Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Samsung S5600

Oddi ar Wicipedia
Samsung S5600

Ffôn llaw ydySamsung S5600 (neu'rSamsung Preston) - y ffôn cyntaf i fod a rhyngwyneb Cymraeg. GweithioddOrange ar y cyd gyda Samsung i greu'r rhyngwynebCymraeg. Cafodd ei lansio ar 1af Medi 2009.

Roedd gan y ffôn sgrîn gyffwrdd QVGA 7.2 cm (240 x 320 pixels), Rhyngwyneb TouchWiz a nodwedd "Cloi Stumio". Roedd ganddo gamera 3.2 megapicsel, yn gallu adnabod cerddoriaeth drwy wasanaeth Shazam, a chefnogaeth codec yn cynnwys H.263, MPEG4 (mp4), a WMV. Roedd ganddo gysylltiad Rhyngrwyd HSDPA (hyd at 7.2Mbit/eiliad)

Cefnogaeth iaith

[golygu |golygu cod]

Yn ogystal a'r rhyngwyneb Cymraeg ac yn cynnwys tecstio darogan gyda dros 44,000 o eiriau Cymraeg. Roedd hyn yn dilyn llwyddiant Samsung ac Orange i greu ffôn cyfrwngGwyddelig.

Dywedodd Sian Doyle, Pennaeth Manwerthu, Orange:

“Mae Orange yn hynod o falch mai ef yw'r rhwydwaith cyntaf i gyflwyno'r gwasanaeth hollol arloesol hwn i siaradwyr Cymraeg. Mae'r fenter hon yn rhan o ymrwymiad ehangach gan Orange i roi mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg. Rydym eisoes yn cynnwys yr iaith Gymraeg yn ein siopau drwy arwyddion dwyieithog, cynghorwyr sy'n siarad Cymraeg a mentrau eraill. Mae'r farchnad yng Nghymru yn fywiog a chyffrous, ac rydym yn gobeithio y bydd mentrau newydd fel hon ac agor ein siop arbrofol gymunedol gyntaf yn Nhrefynwy yn sicrhau mai Orange fydd y cwmni telathrebu mwyaf poblogaidd yng Nghymru.”[1]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Gwefan Bwrdd yr Iaith; adalwyd 17/03/2012". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-03-09. Cyrchwyd2012-03-17.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Samsung_S5600&oldid=11014291"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp