Darluniad oabad yn cysegr-fasnachu mewn llawysgrif oliwiedig o'r 12g.
Prynu a gwerthu breintiau yn yr eglwysGristnogol ywsimoniaeth[1][2] neugysegr-fasnach.[1][3] Gan amlaf mae'r gair yn cyfeirio at farchnadaeth mewn urddau cysegredig a swyddi eglwysig, yn enwedig felpechod a throsedd sy'n groes i'rgyfraith ganonaidd. Yn ôl diffiniad ehangach mae'n cynnwys masnach mewn unrhyw fraint, bywoliaeth neu ddyrchafiad eglwysig, gan gynnwysmaddeuebau a gwrthrychau cysegredig.[4][5] O ganlyniad i hanes simoniaeth ynyr Eglwys Gatholig, mae deddfau yn erbyn y pechod yn llym iawn. Mae'n bosib i glerigwr sy'n euog o simoniaeth gael eiysgymuno.[4]
Arfer brin iawn oedd simoniaeth yng nghyfnod cynnar yr eglwys. Wrth iddi ddod yn gyfoethocach ac yn fwy dylanwadol yn y 4g, dechreuodd yr Eglwys Gatholig werthu urddau eglwysig. CyfraithCyngor Chalcedon (451) oedd yr ymgais cyntaf i ymdrin â'r mater. Gwaharddai cysegr-fasnach yn yr esgobaeth, yr offeiriadaeth, a'r ddiaconiaeth. Yn hwyrach fe estynodd y trosedd i gynnwys prynu a gwerthu pob un fywoliaeth eglwysig a phob pryniant ariannol ar yrofferen (ac eithrio'roffrwm awdurdodedig), olewon cysegredig, a bendithiau eraill. Er ei statws anghyfreithlon, lledaenodd yr arfer ac roedd simoniaeth yn rhemp ar draws Ewrop erbyn y 9g a'r 10g.[6] Simoniaeth enbyd a chyffredin oedd y sbardun pwysicaf i ddiwygiadau'r Babaeth yn y 11g. Llwyddodd yPab Grigor VII (1073–85) i leihau'r achosion o simoniaeth. Yn ôl cyfraith yPab Iŵl II (1503) mae modd i simoniaeth annilysu'r etholiad pabaidd. Yn sgilCyngor Trent yn (1545–63) fe waharddid gwerthu maddeuant a ni cheir gwerthu gwrthrychau cysegredig.[4] Wedi'r 16g, diflanodd simoniaeth amlwg wrth i'r Eglwys Gatholig golli ei grym, ei gwaddolion a'i heiddo.[6]
Paentiad olew gan Avanzino Nucci o Simon y dewin (mewn gwisg ddu) yn cynnig ei arian i Bedr (1620).
"Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan oedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. "Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân," meddai. Ond dyma Pedr yn ei ateb, "Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau." Meddai Simon, "Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi."
Daw'r enw simoniaeth oSimon y dewin, cymeriad Beiblaidd a geisiodd brynu doniau'rYsbryd Glân oddi ar yr ApostolionPedr acIoan. Traddodai ei hanes yn wythfed bennodActau'r Apostolion yny Testament Newydd. Câi'r cynnig ei wrthod gan Bedr sy'n rhybuddio Simon rhag pechu drwy geisio prynu rhodd Duw. Bathai'r gairsimōnia yn yLladin Diweddar i grybwyll stori Simon y dewin. Datblygodd y ffurfsimonie yn yr Hen Ffrangeg.[8] Ymddengys "symoniaeth" yn Gymraeg ar ddechrau'r 15g, a daeth y gair i'r Gymraeg naill ai o'r Saesneg Canolsimon(i) neu'n uniongyrchol o'r Hen Ffrangeg.[2] Ceir hefyd y ffurfiausimonaeth,[2]simonyddiaeth,[9]simoni,[10] asimonai[10] yn y Gymraeg. Dyddia'r cyfansoddaircysegr-werth o'r flwyddyn 1630,[11] a "cysegr-fasnach" (sy'n fwy cyffredin heddiw) o 1798.[3]
Darluniad ganWilliam Blake o artaith y "Pab Simonaidd".
Ysgythriad ganGustave Doré o Dante, yng nghwmniFyrsil, yn annerch y Pab Niclas III.
YnNwyfol CânDante (Canto XIX, Inferno) mae portread enwoca'r simonwyr yn llenyddiaeth Ewrop. Yn wythfed gylchuffern (Malebolge), carcharai'r simonwyr yn y drydedd ffos (bolgia). Cenir Dante am gysegr-fasnach mewn trosiadau sy'n gwyrdroi glân iaith y Cristion: condemnia'r rhai yma yn gosb am "buteinio'r briodferch sanctaidd", sef yr eglwys a chanddi stad briodasol â'r priodfabCrist.[12] Rhoddir y pechadur â'i ben i waered mewn twll yn y graig, mewn dynwarediad o'rbedyddfaen, a'r tân yn llosgi'r traed. Ymddengys sawl pab ymhlith y collfarnedig:Niclas III,Boniffas VIII, aClement V ("Pab Avignon", a oedd yn byped iPhilip IV, brenin Ffrainc).