MaeSiawarma (/ʃəˈwɑːrmə/;Arabeg:شاورما), hefydshawarma,shaurma,chawarma a sillafiadau eraill, yn bryd bwyd cig o'rDwyrain Canol sy'n seiliedig ar y cebab doner.
Yn wreiddiol o gig oen neu dafad, gall y siawarma gyfoes gynnwys cyw iâ, twcri, cig eidion neu cig lle. Torrir y cig yn dafellau tennau a'i llwytho i greu tŵr neu corn ar rhost-droellwr neubêr-droell.[1][2][3] Caiff tafellau tennau o'r côn sydd wedi eu cogion gan y tân, eu heillio oddi ar y wyneb wrth i'r tŵr gylchroi'r ddi-stop.[4][5]
Mae'r siawarma yn un o brydau bwyd stryd mwyaf poblogaidd y byd, yn enwedig yng ngwledydd yLefant a phenrhyn Arabia.[6]
Ymddangosodd yr arfer o greu tŵr o gig wedi tafellu eu goginio a'i ber-droellu ynNhwrci adeg yrYmerodraeth yr Otomaniaid yn y 19g, lle galwyd hi yndöner kebap.[7][8] Shawarma, felgyros, yn dod ohono.[9] Cyflwynwyd y siawarma iFecsico gan fewnfudwyr o'r Dwyrain Canol lle ddatblygodd ar ddechrau'r 20g fewn i'rtacos al pastor.
MaeSiawarma yn ymgaisArabeg ar y gairTwrcegçevirmetʃeviɾˈme 'troi', sy'n cyfeirio at y droi'r rhost-droell/bêr-droell cig.[10] Mae'r geiriau Twrceg aGroeg,döner agyros, hefyd yn cyfeirio at 'droi'.
Caiff Siawarma ei baratoi wrth dorri darnau tennau o gig oen, dafad, eidion, cyw iâr, neu dwrci wedi eumarinadu. Bydd y tafelli'n cael eu llwytho ar sgiwer sydd oddeutuLua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value). o uchder. Caiff braster oen ei ychwanegu er mwyn ategu at y blas a lleithder. Bydd y sgiwer llawn cig yn troi'n araf o flaen tân gan rhostrio'r haen allanol. Caiff siafins o'r cig eu torri gan gyllell hir finiog, neu, teclyn drydannol pwrpasol, â llaw[11] neu beirianyddol.[12]
Caiff y siawarma ei weini ar blât ond mae'n fwy arferol felbrechdan wrap tu fewnbara fflat fellaffa neubara pita. Gweinir yn aml gyda thomatos, ciwcymber, winwns, llysiau picledig a sawstahini neu saws mangoamba.[3]
↑Eberhard Seidel-Pielen (May 10, 1996)."Döner-Fieber sogar in Hoyerswerda" [Doner fever even in Hoyerswerda].ZEIT ONLINE (yn German). CyrchwydMay 6, 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
↑Kenneth F. Kiple, Kriemhild Coneè Ornelas, eds.,Cambridge World History of Food, Cambridge, 2000.ISBN0-521-40216-6. Vol. 2, p. 1147
↑Aglaia Kremezi and Anissa Helou, "What's in a Dish's Name", "Food and Language",Proceedings of the Oxford Symposium on Food and Cookery, 2009,ISBN190301879X