Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Seiri Rhyddion

Oddi ar Wicipedia
Seiri Rhyddion
Y tu fewn in Neuadd y Seiri Rhyddion yng Nghaerfyrddin
Enghraifft o:grŵp,brawdoliaeth Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgwrth-Saeryddiaeth Rydd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1717 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCyfrinfa Fawr Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02_l9 edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Sgwâr a'r Cwmpawd, un o symbolau amlycaf y Seiri Rhyddion.
(Weithiau ceir y llythyren G yn y canol.)
Ynydiad i'r Seiri Rhyddion yn y 18fed ganrif

Brawdoliaeth gyfrin a ddechreuwyd o bosib rhwng diwedd16g a dechrau'r17g yw brawdolaeth ySeiri Rhyddion (neuFasoniaeth)[1][2]

Mae tarddiad y mudiad yn niwlog a cheir fersiynau gwahanol o Fasoniaeth ledled y byd. Amcangyfrifir fod gan y mudiad tua chwe miliwn o aelodau, gyda thua 27,000 ohonynt ynyr Alban, 20,000 ynIwerddon, a thros 180,000 o dan reolaethCyfrinfa Unedig Lloegr[3] ac ychydig o dan dau filiwn ynyr Unol Daleithiau.[4]

Rhennir gweinyddiaeth y frawdoliaeth yn Brif Gyfrinfeydd, gyda phob un ohonynt yn gyfrifol am eu hardal eu hunain, sy'n cynnwys is-Gyfrinfeydd. Mae'r amryw Prif Gyfrinfeydd yn cydnabod ei gilydd ai peidio yn seiliedig ar dirnodau (mae Cyfrinfeydd Mawrion sy'n rhannu tirnodau cyffredin a'i gilydd yn ystyried ei gilydd yn Gyfrinfeydd Mawrion Cyson, a'r rhai nad ydynt yn gyson yn "anghyson" neu'n "ddirgel"). Mae canghennau hefyd yn bodoli sy'n rhan o brif ffrwd y Seiri Rhyddion, ond maent yn annibynnol o ran llywodraethu.

Defnyddia ysgrifenwyr rhyddiaeth ytrosiad o offer a theclynnau seiri maen, gydag adeiladuTeml y Brenin Solomon yn gefnlen alegorïaidd iddo ers blynyddoedd. Y bwriad yw i gyfleu'r hyn y mae Seiri Rhyddion a beirniaid o'r system wedi disgrifio fel "system foesol dan orchudd alegori ac wedi'i darlunio gan symbolau".[5][6] Mae'roperaDie Zauberflöte ("Y Ffliwt Hud") gan Mozart yn orlawn o'r math yma o symbolau.

Mae'r Seiri Rhyddion yn gwneud gwaithelusennol yn eu cymunedau ac yn hybu moesau a chyfeillgarwch gan aelodau'r frawdoliaeth. Mae natur gyfrinachol y Seiri Rhyddion wedi ennyn cryn wrthwynebiad trwy gydol eu hanes, yn ogystal â nifer oddamcaniaethau cydgynllwyniol.

Gwrthwynebiad i Fasoniaeth

[golygu |golygu cod]

Yr Eglwys Gatholig

[golygu |golygu cod]

Ers 1738 mae'rEglwys Gatholig yn gwahardd ei haelodau rhag ymaelodi â'r Seiri Rhyddion. Cyhoeddwyd nifer ofylau pabyddol sy'n ailadrodd cred yr Eglwys fod Masonieth yn groes i ddysgeidiaeth Gristnogol. Ni cheir Catholigion sy'n dod yn Seiri Rhyddion dderbyn ycymun. Yn 2023, wnaethPab Ffransis gadarnhau'r waharddiad Seiri Rhyddion gan yr Eglwys, a wnaethPab Benedict XVI hefyd gadarnhau'r waharddiad yn 1983.[7]

William Morgan

[golygu |golygu cod]

YsgrifennoddWilliam Morgan oEfrog Newydd (1774–1826?) lyfr yn erbyn y Seiri Rhyddion, sefThe Mysteries of Free Masonry.[8] Diflannodd o wyneb y Ddaear a chred rhai iddo gael ei herwgipio a'i ladd gan y frawdoliaeth.[9]

Mwslimiaid

[golygu |golygu cod]

MaeMwslimiaid yn edrych ar Saer Rhydd fel cefnogwr i Israel. Dywed Erthygl 28 o GyfamodauHamas fod athroniaeth y Seiri Rhyddion yn "gweithio drosSeioniaeth ac oddi tanynt".[10]

Natsïaeth

[golygu |golygu cod]

Oherwydd ymglymiad honedig y Seiri Rhyddion i Seioniaeth, danfonwyd llawer o Seiri Rhyddion iwersylloedd crynhoi gan yNatsïaid, lle bu rhaid iddynt wisgobathodyn coch oedd yn dynodi eu statws fel "carcharorion gwleidyddol".

Rhai o adeiladau'r Seiri Rhyddion yng Nghymru

[golygu |golygu cod]
  • Hwlffordd
    Hwlffordd
  • Caernarfon
    Caernarfon
  • Llanelli
    Llanelli
  • Caerdydd
    Caerdydd
  • Penarlâg
    Penarlâg
  • Plac yn nodi pwrpas yr adeilad
    Plac yn nodi pwrpas yr adeilad
  • Meliden, ger Prestatyn
    Meliden, ger Prestatyn
  • Trefynwy
    Trefynwy

Seiri Rhyddion enwog

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. O'r SaesnegMasonry/Freemasonry, omason, sef "saer maen".
  2. Gelwir ei haelodau'n saeri rhydd neu'n "ffedogwyr" ar lafar; gair sy'n tarddu o'u harferiad i wisgo ffedog seremoniol.
  3. "Frequently Asked Questions", United Grand Lodge of England; adalwyd 3 Chwefror 2025
  4. Christopher Hodapp,Freemasons for Dummies (Indianapolis: Wiley, 2005), t.52
  5. "Freemasonry,The Catholic Encyclopedia
  6. Masonic Service Association - Short Talk Bulletin as reprinted on the website of the Grand Lodge of Louisiana.
  7. [1], Reuters: Vatican confirms ban on Catholics becoming Freemasons.
  8. Llyfr William Morgan ar-lein
  9. "Stori William Morgan"(PDF). Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2009-03-26. Cyrchwyd2011-12-12.
  10. Gwefan Prifysgol Iâl.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Seiri_Rhyddion&oldid=13465945"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp