Sichuan |
| Math | talaith Tsieina  |
|---|
|
| Prifddinas | Chengdu  |
|---|
| Poblogaeth | 81,100,000, 83,674,866  |
|---|
| Sefydlwyd | - 7 Awst 1952

|
|---|
| Pennaeth llywodraeth | Yin Li, Huang Qiang  |
|---|
| Cylchfa amser | UTC+08:00  |
|---|
| Gefeilldref/i | Ceprano,Yamanashi,Hiroshima  |
|---|
| Daearyddiaeth |
|---|
| Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina  |
|---|
| Gwlad | Tsieina |
|---|
| Arwynebedd | 485,000 km²  |
|---|
| Yn ffinio gyda | Chongqing,Rhanbarth Ymreolaethol Tibet,Gansu,Yunnan,Qinghai,Guizhou,Shaanxi  |
|---|
| Cyfesurynnau | 30°N 103°E  |
|---|
CN-SC  |
| Gwleidyddiaeth |
|---|
| Corff gweithredol | People's Government of Sichuan Province  |
|---|
| Corff deddfwriaethol | Sichuan Provincial People's Congress  |
|---|
| Pennaeth y Llywodraeth | Yin Li, Huang Qiang  |
|---|
 |
| Crefydd/Enwad | Taoaeth,Bwdhaeth,yr Eglwys Gatholig Rufeinig,Protestaniaeth,Islam  |
|---|
| Ariannol |
|---|
| Cyfanswm CMC (GDP) | 4,859,880 million ¥  |
|---|
|
|
Talaith yng ngorllewinGweriniaeth Pobl Tsieina ywSichuan (Tsieinëeg:四川省; pinyin:Sìchuān Shěng). Roedd y boblogaeth yn2002 yn 86,730,000. Prifddinas y dalaith ywChengdu.
Hyd 1997, Sichuan oedd talaith fwyaf poblog Tsieina, ond y flwyddyn honno daethChungking, oedd cyn hynny yn rhan o'r dalaith, yn dalaith ddinesig ar wahân. gan leihau'r boblogaeth o 30.2 miliwn. Saif Sichuan yn awr yn drydydd ymhlith taleithiau Tsieina o ran poblogaeth. Perthyna 95% o boblogaeth y dalaith i grŵp ethnig yTsineaid Han, gyda'r 5% arall yn perthyn i nifer o grwpiau megis yrYi,Tibetiaid,Qiang,Miao aHui.
Mae rhan orllewinol y dalaith yn cynnwys mynyddoedd mwyaf dwyreiniol yrHimalaya. Y copa uchaf ywGongga Shan, 7590 medr uwch lefel y môr. Perthyna'r rhan yma o'r dalaith i diriogaeth hanesyddolTibet. Yn2006, cyhoeddwydGwarchodfa Natur Wolong, gwarchodfa a sefydlwyd i ddiogelu'rPanda Mawr, ynSafle Treftadaeth y Byd.
Ar12 Mai2008 effethiwyd ar y dalaith ganddaeargryn difrifol.