Sir yng ngogleddCymru ywSir Ddinbych (Saesneg:Denbighshire). Mae'n ffinio âGwynedd aChonwy i'r gorllewin,Sir y Fflint aWrecsam i'r dwyrain, aPhowys i'r de. Mae'r sir bresennol yn llawer llai na'r hen sir (gweler isod) ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint. Lleolir pencadlys y cyngor sir yn nhrefDinbych.
Goresgynnwyd y Deceangli gan yRhufeiniaid yn 48 OC ac am bedair canrif bron rheolwyd yr ardal gan Rufain. Ond parhaodd y gyfundrefn frodorol i raddau hefyd, ac yn y cyfnod ôl-Rufeinig daw teyrnasRhos, a oroesoedd felcantref canoloesol, i'r amlwg. Dyma 'Oes y Seintiau'. Yr enwocaf o seintiau'r ardal ywCyndeyrn, a gysylltir âLlanelwy ond sydd hefyd yn nawddsantGlasgow yn yr Alban.
Pan ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto, yn 1996, diddymwyd Clwyd fel sir weinyddol a chrëwyd y Sir Ddinbych bresennol, sy'n llai na'r hen sir o'r un enw ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint.
Dyffryn Clwyd yw asgwrn cefn y sir, gydaBryniau Clwyd yn ffin rhyngddo â'r dwyrain ac yn weladwy amlwg o bob rhan, bron, o'r sir. LlifaAfon Clwyd i lawr trwy'r dyffryn o'r bryniau i'r arfordir lle ceir gwastadedd iselMorfa Rhuddlan. Ceir cryn wahaniaeth daearyddol, diwylliannol a gwleidyddol rhwng yr arfordir honno a rhannau isaf Dyffryn Clwyd, sy'n tueddu i fod yn Seisnigedig i gryn raddau, yn arbennig o gwmpasY Rhyl aPhrestatyn, a'r de sy'n llawer mwy gwledig a Chymreig o ran iaith a phoblogaeth.