Enghraifft seml o sbectrosgopeg: mae'r prism yn dadansoddi golau gwyn trwy ei wasgaru yn lliwiau'r sbectrwm.
Y gangen oopteg sydd yn archwilio sbectra—yr hyn a fesurir ar ysbectrwm electromagnetig o ganlyniad i ryngweithiad rhwng ymbelydriad electromagnetic amater—ywsbectrosgopeg[1] neusbectrosgopi.[2] Defnyddir offeryn ysbectrosgop i fesur y sbectra fel ffwythiant odonfedd neuamledd yrymbelydriad.[3][4][5][6][7][8] Gellir ystyriedtonnau mater athonnau acwstig hefyd yn ffurfiau ar egni ymbelydrol, ac yn ddiweddar câitonnau disgyrchol eu cysylltu ag arwyddiant sbectrol yng nghyd-destun yr Arsyllfa Ton-Ddisgyrchol Ymyriadur Laser (LIGO). Mewn termau syml, astudiaeth fanwl oliw, wedi ei gyffredinoli oolau gweladwy i bob un band ar y sbectrwm electromagnetig.
Mae sbectrosgopeg yn ddull archwiliol sylfaenol mewn meysyddseryddiaeth,cemeg,gwyddor defnyddiau, affiseg, am iddi alluogi gwyddonwyr i astudio cyfansoddiad, strwythur ffisegol, a strwythur electronig mater ar raddfeydd atomig, moleciwlaidd, a macro, ac ar draws pellterau seryddol. Mae defnyddiau pwysig yn cynnwys sbectrosgopeg biomeddygol wrth ddadansoddimeinweoedd adelweddu meddygol.
↑Herrmann, R.; C. Onkelinx (1986). "Quantities and units in clinical chemistry: Nebulizer and flame properties in flame emission and absorption spectrometry (Recommendations 1986)". Pure and Applied Chemistry58 (12): 1737–1742. doi:10.1351/pac198658121737.