardaloedd
(siroedd a bwrdeistrefi sirol)

(ers 1996)
Cymru
Siroedd cadwedig
(1974–1996)
Siroedd hynafol
(cyn 1974)
Cyffredinol
Rhanbarthau a lleoliadau
Tirffurfiau
Bywyd gwyllt
Economi
Demograffeg
Cymdeithas
Diwylliant
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llywodraeth_leol_yng_Nghymru&oldid=14338721"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp