Zimbabwe Arwyddair Undeb, Rhyddid, Gwaith Math gweriniaeth , gwladwriaeth sofran,gwlad dirgaeedig ,gwlad Enwyd ar ôl Simbabwe Fawr Prifddinas Harare Poblogaeth 15,178,979 Sefydlwyd Annibyniaeth ar 18 Ebrill 1980 Anthem Anthem Genedlaethol Simbabwe Pennaeth llywodraeth Emmerson Mnangagwa Cylchfa amser UTC+2, Africa/Harare Iaith/Ieithoedd swyddogol Saesneg ,Shona , Ndebeleg y Gogledd,Chichewa , Barwe, Kalanga,Ieithoedd Khoisan , Ndau, Tsonga, Iaith Arwyddo Simbabwe,Sesotho , chitonga,Setswana , Venda,Xhosa , Nambieg Daearyddiaeth Rhan o'r canlynol De Affrica ,Dwyrain Affrica Gwlad Simbabwe Arwynebedd 390,757 km² Yn ffinio gyda Sambia ,Mosambic ,De Affrica ,Botswana Cyfesurynnau 19°S 30°E Gwleidyddiaeth Corff deddfwriaethol Senedd Simbabwe Swydd pennaeth y wladwriaeth Arlywydd Simbabwe Pennaeth y wladwriaeth Emmerson Mnangagwa Swydd pennaeth y Llywodraeth Arlywydd Simbabwe Pennaeth y Llywodraeth Emmerson Mnangagwa Ariannol Cyfanswm CMC (GDP ) $28,371 million, $20,678 million Arian doler yr Unol Daleithiau ,punt sterling , Doler Awstralia,Ewro , Rand De Affrica,Yen ,Renminbi , rupee Indiaidd, Zimbabwean dollar Canran y diwaith 5 ±1 canran Cyfartaledd plant 3.923 Mynegai Datblygiad Dynol 0.593
Gwlad ynAffrica Ddeheuol ywGweriniaeth Simbabwe neuSimbabwe (hefydZimbabwe ). Lleolir y wlad rhwng afonyddZambezi aLimpopo . Mae'n ffinio âDe Affrica i'r de, âBotswana i'r gorllewin, âSambia i'r gogledd ac âMosambic i'r dwyrain ac nid oes ganddi fynediad i'r môr.Harare ywprifddinas y wlad. Cynannibyniaeth roedd Simbabwe (Rhodesia ) ynwladfa Brydeinig .
Rhan o furiauSimbabwe Fawr Roedd Simbabwe yn ganolfan iymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas ynSimbabwe Fawr .Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan yMatabele . Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwrimperialaidd oSais Cecil Rhodes a'rCwmni Prydeinig De Affrica yn1895 a chafodd ei henwi'nRhodesia ar ei ôl.
DatganoddIan Smith ,prif weinidog gwyn y wlad,annibyniaeth unochrog (UDI ) oddi ar Brydain yn1965 a datganwydgweriniaeth yno yn1970 .
Ar ôlrhyfel herwfilwrol hir daethRobert Mugabe , arweinyddZANU (PF) , yn arlywydd y wlad (gweler isod ), yn1980 .
Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn gorwedd ar wastatir uchel, dros 3,300' (1000m) i fyny ar gyfartaledd. Mae llawer o'r tir ynsafana .
Rhennir Simbabwe yn wythtalaith a dwy ddinas â statws taleithiol. Is-rennir y taleithiau hynny yn 59 ardal a 1,200 ardal ddinesig.
Taleithiau ac ardaloedd Simbabwe Mae'r taleithiau'n cynnwys:
Ardaloedd: gwelerArdaloedd Simbabwe
Ardaloedd dinesig: gwelerArdaloedd dinesig Simbabwe
Mae mwyafrif helaeth y bologaeth yn boblBantŵ . Ceir yn ogystal lleiafrif o bobl o drasEwropeaidd acAsiaidd , ond mae eu nifer wedi gostwng yn sylweddol mewn canlyniad i'r sefyllfa gwleidyddol diweddar.
Yn ôl cyfansoddiad 2013, mae gan Simbabwe 16 iaith swyddogol:Saesneg ,iaith arwyddion a 14 iaith Affricanaidd; y pwysicaf ohonynt ywNdebele aShona .