Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Sgandal Andrew Mountbatten-Windsor a Jeffrey Epstein

Oddi ar Wicipedia
Y llun enwog oAndrew Mountbatten-Windsor gydaVirginia Giuffre aGhislaine Maxwell, Mawrth 2001

Mae perthynasAndrew Mountbatten-Windsor (a elwid gynt ynDywysog Andrew, Dug Efrog) â'r diweddar droseddwr rhyw a chyllidwr o'r Unol Daleithiau,Jeffrey Epstein, yn sgandal bydeang, gyda goblygiadau sylweddol i'rteulu brenhinol Prydeinig. Cyfarfu Andrew a Jeffrey ym 1999 pan drefnwyd cyfarfod rhwng y ddau ganGhislaine Maxwell (masnachwr rhyw a farnwyd yn euog, yn ddiweddarach), gydag Epstein yn mynychu digwyddiadau yngNghastell Windsor aThŷ Sandringham, adeiladau'r Goron yn Lloegr. Daeth perthynas y ddau yn fater cyhoeddus a chraffwyd yn ddwys ar y berthynas wedi i Epstein gael ei ddedfrydu'n euog yn 2008 am gaffael plentyn dan oed ar gyferputeindra, ond serch i Epstein gael ei ddedfrydu, ymwelodd Andrew ag ef ynEfrog Newydd yn 2010 wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar, penderfyniad a ddisgrifiodd Andrew'n ddiweddarach fel "camgymeriad".

Erbyn Chwefror 2026 y cwestiwn a ofynwyd, yn dilyn rhyddhauffeiliau Epstein, oedd i ba raddau roedd brawd Andrew, sefCharles III brenin Lloegr, yn ymwybodol o berthynas Andrew gydag Epstein.[angen ffynhonnell]

Dyfnhaodd y ddadl gyda honiadau difrifol ganVirginia Giuffre, a honnodd ei bod wedi cael ei "masnachu" (ei gwerthu am ryw) gan Epstein a Maxwell a'i gorfodi i gael perthynas rywiol ag Andrew ar dair achlysur yn gynnar yn y2000au, gan ddechrau pan oedd hi'n 17 oed; 18 oed yw'roed cydsynio yn yr Unol Daleithiau.

Gwadodd Andrew yr honiadau'n gyson ac yn bendant, gan ddatgan mewn cyfweliad gyda rhaglenNewsnight y BBC yn 2019 nad oedd yn cofio cyfarfod â Giuffre erioed. Cafodd y cyfweliad ei feirniadu'n eang a'i ystyried yn niweidiol i'w hygrededd. Yn dilyn yr ymateb cyhoeddus a'r pwysau cynyddol, camodd Andrew'n ôl o ddyletswyddau brenhinol cyhoeddus yn Nhachwedd 2019, ac yn Ionawr 2022 tynnoddy Frenhines Elizabeth II o Loegr ei freintiau milwrol a'i ddefnydd o'r enw "Ei Uchelder Brenhinol" (His Royal Highness). Ei lysenw yn yr 1980au oedd "Randy Andy".[1]

Cafoddachos sifil a gyflwynwyd gan Giuffre yn erbyn Andrew ei setlo y tu allan i'r llys yn Chwefror 2022 am swm anhysbys, gydag Andrew yn gwneud taliad i Giuffre heb unrhyw gyfaddefiad o atebolrwydd. Deellir fod y taliad gan deulu brenhinol Lloegr wedi bod yn un enfawr ("a substantial donation").

Yn Hydref 2025, yng nghanol beirniadaeth barhaus ynghylch ei gysylltiad ag Epstein, cychwynnwyd proses ffurfiol i ddileu teitlau ac anrhydeddau Andrew sy'n weddill gan ei frawd,Charles III, brenin Lloegr. Yng ngwanwyn 2026 gadawodd ei breswylfa, sef y Royal Lodge (a dderbyniai yn ddi-dâl), ac wedi symud i eiddo ar Ystâd Sandringham yn Norfolk. Arweiniodd y craffu ar berthynas Andrew ag Epstein hefyd at graffu ar gysylltiadau ffigurau cyhoeddus eraill ag Epstein, yn enwedig perthynas Peter Mandelson, Donald Trump, ac eraill gydag Epstein.

Cefndir

[golygu |golygu cod]

Yn Ionawr 2015, pwysodd y cyfryngau a'r cyhoedd arBalas Buckingham i egluro cysylltiad Andrew ag Epstein. Nododd Palas Buckingham fod "unrhyw awgrym o amhriodoldeb gyda phlant dan oed yn gwbl anghywir", ac yn ddiweddarach ailadroddodd y Palas eu bod yn gwadu unrhyw amhriodoldeb.[2] Cafodd sawl cais gan gyfreithwyr Giuffre am ddatganiad gan Andrew am yr honiadau, dan lw, eu dychwelyd heb eu hateb.[3][4]

Dywedodd Giuffre ei bod wedicael rhyw gydag Andrew ar dair achlysur, gan gynnwys pan oedd ar daith iLundain yn 2001 a hithau'n ddim ond 17 oed,[5] ac yn ddiweddarach yn Efrog Newydd ac arYnysoedd y Wyryf yn ystodorji (cywestach).[6][7] Honnodd fod Epstein wedi talu $15,000 iddi ar ôl iddi gael rhyw gydag Andrew yn Llundain. Mae logiau hedfan yn dangos bod Andrew a Giuffre yn y lleoedd yr honnodd iddynt gyfarfod.[8][9] Tynnwyd lluniau o Andrew a Giuffre gyda'i gilydd hefyd gyda'i fraich o amgylch ei chanol (gweler uchod), gyda chydymaith Epstein, sef Maxwell, yn y cefndir,[10] er bod cefnogwyr Andrew wedi dweud dro ar ôl tro bod y llun yn ffug ac wedi'i olygu.[11] Dywedodd Giuffre bod cryn bwysau wedi ei roi arni i gael rhyw gydag Andrew ac "na fyddai wedi meiddio gwrthwynebu" gan y gallai Epstein, trwy gysylltiadau, ei "lladd neu ei herwgipio".[12] Mae e-bost a anfonwyd gan "G. Maxwell" at Jeffrey Epstein yn 2015, a ryddhawyd fel rhan offeiliau Epstein, i bob golwg yn cadarnhau bod llun wedi'i dynnu, gan ddarllen: "Yn 2001 roeddwn i yn Llundain pan [wedi'i olygu] gyfarfûm â nifer o ffrindiau i mi gan gynnwys y Tywysog Andrew. Tynnwyd llun gan fy mod i'n dychmygu ei bod hi eisiau ei ddangos i ffrindiau a theulu."[13] ac mae'r BBC a ffynonellau newyddion eraill wedi cysylltu hyn â'r llun enwog penodol a drafodir uchod.

Dywedodd Juan "John" Alessi, a oedd yn fwtler i Epstein, mewn tystiolaeth a ffeiliodd ar gyfer achos enllib Giuffre yn 2016 yn erbyn Maxwell fod ymweliadau Andrew â thŷ Epstein ynPalm Beach yn amlach nag a feddyliwyd yn flaenorol. Mynnodd fod Andrew wedi "treulio wythnosau gyda ni" ac wedi derbyn "tylino (massage) dyddiol".[14]

Yn Awst 2019, datgelodd dogfennau llys yn gysylltiedig ag achos enllib rhwng Giuffre a Maxwell fod ail ferch, Johanna Sjoberg, wedi rhoi tystiolaeth yn honni bod Andrew wedi rhoi ei law ar ei bron tra roedd ym mhlasty Epstein pan oedd yn cael tynnu ei lun gyda'i bypedSpitting Image.[15] Yn ddiweddarach y mis hwnnw, rhyddhaodd Andrew ddatganiad a ddywedodd, "Ar unrhyw adeg yn ystod yr amser cyfyngedig a dreuliais gydag [Epstein] ni welais... unrhyw ymddygiad o'r math a arweiniodd wedyn at ei arestio a'i gollfarnu", er iddo fynegi gofid am gyfarfod ag ef yn 2010 ar ôl i Epstein bledio'n euog i droseddau rhyw am y tro cyntaf.[16]

Yn Nhachwedd 2025, gofynnoddPwyllgor Goruchwylio Tŷ'r Unol Daleithiau i Andrew dystio i'w helpu i adnabod unrhyw un o gyd-gynllwynwyr Epstein, oherwydd "honiadau wedi'u dogfennu'n dda yn eich erbyn, ynghyd â'ch cyfeillgarwch hirhoedlog â Mr. Epstein".[17] Ni ymatebodd Andrew erbyn y dyddiad cau ar 20 Tachwedd.[18] Pan ofynnwyd iddo am Andrew, dywedodd y Prif WeinidogKeir Starmer wrth ohebwyr "fel egwyddor gyffredinol ... y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol" ei darparu i ymchwilwyr.[19]

