Mae cylchdro'r Ddaear o amgylch yr Haul yn achosi mudiant ymddangosiadol y diwethaf ar hyd yr ecliptig (coch). Mae'r Ddaear ar ogwydd echelinol 23.4° o'i gymharu â'r plân hwn; dangosir ei chyhydedd, wedi'i ymestyn i'r sêr, mewn glas golau.
Ardal siâp gwregys o'r awyr sy'n amgylchynu'rDdaear yw'rSidydd (Groeg: ζῳδιακός,zōidiakos; Saesneg:Zodiac). Yn rhedeg ar hyd canol y gwregys mae'recliptig, llwybr ymddangosiadol yrHaul ar draws y sffêr wybrennol yn ystod y flwyddyn. O fewn y gwregys hwn, sy'n ymestyn tua 8° i'r gogledd a'r de o'r ecliptig, y mae'rLleuad a'rplanedau i'w gweld. Rhennir y Sidydd ar hyd yr ecliptig yn 12 rhan gyfartal, a elwir yn "arwyddion", pob un yn llenwi 30° o hydred wybrennol. Mae'r arwyddion hyn yn rhannu enwau âchytserau seryddol modern –Aries,Taurus,Gemini,Cancer,Leo,Virgo,Libra,Scorpio,Sagittarius,Capricorn,Aquarius, aPisces. Fodd bynnag, dim ond yn fras y mae'r arwyddion a'r cytserau yn cyfateb i'w gilydd. Mae'r cytserau yn afreolaidd eu siâp a'u maint, felly nid yw'r Haul yn treulio mis ym mhob un. Mae'r Haul hyd yn oed yn mynd trwy'r cytserOphiuchus nad yw'n arwydd y Sidydd. Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol bellach.
Diagram oScenographia Systematis Mundani Ptolemaici gan Andreas Cellarius (1660), yn dangos gwregys y Sidydd o amgylch y Ddaear
Rhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis o'r flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Mae'r tabl hwn yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan fydd yr haul yn mynd drwyddynt.
Mae rhan gyntaf LlawysgrifGutun Owain (gweler y ddelwedd uchod) yn cynnwys cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth. Roedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ledled Ewrop erbyn y15g ac roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill ac iechyd a medygaeth gan y byddent yn effeithio ar "hiwmorau"'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar "hiwmor" yn bodoli ers cyfnod yGroegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar yr hiwmorau hyn yn achosi afiechyd.
Olwyn y Sidydd: Mosäig o synagog Beit Alpha yn Israel, yn cynrychioli arwyddion y Sidydd
Y llawysgrif gwyddonol hynaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: planisffer gyda thestun Lladin o tua 1000 OC a luniwyd yn ardalLimoges,Ffrainc