Tiriogaeth yrUnol Daleithiau yn ne'rCefnfor Tawel ywSamoa America neuSamoa Americanaidd (Samöeg:Amerika Sāmoa neuSāmoa Amelika). Fe'i lleolir yn hanner dwyreiniolYnysoedd Samoa ymMholynesia. Mae'r ynysoedd gorllewinol yn ffurfio gwlad annibynnolSamoa (Gorllewin Samoa gynt).
Cafodd ynysfor Samoa ei rannu yn ddwy diriogaeth gan Gytundeb Berlin 1899. Cytunwyd i roi ynysoedd y gorllewin i'rAlmaen, ynysoedd y dwyrain i'rUnol Daleithiau, aFfiji iBrydain. Dan ddylanwad pennaethLlynges yr Unol Daleithiau dros y Cefnfor Tawel, a'i ganolfan yn Pago Pago, gorfodwyd penaethiaid Samoa America i arwyddo dogfennau i ildio'u hynysoedd i'r Unol Daleithiau. Gwnaed Tutuila ac Aunu'u yn "diriogaethau anghorfforedig" Americanaidd ym 1900 a grŵp Manu'a (Ofu, Olosega, Ta'u, Atol Rose, Ynys Swain) ym 1904.
Llwyddodd y llynges i ennill rheolaeth dros y diwydiantcopra, a chefnogai'rEglwys Gynulleidfaol yn erbyn diddordebau'r penaduriaid lleol. CeisioddAdran Fewnwladol yr Unol Daleithiau i ymgorffori'r diriogaeth yn y 1950au, a chafodd hyn ei wrthsefyll gan y penadur Tuiasosopo.[1]
Yn ystodyr Ail Ryfel Byd, cafodd Samoa America ei milwroli oherwydd ei lleoliad strategol yn y frwydr yn erbynJapan yny Cefnfor Tawel. Trigai mwy o filwyr Americanaidd ar yr ynysoedd na Samoaid brodorol. Hyd heddiw, mae Maes Awyr Pago Pago yn cynnal ehediadau ar gyfer awyrennau milwrol, ac hyfforddir milwyr Samoaidd yng Nghanolfan Wrth GefnByddin yr Unol Daleithiau.[1]
Ar ddechrau'r 21g, ymdrechodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i dynnu Samoa America oddi ar restry Cenhedloedd Unedig o wledydd sydd heb eudatrefedigaethu.
↑1.01.1Dan Taulapapa McMullin, "American Samoa" yn Thomas Benjamin (gol.),Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 44.