Yn Chwefror 2026, cafwyd adroddiad gan y BBC o lythyr cyfreithiol o 2011 offeiliau Epstein. Honnodd y llythyr foddawnswraig egsotig ddienw wedi cael ei chyflogi am $10,000 yn 2006 i berfformio yng nghartref Epstein yn Fflorida iddo ef ac Andrew ac iddi gael cynnig cymryd rhan mewntriaiwd rhyw (threesome). Dywedodd mai dim ond $2,000 a dderbyniodd am ei gwaith.[20][21]

Cyfarfod Trump ag Andrew, a ddisgrifiwyd gan Epstein fel un "doniol".[22]

Ar 20 Tachwedd 2019, cyhoeddodd Palas Buckingham fod Andrew yn atal ei ddyletswyddau cyhoeddus "am y dyfodol rhagweladwy".[23] Cymerodd aelodau eraill o'r teulu brenhinol ofal o'i ymrwymiadau am y tymor byr.[24] Ar 24 Tachwedd cadarnhaodd y palas y byddai Andrew yn camu i lawr o bob un o'r 230 o gyrff roedd yn gysylltiedig â nhw er iddo fynegi awydd i gael rhyw fath o rôl gyhoeddus rywbryd yn y dyfodol.[25]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. http://www.express.co.uk/news/royal/471095/Koo-Stark-s-racy-past-ended-her-relationship-with-Prince-AndrewExpress; cyrchwyd 11 Hydref 2014
  2. Williams, Timothy (6 Ionawr 2015)."Alan Dershowitz Denies Suit's Allegations of Sex With a Minor".The New York Times. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 7 Ionawr 2015. Cyrchwyd7 Ionawr 2015.
  3. Meier, Barry (12 Rhagfyr 2015)."Alan Dershowitz on the Defense (His Own)".The New York Times.ISSN 0362-4331. Cyrchwyd31 Ionawr 2020.
  4. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  5. "Prince Andrew again denies having sex with Epstein victim".AP NEWS. 15 Tachwedd 2019. Cyrchwyd4 Chwefror 2020.
  6. "Prince Andrew's links to Jeffrey Epstein".BBC News. 16 Tachwedd 2019. Cyrchwyd4 Chwefror 2020.
  7. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  8. Empty citation (help)
  9. Williams, Timothy (6 Ionawr 2015)."Alan Dershowitz Denies Suit's Allegations of Sex With a Minor".The New York Times. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 7 Ionawr 2015. Cyrchwyd7 Ionawr 2015.
  10. Meier, Barry (12 Rhagfyr 2015)."Alan Dershowitz on the Defense (His Own)".The New York Times.ISSN 0362-4331. Cyrchwyd31 Ionawr 2020.
  11. Gardner, Bill (29 Awst 2019)."Prince Andrew's supporters say his 'chubby' fingers prove photo of him with Epstein victim is fake".The Telegraph. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 10 Ionawr 2022. Cyrchwyd30 Awst 2019.
  12. Greenslade, Roy"Prince Andrew story runs and runs – but editors should beware",The Guardian (blog), 5 Ionawr 2015
  13. "Email appears to confirm Andrew and Virginia Giuffre photo is real".BBC News. 4 Chwefror 2026. Cyrchwyd4 Chwefror 2026.
  14. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  15. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  16. Empty citation (help)
  17. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  18. Empty citation (help)
  19. Williams, Timothy (6 Ionawr 2015)."Alan Dershowitz Denies Suit's Allegations of Sex With a Minor".The New York Times. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 7 Ionawr 2015. Cyrchwyd7 Ionawr 2015.
  20. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  21. Empty citation (help)
  22. Durkee, Alison (November 12, 2025)."Jeffrey Epstein Claimed Trump Knew About 'Girls' In New Emails".Forbes (yn Saesneg). CyrchwydNovember 13, 2025.
  23. "Prince Andrew sex claims woman 'should not be believed'".BBC News. 3 Ionawr 2015.
  24. Empty citation (help)
  25. Williams, Timothy (6 Ionawr 2015)."Alan Dershowitz Denies Suit's Allegations of Sex With a Minor".The New York Times. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 7 Ionawr 2015. Cyrchwyd7 Ionawr 2015.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Sgandal_Andrew_Mountbatten-Windsor_a_Jeffrey_Epstein&oldid=14595381"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp