Hanesydd oTsieina yng nghyfnodBrenhinllin Han oeddSima Qian (司马迁) (ca.145 CC - ca.86 CC). Ef oedd awdur yShiji, y llyfr cynharaf ar hanes Tsieina sydd wedi ei gadw yn ei gyfanrwydd.
Ceir dwy ffynhonnell am ei fywyd. Diweddodd Sima Qian ei Shiji gydaxu (diweddglo), lle mae'n rhoi manylion am ei dad,Sima Tan, a rhywfaint o'i hanes ei hun. Ceir hefyd fywgraffiad diweddarach ohono. Rhwng 140 CC a 110 CC, roedd ei dad,Sima Tan, yng ngwasanaeth yr ymerawdwrHan Wudi feltaishi ling (太史令), seryddwr, sêr-ddewin a hanesydd y llys. Ganed Sima Qian yn Longmen, gerHancheng yn nhalaithShaanxi heddiw. Cafodd gefnogaeth ariannol gan ei dad i deithio i gasglu gwybodaeth hanesyddol, gan gyrraeddKunming ynYunnan heddiw yn 111 CC. Cyflwynwyd ei adroddiad i'r ymerawdr.
Bu farw ei dad yn 110, ac olynodd Sima Qian ef feltaishi ling yn 108 CC. Dechreuodd gasglu deunydd ar gyfer ei hanes, a dywedir iddo gymeryd rhan yn y gwaith o baratoi calendr newydd yn 104 CC. Yn 99 CC, collodd ffafr yr ymerawdwr oherwydd ei gefnogaeth i'r cadfridog Li Ling. Roedd Li Ling wedi arwain byddin yn erbyn yXiongnu. Pan ddaeth yn amlwg ei fod yn mynd i gael ei orchfygu, ildiodd Li Ling i'r Xiongnu. Ystyriai'r ymerawdwr y dylai fod wedi marw yn hytrach nag ildio. Amddiffynnwyd Li Ling gan Sima Qian, a chan fod hyn yn cael ei ystyried fel beirniadath o'r ymerawdwr, dedfrydwyd ef i gael ei sbaddu.
Mae'r Shiji, neu "Cofnodion y Prif Hanesydd" yn cofnodi hanes Tsieina dors gyfnod o fwy na dwy fil o flynyddoedd, o'rYmerawdwr Melyn hyn yr ymerawdwr Han Wudi.