Glas tywyll: iaith swyddogol. Glas golau: 20% o'r boblogaeth yn ei siarad.
Iaith a darddodd ynSbaen yw'rSbaeneg neu weithiauCastileg[1], sy'n un o'r ieithoeddRomáwns yn y teuluIndo-Ewropeaidd, a esblygodd oLadin llafar ymMhenrhyn Iberia ynEwrop. Heddiw, mae'n iaith fyd-eang gyda bron i 500 miliwn o siaradwyr brodorol, yn bennaf ynAmerica aSbaen. Sbaeneg yw iaith swyddogol 20 gwlad a hi yw'rail famiaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôlTsieineeg Mandarin;[2][3] y bedwaredd iaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôlSaesneg, Tsieinëeg Mandarin, aHindustani (Hindi-Wrdw); a'riaith Romáwns fwyaf yn y byd. Mae'r boblogaeth fwyaf o siaradwyr brodorol y Sbaeneg ymMecsico.[4] Sbaeneg yw'r drydedd iaith a ddefnyddir fwyaf ary we ar ôl Saesneg a Tsieineeg.[5] Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yrAriannin aPheriw). Fe'i siaredir gan rhyw 500 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân iTsieineeg Mandarin, a thua 600 miliwn ledled y byd.
Mae'r Sbaeneg yn rhan o'r grŵp Ibero-Romáwns o ieithoedd, a esblygodd o sawl tafodiaith oLadin Llafar yn Iberia ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y5g. Daw'r testunauLladin hynaf ag olion Sbaeneg arnynt o ganol gogledd Iberia yn y9g,[6] a digwyddodd y defnydd ysgrifenedig systematig cyntaf o'r iaith ynToledo, dinas amlwgTeyrnas Castile, yn y13g. Gwladychodd Sbaen llawer o wledydd tramor, gan adael ei hiaith yno ar wefusau'r brodorion, yn fwyaf nodedig yn yr Americas.[7]
Fel iaith Romáwns, mae'r Sbaeneg yn ddisgynnydd i Ladin ac mae ganddi un o'r graddau llai o wahaniaeth ohoni (tua 20% o wahaiaeth) ochr yn ochr â Sardinia acEidaleg.[8] Mae tua 75% o eirfa Sbaeneg fodern yn deillio o Ladin, gan gynnwys benthyciadau Lladin o'r Hen Roeg.[9][10] Ochr yn ochr â Saesneg aFfrangeg, mae hefyd yn un o'r ieithoedd tramor a addysgir fwyaf ledled y byd. Nid yw Sbaeneg yn nodwedd amlwg fel iaith wyddonol; fodd bynnag, fe'i cynrychiolir yn well mewn meysydd fel ydyniaethau a'rgwyddorau cymdeithasol.[11]
Mae'n anodd cyfrifo'r union nifer o siaradwyr Sbaeneg, gan nad yw pawb sy'n byw yng ngwledydd lle mae'n iaith swyddogol yn ei siarad. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Sbaeneg yr Unol Daleithiau hefyd yn siaradSaesneg.
Mae Cyfansoddiad Sbaen 1978 yn defnyddio'r termcastellano a chaiff ei nodi feliaith swyddogol Sbaen cyfan. Mae Erthygl III yn darllen fel a ganlyn:
“
El castellano es la lengua española oficial del Estado. ... Las demás lenguas españolas serán también oficiales en las respectivas Comunidades Autónomas...
Castilian yw iaith Sbaeneg swyddogol y Wladwriaeth. ... Bydd yr ieithoedd Sbaenaidd eraill hefyd yn swyddogol yn eu Cymunedau Ymreolaethol priodol...
”
Ar y llaw arall, mae'r Academi Frenhinol y Sbaeneg (Real Academia Española), ar hyn o bryd yn defnyddio'r termespañol yn ei chyhoeddiadau. Fodd bynnag, rhwng 1713 a 1923, galwodd yr iaith yncastellano.
Yn y canllaw iaith / geiriadurDiccionario panhispánico de dudas, a gyhoeddwyd gan yr Academi Frenhinol y Sbaeneg) nodir hefyd, er bod yn well ganddi ddefnyddio'r termespañol yn ei chyhoeddiadau wrth gyfeirio at yr iaith, caiff y ddau air—español acastellano — eu hystyried yn gyfystyron a'r un mor ddilys.[16]
Daw'r termcastellano o'r gair Lladincastellanus, sy'n golygu " o neu'n ymwneud âchaer neugastell",[17] sydd hefyd yn enw ardal yn yr hyn a adnabyddir heddiw'n Sbaen.
