| Siân Thomas | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Gorffennaf 1959 Pen-y-graig |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio,ysgrifennwr |
Darlledwraig ac awdur o Gymru ywSiân Thomas (ganwyd13 Gorffennaf1959).[1] Mae'n adnabyddus fel un o wynebau cyntaf S4C ac am gyflwyno rhaglenni cylchgrawnHeno,Wedi 7 aPrynhawn Da.
Ganwyd Siân Elizabeth Thomas ymMhenygraig yn y Rhondda. Roedd yn ferch i weinidog ac fe'i magwyd yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe lle mynychoddYsgol Gyfun Ystalyfera.[2][1] Ers yn ifanc, roedd eisiau bod yn archeolegydd a gweithio yn yr Aifft yn arbennig. Ond nid oedd yn bosib astudio hen hanes yn ei hysgol, felly penderfynodd astudio Cymraeg a chadw Eifftoleg fel diddordeb.
Tra yn y chweched dosbarth, chwiliodd am waith dros yr haf, i ennill tipyn o arian ychwanegol. Cafodd y cyfle i weithio ar y dderbynfa yng ngorsaf radioSain Abertawe, am dair wythnos. Rai wythnosau yn ddiweddarach cafodd alwad ffôn gan Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg yr orsaf ar y pryd, yn gofyn a oedd ganddi ddiddordeb mewn cyflwyno rhaglen fyw ar ganu ysgafn Cymraeg. Wedi gwneud rhaglen brawf, cychwynnodd y swydd a chael hyfforddiant ar weithio’r ddesg rheoli. O fewn wythnos roedd hi'n cyflwyno rhaglen radio wythnosol yn fyw am ddwy awr bob nos Wener.
Aeth i astudio ymMhrifysgol Abertawe gan dderbyn gradd BA yn y Gymraeg cyn mynd ymlaen i gwblhau MA mewn tafodieitheg a chymdeithaseg iaith yn yr adran Gymraeg. Parhaodd gyda'i sioe radio drwy ei chyfnod yn y coleg, a chael profiad o bob agwedd o ddarlledu radio – o gasglu straeon newyddion, golygu tapiau, gwerthu 'air time' hysbysebion a gwneud ‘jingles’.[3]
Wedi gadael y coleg, aeth i weithio am ychydig fisoedd fel ymchwilydd ar rhaglenStondin Sulwyn gyda BBC Radio Cymru yn Abertawe.[1] Erbyn hynny roedd S4C yn paratoi i lansio a gwelodd Siân hysbyseb am swydd gyflwyno.[3]
Cafodd ei dewis yn un o'r tri cyflwynwyr dilyniant gwreiddiol ar S4C ynghyd a'r gyn-athrawes Rowena Jones-Thomas a'r cyflwynydd profiadol gynt o'r BBC,Robin Jones. Cychwynnodd ei swydd yng Ngorffennaf 1982.[4]
Pan lansiwyd y sioe gylchgrawn ddyddiol newyddHeno yn 1990, roedd yn un o'r cyflwynwyr gwreiddiol ynghyd agAngharad Mair,Glynog Davies acIestyn Garlick.[5] Aeth ymlaen i gyflwynoWedi 7 aWedi 3 pan ail-enwyd y rhaglenni, cyn parhau arHeno aPrynhawn Da.
Mae'n awdur Cyfres Dwy Genhedlaeth, a gyhoeddir gan Y Lolfa.[6]
Mae wedi darlledu yn gyson arRadio Cymru. Roedd yn un o gyflwynwyr y Post Cyntaf yng nghanol y 1990au a cyflwynodd ei sioe ei hun yn y 2000au cynnar.[7]
Priododd Don Higgins yn 2016 ac mae'n byw yng Nghaerdydd.[8]