Roedd y boblogaeth yn 118,385 yng nghyfrifiad 2011.[1]
Sefydlwyd Siracusa yn 734 neu 733 CC gan Roegiaid o ddinasoeddCorinth aTenea, dan arweiniad yroecist (gwladychwr)Archias, a'i galwodd ynSirako, gan gyfeirio at gors gyfagos. Tyfodd y ddinas i fod yn un o'r dinasoedd Groegaidd mwyaf grymus yn unman o gwmpasMôr y Canoldir.
Daeth y ddinas yn gyfoethog iawn mewn cynghrair aGweriniaeth Rhufain yn ystod teyrnasiadHiero II o275 CC ymlaen. Wedi marwolaeth Hiero yn215 CC, trodd ei olynyddHieronymus yn erbyn Rhufain, a chipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid danMarcus Claudius Marcellus yn212 CC. Lladdwyd dinesydd enwocaf Siracusa, y gwyddonydd a mathemategyddArchimedes, pan gipiwyd y ddinas.