Casgliad o wahanol fathau o sgïau alpaidd, gyda rhai traws-gwlad a telemarc ar y chwith
Stribyn o ddeunydd lled-galetsyth sy'n cael ei wisgo o dan y droed i lithro droseira yw sgi. Gryn dipyn yn hirach o ran hyd nag o led ac fel arfer mewn parau, mae sgïau yn cael eu cysylltu i esgidiau sgïo gan ddefnyddio rhwymau sgïo, gydasawdl rydd, wedi'i chloi neu wedi'i chysylltu yn rhannol. I ddringo llethrau, gall crwyn sgïo (a wnaed yn wreiddiol o ffwrmorloi, ond nawr o ddeunyddiau synthetig) gael eu cysylltu i ochr waelod y sgi.
Roedd sgïau wedi'u bwriadu yn wreiddiol i hwyluso teithio dros eira, ond maen nhw bellach yn cael eu defnyddio yn bennaf fel gweithgaredd hamdden wrth sgïo.
Daw'r gairsgi o'rHen Norwyegskíð sy'n golygu "pren hollt", "brigyn" neu "sgi".[1] Mae'r gair yn dal i gael ei ddefnyddio mewnNorwyeg Fodern i gyfeirio atgoed tân sydd wedi'i hollti a choed ar gyfer adeiladu.[2][3] Mewn Norwyeg mae'r gair yn cael ei ynganu [ˈʃiː]. Mewn Swedeg, iaith arall a esblygodd o'r Hen Norwyeg, y gair ywskidor.
Cafodd y sgïau pren hynaf yn y byd eu darganfod mewn mannau sydd bellach yn cael eu hadnabod fel Rwsia (tua 6300–5000 CC),Sweden (tua 5200 CC) a Norwy (tua 3200 CC).[4]