Mae geirdarddiad gwahanol wedi'i awgrymu ar gyfer y termespañol (Sbaeneg). Yn ôl yr Academi Frenhinol y Sbaeneg , mae'r gairespañol yn deillio o'r gairProfensalegespaignol ac mae hwnnw, yn ei dro'n deillio o'rLladin Llafarhispaniolus, sef yr enw Lladin ar dalaithHispania a oedd yn cynnwys tiriogaeth bresennolPenrhyn Iberia.[18]
Mae'r dogfennau cyntaf i ddangos olion o'r hyn a ystyrir heddiw yn rhagflaenydd i'r Sbaeneg yn dyddio o'r9g. Trwy gydol yrOesoedd Canol ac i mewn i'roes fodern, daeth y dylanwadau pwysicaf ar y geiriadur Sbaeneg o'rieithoedd Romáwns cyfagos — Mozarabeg (Romáwns Andalusi), Navarro-Aragoneseg, Leoneg,Catalaneg,Portiwgaleg,Galiseg,Ocsitaneg, ac yn ddiweddarach,Ffrangeg acEidaleg.Benthycodd Sbaeneg hefyd nifer sylweddol o eiriau o'rArabeg, yn ogystal â mân ddylanwad o'riaith Gotheg Germanaidd trwy ymfudiad llwythau a chyfnod o reolaeth yFisigothiaid yn Iberia. Yn ogystal, benthycwyd llawer mwy o eiriau o'rLladin trwy ddylanwad iaith ysgrifenedig ac iaith litwrgaidd yr Eglwys. Cymerwyd y geiriau benthyg o Ladin Clasurol a Lladin y Dadeni, sef y math o Ladin a ddefnyddid bryd hynny.
Yn ôl damcaniaethau Ramón Menéndez Pidal, esblygodd tafodieithoedd lleol o Ladin Llafari fath cynnar o Sbaeneg, a hynny yng ngogledd Iberia, yn yr ardal o gwmpas dinasBurgos, a daethpwyd â'r dafodiaith hon yn ddiweddarach i ddinasToledo, lle cafodd ei safoni'n ysgrifenedig am y tro cyntaf, yn y13g. Yn y cyfnod ffurfiannol hwn, datblygodd y Sbaeneg amrywiad tra gwahanol i'w chefnder agos, y Leoneg, a gwelwyd dylanwad Basgaidd trwm arni. Ymledodd y dafodiaith nodedig hon i dde Sbaen gyda dyfodiad yReconquista. Yn y cyfamser dylanwadwyd arni gan eirfa sylweddol oArabegAl-Andalus (tua 4,000 o eiriau sy'n tarddu o'rArabeg, tua 8% o Sbaeneg heddiw).[19] Datblygwyd y safon ysgrifenedig ymhellach, gan ymledu oToledo, yn y 13eg i'r 16g, iFadrid yn y1570au.[20]
Ysgrifennir y Sbaeneg yn yrwyddor Ladin, gan ychwanegu'r cymeriad ⟨ñ⟩ a yngenir feleñe, sy'n cynrychioli'r ffonem /ɲ/, llythyren sy'n wahanol i ⟨n⟩, er ei fod wedi'i gyfansoddi'n deipograffegol o ⟨n⟩ gydatilde. Yn flaenorol mae'rdeugraffau ⟨ch⟩ (che, sy'n cynrychioli'r ffonem /t͡ʃ/ ) a ⟨ll⟩ (elle, sy'n cynrychioli'r ffonem /ʎ / neu /ʝ/ ), hefyd yn cael eu hystyried yn llythrennau sengl. Fodd bynnag, mae'r deugraff ⟨rr⟩ (erre fuerte, 'r cryf',erre doble , 'r ddwbl', neu'n symlerre), sydd hefyd yn cynrychioli ffonem /r/, ar wahân, yn cael ei hystyried yn un llythyren. Ers 1994 mae ⟨ch⟩ a ⟨ll⟩ wedi cael eu trin fel par o llythrennau at ddibenion coladu, er eu bod wedi parhau’n rhan o’r wyddor tan 2010. Mae geiriau gyda ⟨ch⟩ bellach wedi'u didoli yn nhrefn yr wyddor rhwng y rhai sydd â ⟨cg⟩ a ⟨ci⟩, yn lle dilyn ⟨cz⟩ fel yr arferai wneud. Mae'r drefn yn debyg ar gyfer ⟨ll⟩.
Felly, mae gan yr wyddor Sbaeneg y 27 llythyren a ganlyn:
A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K, L, M, N, Ñ, O, P, Q, R, S, T, U, V, W, X, Y, Z.
Ers 2010, nid yw'r deugraffau (ch, ll, rr, gu, qu ) yn cael eu hystyried yn llythrennau gan yr Academi Frenhinol y Sbaeneg.[21]
Yn debyg i'r Gymraeg, defnyddir y llythyrennauk aw mewn geiriau ac enwau sy'n dod o ieithoedd tramor yn unig (kilo, folklore, whisky, kiwi ayb).
Ac eithrio nifer fach iawn o dermau rhanbarthol megisMéxico, gellir pennu'r ynganiad yn gyfan gwbl o sillafu, yn eitha ffonetic. O dan y confensiynau orgraff, mae pwyslaid pob gair, yn nodweddiadol ar ysillaf cyn yr olaf (y goben), os yw'n gorffen gyda llafariad (heb gynnwys ⟨y⟩) neu gyda llafariad wedi'i ddilyn gan ⟨n⟩ neu ⟨s⟩; fel arall, rhoddir y pwyslais ar y sillaf olaf un. Mae hyn hefyd yn debyg i'r Gymraeg, lle mae'r pwyslais, fel rheol, ar y goben. Nodir eithriadau i'r rheol hon trwy osod acen acíwt ar yllafariad acennog.
Y dylanwad pennaf ar safon yr iaith yn Sbaen yw Academi Frenhinol y Sbaeneg (Sbaeneg:Real Academia Española ), a sefydlwyd ym 1713,[22] trwy gyhoeddi geiriaduron a chanllawiau gramadeg ac arddull.[23] Fel hyn, ceir ffurf safonol ar yr iaith (Sbaeneg Safonol) a gaiff ei chydnabod yn eang mewn llenyddiaeth, cyd-destunau academaidd a'r cyfryngau.
Gwledydd sy'n aelodau o Gymdeithas yr Academïau Sbaeneg (ASALE).[24]
Y Gymdeithas o Academïau Sbaeneg (Asociación de Academias de la Lengua Española, neuASALE) yw'r endid sy'nrheoleiddio'r iaith Sbaeneg. Fe'i crëwyd ymMecsico yn 1951 ac mae'n cynrychioli'r holl academïau unigol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae'n cynnwys academïau o 23 o wledydd, a drefnwyd yn ôl dyddiad sefydlu'r Academi: Sbaen (1713),[25] Colombia (1871),[26] Ecwador (1874),[27] Mecsico (1875),[28] El Salfador ( 1876),[29] Feneswela (1883),[30] Tsile (1885),[31] Periw (1887),[32] Gwatemala (1887),[33] Costa Rica (1923),[34] y Philipinau (1924)),[35] Panama (1926),[36] Ciwba (1926),[37] Paragwái (1927),[38] Y Weriniaeth Ddominicaidd (1927),[39] Bolifia (1927),[40] Nicaragwa (1928),[41] yr Ariannin (1931),[42] Wrwgwái (1943),[43] Hondwras (1949),[44] Pwerto Rico (1955),[45] yr Unol Daleithiau (1973)[46] a Gini Cyhydeddol (2016).[47]
Sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991 yw'rInstituto Cervantes (Sefydliad Cervantes). Mae gan y sefydliad hwn ganghennau mewn 45 o wledydd, gydag 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd a'r Sbaeneg.[48] Nodau'r Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudiaeth, a'r defnydd o'r Sbaeneg fel ail iaith, cefnogi dulliau a gweithgareddau sy'n helpu'r broses o addysgu Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo'r Sbaeneg a diwylliannau Sbaenaidd-Americanaidd mewn gwledydd lle nad ydynt yn siarad Sbaeneg. Amcangyfrifodd adroddiad y sefydliad yn 2015 "El español, una lengua viva" (Sbaeneg, iaith fyw) fod 559 miliwn o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd. Mae ei adroddiad blynyddol diweddaraf "El español en el mundo 2018" (Sbaeneg yn y byd yn 2018) yn awgrymu fod 577 miliwn o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd. Ymhlith y ffynonellau a ddyfynnir yn yr adroddiadmae Biwro Cyfrifiad yr UD, sy'n amcangyfrif y bydd gan yr Unol Daleithiau 138 miliwn o siaradwyr Sbaeneg erbyn 2050, sy'n golygu mai hi yw'r genedl Sbaeneg fwyaf yn y byd, gyda'r Sbaeneg yn famiaith i bron i draean o'i dinasyddion.
Eberhard, David M.; Simons, Gary F.; Fennig, Charles D. (2020).Ethnologue: Languages of the World (arg. 23rd). Dallas, Texas: SIL International.Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 April 2006. Cyrchwyd22 June 2002.
Martínez-Celdrán, Eugenio; Fernández-Planas, Ana Ma.; Carrera-Sabaté, Josefina (2003). "Castilian Spanish". Journal of the International Phonetic Association33 (2): 255–59. doi:10.1017/S0025100303001373.
↑Eberhard, David M.; Simons, Gary F.; Fennig, Charles D. (2019)."Summary by language size".Ethnologue. SIL International. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 6 August 2019. Cyrchwyd3 March 2022.
↑Salvador, Yolanda Mancebo (2002). "Hacia una historia de la puesta en escena de La vida es sueño".Calderón en Europa (yn Sbaeneg). Vervuert Verlagsgesellschaft. tt. 91–100.doi:10.31819/9783964565013-007.ISBN978-3-96456-501-3.
↑Robles, Heriberto Camacho Becerra, Juan José Comparán Rizo, Felipe Castillo (1998).Manual de etimologías grecolatinas (arg. 3.). México: Limusa. t. 19.ISBN968-18-5542-6.