Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Sgriptoriwm

Oddi ar Wicipedia
Sgriptoriwm

Ysgrifendy mewn mynachlog lle copiwydllawysgrifau â llaw yn yrOesoedd Canol ywsgriptoriwm (benthyciad o'r gairSaesnegscriptorium (lluosog:scriptoria) sydd yn ei dro yn fenthyciad o'rLladin canoloesolscript-,scribere (ysgrifennu), gyda-orium yn ansoddair sy'n dynodi 'lle': felly "lle ar gyfer ysgrifennu"). Fel rheol, lle ceidsgriptoriwm ceidllyfrgell yn ogystal.

O gyfnod eu tarddiad yn y6g ar gyfandirEwrop ymlaen, chwareodd sgriptoriau ran bwysig fel cyfryngau i drosglwyddo etifeddiaeth lenyddol yrHenfyd i'r dyfodol, ac wrth wneud hynny, yn ddethol, daethant i ddiffinio diwylliant cyffredin Ewrop, sef diwylliant Lladin yr Oesoedd Canol. Copïai mynachod lyfrau pwysig felBeibl LladinFwlgat SantJerome a gweithiauTadau'r Eglwys fel SantAwstin o Hippo. Roedd y llawysgrifau hyn yn fodd i ledaenu dysg ledled Ewrop. Yn ddiweddarach, cafodd llawysgrifau yn yr ieithoedd brodorol eu cynhyrchu yn y sgriptorau hefyd, e.e.Llyfr Du Caerfyrddin yngNghymru, y credir iddo gael ei ysgrifennu yn sgriptoriwmPriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yngNghaerfyrddin.

Rhennid y gwaith yn y sgriptoriwm fel rheol. Gwaith rhai mynachod oedd paratoi'rmemrwn trwy ei smwddio a'i galchu, tra bod eraill yn tynnu llinellau ar y tudalennau ac yn ysgrifennu'r testun. Ar gyfer gwaith arbennig roedd gan y mynachlogydd mawr arlunwyr i ddarlunio a lliwio'r testun. Mewn mynachlogydd llai efallai mai gwaith un mynach fyddai'r cyfan.

O ddechrau'r13g wynebai'r sgriptorau gystadleuaeth gan weithdai copïo seciwlar ar gyfer pobl llëyg. Ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn yrEidal, cafwyd siopau llyfrau yn y dinasoedd, felFflorens, o tua1250 ymlaen. Byddent yn gweithio gyda'r gweithdai copïo ac erbyn diwedd y15g roeddent wedi disodli'r mynachlogydd.

Am fod sgriptoriwm unigol yn tueddu i fod yn ynysig ac i ddatblygu ffurfiau sgript neilltuol, maepaleograffwyr heddiw yn medru dyddio llawysgrifau'n fanwl trwy gymharu arddull.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Sgriptoriwm&oldid=2129493"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp