Un o'r deuddegApostol oeddSant Pedr, hefydSimon Pedr,Simon fab Jonah,Cephas aKeipha, enw gwreiddiolShimon neuSimeon. Ceir ei hanes yny Testament Newydd. Roedd yn frodor oGalilea ac yn bysgotwr arFôr Galilea pan alwyd ef a'i frawdAndreas ganIesu fel un o'i ddeuddeg disgybl. Yn ôl nifer o awduronyr Eglwys Fore, er enghraifft SantIrenaeus, ef oedd arweinydd y disgyblion. Yn ddiweddarach, dywedir iddo ddod ynEsgob Rhufain.
Ei ddydd gŵyl yw29 Mehefin. Yn yrAnnuario Pontificio rhoir64 neu67 fel blwyddyn ei farwolaeth ynRhufain. Yn ôl traddodiad, cafodd eigroeshoelio a'i ben i lawr. Mae traddodiad iddo ffoi o Rufain i osgoi cael ei ddienyddio, ond iddo gael gweledigaeth o Iesu ar y ffordd. Gofynnodd Pedr iddo "Quo Vadis" ("I ble rwyt ti'n mynd?"), ac atebodd Iesu "I Rufain, i gael fy nghroeshoelio eto, yn dy le di". Trodd Pedr a dychwelyd i Rufain.
Ystyrir Pedr fel yPab cyntaf ganyr Eglwys Gatholig, ac mae traddodiad ei fod wedi ei gladdu oddi tanBasilica Sant Pedr yn Rhufain. Yn ôl y traddodiad cafodd yr Eglwys ei sefydlu gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd ef enw Simon i Pedr, a dywedodd mai ar y graig hon y byddai'n sefydlu ei Eglwys. Yn y Groeg, mae hyn yn chwarae ar eiriau:Πέτρος (Petros; "Pedr") aπέτρα (petra: "craig" neu "carreg"). Yn yr iaithAramaeg,kepha fyddai'r gair am y ddau.
Mae pob pab yn gwisgo modrwy gyda delwedd o bysgotwr yn taflu ei rwyd, tra mae'r allwedd sy'n symbol o awdurdod y pab yn cyfeirio at "allweddi Teyrnas Nefoedd" a addawyd i Pedr gan yr Iesu (Mathew 16:18–19).
Priodolir dau lyfr yn y Testament Newydd iddo,Llythyr Cyntaf Pedr acAil Lythyr Pedr, er bod amheuaeth wedi bod ynglŷn ag awduraeth Ail Lythyr Pedr o gyfnod cynnar. Awgrymwyd bodGroeg y ddau lyfr yn rhy dda i fod yn waith pysgotwr o Galilea oedd wedi dysgu Groeg fel ail neu drydedd iaith, ond dywed yr awdur ei hun ei fod yn defnyddio ysgrifennydd.