Aderyn arhywogaeth o adar ywSgiwen fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgiwennod mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonolCatharacta skua; yr enw Saesneg arno ywGreat skua. Mae'n perthyn ideulu'r Sgiwennod (Lladin:Stercoraridae) sydd ynurdd yCharadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yngNghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml ynC. skua, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ynEwrop,Affrica acAwstralia.
Mae'r Sgiwen Fawr yn un o'r mwyaf o'r sgiwennod, tua 50–58 cm o hyd a 125–140 cm ar draws yr adenydd. Mae'n nythu yngNgwlad yr Ia,Norwy,Ynysoedd Ffaro ac ynysoeddyr Alban, ar dir agored fel rheol. Dodwyir dau wy fel rheol, ac mae'r aderyn yn ymosod ar unrhyw anifail sy'n dod yn rhy agos at y nyth, gan gynnwys bodau dynol. Mae'naderyn mudol, yn symud tua'r de a thua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf, gan gyrraedd cyn belled ag arfordirGogledd America.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas glannau Cymru yn yr hydref, a gellir gweld nifer llai yn y gwanwyn ac ambell un yn ystod y gaeaf.
Safonwyd yr enwSgiwen fawr gan un o brosiectau. Mae cronfeydd dataLlên Natur (un o brosiectauCymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agoredCC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adranBywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.