Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Seioniaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oSeionaeth)

Mewn termau cyffredinol, gellid diffinioSeioniaeth fel dyhead i weld yr Iddewon yn dychwelyd iBalesteina. Fe ddechreuodd y syniad fel un crefyddol ymhlith rhaiProtestaniaid pietistaidd tua diwedd y 16g. aPhiwritaniaid yng ngwledydd Prydain a gogledd America yn y 17g. Roedd y Cristnogion hyn am weld yr Iddewon yn dychwelyd i'rWlad Sanctaidd, ac iJerwsalem yn benodol, er mwyn iddynt gyflawni proffwydoliaethau yn yTestament Newydd y byddent yn dychwelyd a derbynIesu Grist felMeseia cyn ailddyfodiad Iesu Grist i'r ddaear ar y Dydd Diwethaf. Yn ystod y 19g. fe ddatblygodd ySeioniaeth Gristnogol hon wedd wleidyddol a fyddai'n cefnogi amcanion a pholisïau Seioniaeth Iddewig hyd nes creu'r wladwriaeth Iddewig ac ar ôl hynny i'w chynnal.[1][2]

Mudiad ethno-ddiwylliannol cenedlaetholgar gyda'r nod gwleidyddol o greu a chynnal gwladwriaeth i'rIddewon ymMhalesteina ywSeioniaeth Iddewig. Er bodPalesteina (Gwlad Israel yn y traddodiad Iddewig) a Jerwsalem yn benodol â lle arbennig yn y grefydd Iddewig, a bod rhai Iddewon unigol a grwpiau bach wedi symud i fyw yno am resymau crefyddol dros y canrifoedd, ni fu galw cyffredinol ar i'r Iddewon fel grŵp ymadael â'u cymunedau ar wasgar i symud iBalesteina i fyw. Yn wir, roedd llawer o Iddewon crefyddol (ac mae rhai o hyd) yn gweld yr ymdrech ddynol i brysuro dyfodiad y Meseia drwy ymfudo i Balesteina yn beth rhyfygus.[3]

Stories of Child Life in a Jewish Colony in Palestine. G. Routledge & sons. 1920 gan Hannah Barnett-Trager (1870–1943)

Mae pleidwyr Seioniaeth yn ei hystyried yn fudiad rhyddid cenedlaetholgwrthymerodraethol sy'n ailsefydlu'r genedl Iddewig yn ei chartref hanesyddol. Mae eraill yn ei gweld yn gyfuniad ogenedlaetholdeb ethnig athrefedigaethedd gwladychol. Yn wahanol idrefedigaethedd clasurol lle bydd grym ymerodraethol yn meddiannu tir gwlad arall yn bennaf er mwyn ysbeilio ei adnoddau naturiol a dynol er budd y famwlad, maetrefedigaethedd gwladychol yn broses lle bydd aelodau o un genedl neu grŵp ethnig yn ymfudo i wlad arall er mwyn creu cymdeithas newydd drwy ddisodli'r gymdeithas sydd eisoes yn byw yno. Yn achos Seioniaeth, fe wnaed hynny ym Mhalesteina gyda chymorth yrYmerodraeth Brydeinig yn y lle cyntaf acUnol Daleithiau America ar ôl yrAil Ryfel Byd.[4] Ond dadl y Seionwyr yw nad oes modd i'r Iddewon fod yn drefedigaethwyr yn Ngwlad Israel am mai dyna yw eu cartref hanesyddol.

Datblygodd y mudiad yn Ewrop yn y 19g. mewn ymateb i ddau beth.Gwrthsemitiaeth yng nghanol a dwyrain Ewrop, ar ffurfpogromau a chamwahaniaethu, yn sgil twfcenedlaetholdeb ethnig a'r galw am greucenedl-wladwriaethau ar y naill law. Ac ar y llaw arall, y tuedd cynyddol i Iddewon gorllewin Ewrop gael eu cymhathu i ddiwylliant y gwledydd lle roeddent yn byw. O dan ddylanwad syniadau'rOleuedigaeth cymerwyd camau i ddileu'r rhwystrau cyfreithiol yn erbyn gadael i'r Iddewon gyfranogi'n llawn o fywyd cenedlaethol y gwledydd hynny. Hynny yw,rhyddfreiniad yr Iddewon. Gan fod Iddewon yn Ewrop yn gymunedau bach oedd yn byw ymhlith pobloedd neu genhedloedd mwy, roeddent yn agored i erledigaeth ar y naill law a chymhathiad ar y llaw arall. O dan ddylanwadcenedlaetholdeb ethnig Ewropeaidd, dechreuodd yproto-Seionwyr synied am yr Iddewon fel cenedl neu hil yn hytrach na chymuned grefyddol. Y gobaith oedd y byddai gwladwriaeth Iddewig yn hafan i'r genedl Iddewig iddi ddianc rhag erledigaeth ac yn fan lle gallai'r genedl feithrin bywyd Iddewig llawn heb orfod cymhathu i gymdeithas an-Iddewig. Un o hanfodion y wladwriaeth arfaethedig oedd bod yr Iddewon, fel cenedl, yn fwyafrif ynddi. Y broblem i'r Seionwyr o'r dechrau'n deg oedd bod pobl eraill mwy niferus, nad ydynt yn Iddewon, eisoes yn byw ym Mhalesteina.[5]

Theodor Herzl, sylfaenydd y mudiad Seionaidd. Yn ei bamffledDer Judenstaat (1896), dadleuodd dros sefydlu gwladwriaeth Iddewig annibynnol yn ystod yr 20g.

