Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Saul Bellow

Oddi ar Wicipedia
Saul Bellow
GanwydSolomon Bellows Edit this on Wikidata
10 Mehefin 1915 Edit this on Wikidata
Lachine Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata
Brookline Edit this on Wikidata
Man preswylMontréal,Brookline Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wisconsin–Madison
  • Prifysgol Chicago
  • Prifysgol Northwestern
  • Roberto Clemente Community Academy
  • Camp B'nai Brith
  • Weinberg College of Arts and Sciences Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, academydd, awdur ysgrifau,awdur Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Adventures of Augie March, Herzog, Henderson the Rain King Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDelmore Schwartz,Miguel de Cervantes,Thomas Mann,Stendhal,Anton Chekhov,James Joyce, Wilhelm Reich,Mark Twain, Rudolf Steiner,Marcel Proust,Fyodor Dostoievski,Franz Kafka,Joseph Conrad,William Shakespeare Edit this on Wikidata
PriodUnknown, Unknown, Unknown,Alexandra Bellow, Unknown Edit this on Wikidata
PlantAdam Bellow Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel,Cymrodoriaeth Guggenheim, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Genedlaethol y Llyfr (Ffuglen), Gwobr Genedlaethol y Llyfr (Ffuglen), Gwobr Genedlaethol y Llyfr (Ffuglen), Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Darlith Jefferson, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr Helmerich, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Medal Emerson-Thoreau, Gwobr Formentor, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr O. Henry, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America,Cymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd o'rUnol Daleithiau a aned yngNghanada oeddSaul Bellow (ganwyd Solomon Belov; 10 Mehefin 1915 – 5 Ebrill 2005). EnilloddWobr Lenyddol Nobel ym 1976.

Bywgraffiad

[golygu |golygu cod]

Bywyd cynnar

[golygu |golygu cod]

Ganwyd Solomon Belov yn Lachine, gerMontréal, i deulu oIddewon Lithwanaidd a ymfudodd i Ganada oSt Petersburg ym 1913. Yn hwyrach, newidodd enw'r teulu yn Bellow a mabwysiadodd Solomon yr enw blaen Saul pan oedd yn fachgen.[1] Pan oedd Saul yn 3 oed, symudant i ardal Iddewig Montréal, ac yno fe rodd ei dad gynnig ar sawl math o waith: ffermwr, pobydd, gwerthwr brethynnau, deliwr hen bethau, brocer yswiriant, a gwerthwr diod anghyfreithlon (bootlegger). O ganlyniad i'w weithgareddau dichellgar, bu asiantiaid Cyllid Gwladol Canada ar ei drywydd. Pan oedd Saul yn 8 oed, cafodd y teulu ei smyglo dros y ffin iChicago, ac yno y buont yn breswylwyr anghyfreithlon yn yrUnol Daleithiau.[2]

Medrodd Saul sawl iaith yn ystod ei blentyndod.Iddew-Almaeneg oedd ei famiaith, aRwseg hefyd yn iaith yr aelwyd wrth siarad â'i chwaer a brodyr hŷn. Ym Montréal fe siaradodd Saesneg a Ffrangeg yn yr ysgol, ac yn Chicago fe ddysgodd iaith Americanaidd fras y strydoedd.[2] Astudiodd yrHebraeg trwy gydol ei fywyd, ond fel arall cafodd ei "Americaneiddio'n llwyr" gan ei fagwraeth yn Chicago. MynychoddPrifysgol Chicago gan newid ei radd o lenyddiaeth i anthropoleg. Mynychodd hefydPrifysgol y Gogledd-orllewin aPhrifysgol Wisconsin cyn iddo symud iDdinas Efrog Newydd. Treuliodd ei ugeiniau diweddar yng nghwmni'r arlunwyr, llenorion a newyddiadurwyr adain-chwith yn Greenwich Village. Yn ystodyr Ail Ryfel Byd, fe wasanaethodd ynLlynges Fasnachol yr Unol Daleithiau.

Gyrfa lenyddol

[golygu |golygu cod]

Ymdrinia'i nofel gyntaf,Dangling Man (1944), â dyn ifanc sydd wedi ymuno â'r fyddin. Wedi'r rhyfel fe symudodd iBaris, ac ysgrifennodd ei ail nofel,The Victim (1947), dan ddylanwad yr athroniaeth a chelfyddydau Ewropeaidd. Tra'n darllenSartre mewn caffi, fe gafodd dadrith sydyn a dywedodd i'w hunan, "This has got to be a con". Dychwelodd y bachgen o Chicago i'w mamwlad. Yn y 1950au cynnar, cyhoeddodd straeon ynThe New Yorker acHarper's Bazaar, a chylchgronau tra-modern megisPartisan Review.

Cafodd ei gydnabod yn awdur pwysig yn sgil cyhoeddiThe Adventures of Augie March ym 1953. Dilynwyd gan y nofelaSeize the Day (1956), a'r nofel ddigrifHenderson the Rain King (1959). CyhoeddidHerzog ym 1964, campwaith a gyflwynodd cymeriad y deallusyn comig i lên America. Credir nifer o feirniaid tawHumboldt's Gift (1975) yw nofel wychaf Bellow, a chanddi plot ffars ond strwythur arwrgerdd.

Yn hwyr yn ei yrfa, trodd yn fwyfwy at y nofela a'r stori fer, dan ddylanwad y meistrChekhov. Ysgrifennodd ei nofel olaf,Ravelstein, yn sgil marwolaeth ei gyfaill, yr AthroAllan Bloom.

Bywyd personol

[golygu |golygu cod]

Dyn golygus a del ei wisg oedd Saul Bellow. Priododd pum gwaith, a chafodd tri mab ac un ferch.

Arddull lenyddol a dylanwadau

[golygu |golygu cod]

Tro ar ôl tro yn ei nofelau, gwelir golygfeydd a chymeriadau o blentyndod Bellow: bywyd y stryd, bragu anghyfreithlon, a'r gudd-economi. Academyddion, llenorion, a brodorion Chicago yw arwyr ei brif nofelau. Ar y llaw arall, nid oes fawr o dystiolaeth o'i brofiadau milwrol yn ei lyfryddiaeth. Ei nofel gyntaf,Dangling Man, yw'r unig waith ganddo ar bwnc rhyfel. Ceir nodweddion o lenyddiaeth Iddewig ac Ewropeaidd yn ei waith, yn enwedig mawrionRwseg y 19g, ond yn bwysicach oll straeon Americanaidd ydynt.

Digrifwch o bob haen sy'n lliwio nofelau Bellow: hiwmor bras,ffars,eironi,dychan cymdeithasol, a fwlgareiddiwch. Serch bod Bellow yn hoff o'i hiwmor isel-ael, llenor deallusol ydoedd a wnaeth fritho'i ryddiaith â chyfeiriadau at athronwyr a brawddegau mewn sawl iaith. Er yr elfen gomig gryf, straeon ysbrydol o ddifrif ydynt am gymeriadau sy'n chwilio am Dduw a phwrpas bywyd.[1]

Beirniadaeth a chlod

[golygu |golygu cod]

Clodforir Bellow fel un o hoelion wyth llên yr Unol Daleithiau yn ail hanner yr 20g. Cymharir ei nofelau gorau âDostoevsky, a chanddynt "chwyldroadau'r ysbryd, ymwybyddiaeth gosmig, a themâu anferthol".[1] EnilloddHumboldt's Gift yWobr Pulitzer am Ffuglen ym 1976. Yn yr un flwyddyn, rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo "am y cyfuniad yn ei waith o ddirnadaeth y ddynolryw a dadansoddiad cynnil y diwylliant cyfoes".[3] Derbyniwyd ef iAcademi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau. Cydnabuwyd hefyd gan wledydd Ewrop: derbynodd yCroix de Chevalier a'rLégion d'honneur yn Ffrainc, ac enilloddWobr Malaparte yn yr Eidal. Fe'i ystyrir hefyd yn un o lenorion Iddewig gwychaf yr 20g, a dyfarnwyd iddo Wobr Etifeddiaeth Iddewig yB'nai B'rith yn 1968 a Gwobr Etifeddiaeth Ddemocrataidd America gan yr Anti-Defamation League yn 1976.[4]

Yn sgil ei enwogrwydd, cafodd ei feirniadu am hiliaeth a gwreig-gasineb honedig yn ei nofelau, ac ennynai rhagor o ymateb o ganlyniad i'w sylwadau cyhoeddus. Ymddengys geiriau difrïol megisniggerlove (Herzog) akikes (Humboldt's Gift) yn ei waith, a'r brif gymeriadaeth fenywaidd a geir yn ei straeon yw'r gnawes neu'r gecren. Ceisiodd Bellow amddiffyn ei hunan drwy ofyn, "ble maeTolstoy yZulu? Pwy yw'rMarcel Proust oPapua Gini Newydd?" Llwyddodd i fegino'r tân yn unig. Cafwyd gwrthdaro rhynddo a myfyrwyrHarvard a chyhoeddwyd erthyglau yn condemnio'i hiliaeth ganThe New York Times. Cyhuddodd Bellow ei feirniaid o fod yn "heddlu meddwl Stalinaidd", a chwynodd amgywirdeb gwleidyddol. Ceisiodd dalu'r pwyth yn ôl drwy lunio cyfyng-gyngor rhyddfrydol i'r prif gymeriad ynThe Dean's December, ond ni lwyddodd i leddfu ei elynion. Gofynnid cwestiwn sardonig iddo: Ble mae'r Tolstoy Canadaidd?[1]

Ar anterth ei gydnabyddiaeth ryngwladol, magodd arfer doethinebu a thraethu barn ar sawl pwnc. Mynegodd yn fachog ac yn athronyddol ar fywyd a chymdeithas fodern, a siaradodd yn erbyn dirywiad addysg a byd llên. Enillodd enw'r hen lenor doeth, ond denodd rhagor o sylw negyddol yn sgil ambell datganiad. Dadleuodd, er enghraifft, taw "gwendid bach ffiaidd" oedd beio'r rhieni am broblemau yn oedolaeth yr unigolyn, ac "esgus i beidio â chymryd cyfrifoldeb am fywyd" oedd profiad o gamdriniaeth tra'n blentyn. Yn ei wyth degau, gwrthododd ymddeol gan ddatgan "nid oes cyfnodgolffio ym mywyd y llenor ... dim ond y gadair galed ei chefn a'r llyfr nesaf". O safbwynt ei wrthwynebwyr, dechreuodd Bellow ymhel â chasineb a dicter yn ei henaint ac hynny oedd ei ddifyrwaith yn lle golff.[1]

Edmygir ei waith gan sawl feirniad o fri, megis James Wood aChristopher Hitchens. Un o'i fychanwyr yw Harold Bloom, a alwodd prif gymeriadau Bellow "bob tro yn fethiant gwirion", a'i gymeriadau benywaidd yn "freuddwydion o'r drydedd radd", er iddo ganmol ei gymeriadau bychainDickensaidd.[5] Cafodd Bellow ddylanwad ar ei gyfoedion Americanaidd, yn eu plithPhilip Roth aJohn Updike,[6] yn ogystal ag awduron Saesneg i ddod, er enghraifftIan McEwan,Martin Amis, aJon Gower.[7]

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Dangling Man (1944)
  • The Victim (1947)
  • The Adventures of Augie March (1953)
  • Seize the Day (1956)
  • Henderson the Rain King (1959)
  • Herzog (1964)
  • Mr. Sammler's Planet (1970)
  • Humboldt's Gift (1975)
  • To Jerusalem and Back (1976)
  • The Dean's December (1982)
  • More Die of Heartbreak (1987)
  • A Theft (1989)
  • The Bellarosa Connection (1989)
  • Something To Remember Me By: Three Tales (1991)
  • The Actual (1997)
  • Ravelstein (2000)
  • Collected Stories (2001)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.21.31.4(Saesneg)Obituary: Saul Bellow,The Guardian (7 Ebrill 2005). Adalwyd ar 8 Ebriill 2017.
  2. 2.02.1(Saesneg) Zachary Leader.‘I got a scheme!’ – the moment Saul Bellow found his voice,The Guardian (17 Ebrill 2015). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  3. (Saesneg)The Nobel Prize in Literature 1976,Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  4. Sara E. Karesh a Mitchell M. Hurvitz,Encyclopedia of Judaism (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 49.
  5. (Saesneg)Harold Bloom, The Art of Criticism No. 1,The Paris Review (1991). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  6. (Saesneg)Saul Bellow: 'American writer supreme',The Daily Telegraph (10 Mehefin 2015). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  7. Awdur blaenllaw yn cyhoeddi casgliad o straeon byr, lleol.cymru (5 Gorffennaf 2006). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Saul_Bellow&oldid=13304533"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp