PrifddinasIemen ywSana'a, hefydSanaa neuSana (Arabeg:صنعاء, aş-Şana`ā). Roedd y boblogaeth yn2012 yn 1,937,451.
Sefydlwyd Sana'a yn y3g, efallai ar safle hŷn. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas ganSem, un o feibionNoa. Daeth yn brifddinas yrHimiaritiaid o520) ymlaen, ac yn ystod y6g buYmerodraeth Persia acEthiopia yn ymladd a'i gilydd i reoli'r ardal. Pan oedd yr Ethiopiaid yn meddiannu'r ardal, gyda chymorth yrYmerawdwr BysantaiddJustinianus I, adeiladwyd eglwys gadeiriol fawr, y fwyaf i'r de oFôr y Canoldir. Yn628 cipiwyd Iemen gan luoedd dilynwyr y proffwydMuhammad.
Daeth Sana'a yn Swltaniaeth hunanlywodraethol dan yrYmerodraeth Ottoman yn1517. Tua diwedd y19g, fe'i hymgorfforwyd yn yr ymerodraeth, gyda llai o hunanlywodraeth. Dynodwyd canol y ddinas ynSafle Treftadaeth y Byd ganUNESCO.