Crynhowyd rhan o weledigaeth wleidyddol Seioniaeth ganTheodor Herzl yn ei bamffled dylanwadol,Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"), 1896 a'i nofel ddyfodolaidd,Altneuland ("Hen Wlad Newydd"), 1902 a gyfieithwyd i'rIddeweg a'rHebraeg felTel Aviv ("Bryn y Gwanwyn"), sef yr enw a roddwyd ar y ddinas newydd a sefydlwyd gan y gymuned Iddewig ym Mhalesteina ym 1909.[6]

Sefydlwyd y mudiad Seionaidd yn ffurfiol yn Awst1897 yn yGyngres Seionaidd Ryngwladol gyntaf ynBasel yn ySwistir. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y Gyngres ymMünchen, ond cymaint oedd y gwrthwynebiad cyhoeddus gan Iddewon Uniongred a Diwygiedig fel ei gilydd yn yr Almaen, fel y bu'n rhaid i Herzl ei haildrefnu yn Basel.[7]

Yn ystod degawd cyntaf y mudiad Seionaidd, roedd rhai Seionwyr, gan gynnwys Herzl ei hun, yn barod i ystyried lleoliadau eraill heblaw Palesteina fel cartrefwlad (dros dro) i'r Iddewon megis "Cynllun Uganda" (yn nwyrain Affrica),yr Ariannin,Cyprus,Mesopotamia,Mozambique, neu benrhynSinai, ond yn y pen draw gwrthododd y mudiad y cynigion hyn a phenderfynu o blaid Palesteina.

Hyd yn oed cyn sefydlu'r mudiad Seionaidd fel y cyfryw, bu rhai grwpiau o Iddewon yn ymfudo i Balesteina gyda'r bwriad o sefydlu gwladychfeydd amaethyddol yno. Un o'r grwpiau cyntaf oedd grŵp o'r enwBilw yr oedd ei bencadlys ynKharkiv, a oedd o fewn ffiniauYmerodraeth Rwsia ar y pryd ond sydd bellach ynWcráin. Yn 1882, ymfudodd grẃp bach o aelodau Bilw iBalesteina Otomanaidd heb ganiatâd yr awdurdodau Otomanaidd.[8] Roedd yr awdurdodau wedi ceisio cyfyngu ar werthu tir i Iddewon a chyfyngu ar fewnfudo yn sgil gwrthwynebiad gan yPalestiniaid oedd eisoes yn byw yno. Yn 1882, dim ond 4% o boblogaeth Palesteina oedd yn Iddewon. O ddeall nad oedd croeso iddynt, aeth y rhan fwyaf o'r aelodau o Bilw yn ôl i Rwsia, ond arhosodd 14 o fyfyrwyr ifainc. Aethant i'r ysgol amaeth ymMikveh Israel ond ni chawsant groeso gan y gymuned Iddewig Uniongred o'rHen Yishuv (y gymuned Iddewig oedd eisoes yno) ac felly fe adawsant ac ymaelodi âChofefei Tzion a helpu i sefydlu'r cwmni amaethyddol cydweithredol ynRishon LeZion. Gweithredwyd nifer o egwyddorion Seioniaeth gan fudiadau felChofefei Tzion a sefydlodd wladychfeydd Iddewig ymMhalesteina ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Bu i ddilynwyr Seioniaeth sefydlu gwladychfeydd Iddewig yn ystod cyfnod yrYmerodraeth Otomanaidd cyn yRhyfel Byd Cyntaf gan greu yr hyn a alwyd ynYishuv, sef y gymuned Iddewig,Hebraeg ei hiaith ar dir lle roedd mwyafrif llethol y boblogaeth yn BalestiniaidArabeg eu hiaith. Parhaodd twf y gwladychfeydd Iddewig ar ôl yRhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod cyfnodPalesteina dan Fandad Prydeinig. Erbyn 1945, roedd 30% o boblogaeth Palesteina yn Iddewon.

Yn sgil sefydluGwladwriaeth Israel yn 1948, fe ddaeth Seioniaeth yn ideoleg genedlaethol y wladwriaeth.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amwleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amIsrael. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
  1. Donahaye, Jasmine (2012).Whose People? Wales, Israel, Palestine. Cardiff: University of Wales Press. t. 39.ISBN 978-0-7083-2483-7.
  2. Pappe, Ilan (2024).Lobbying for Israel on Both Sides of the Atlantic. London: Oneworld. tt. 1–3.ISBN 978-0-86154-402-8.
  3. Sand, Shlomo (2014).The Invention of the Land of Israel. London: Verso. tt. 181.ISBN 9781781680834.
  4. Enzo, Traverso (2016).The End of Jewish Modernity. London: Pluto. t. 99.
  5. Traverso, Enzo (2016).The End iof Jewish Modernity. London: Pluto Press. tt. 98-112.ISBN 978-0-7453-3666-4.
  6. "From Spring Hill to Tel Aviv".Jewish Virtual Library. Cyrchwyd 20/09/2024.Check date values in:|access-date= (help)
  7. Sand, Shlomo (2014).The Invention of the Land of Israel. London: Verso. tt. 187.ISBN 9781781680834.
  8. Pappe, Ilan (2024).Lobbying for Zionism on Both Sides of the Atlantic. Oneworld. t. 15.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Seioniaeth&oldid=13062833"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp