Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Sami

Oddi ar Wicipedia
Sami
Sami gyda charw Llychlyn.
Cyfanswm poblogaeth
80,000–100,000
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Norwy,Sweden,y Ffindir,Rwsia
Ieithoedd
Ieithoedd Sami
Norwyeg,Swedeg,Ffinneg,Rwseg
Crefydd
Lwtheriaeth,yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol,siamanaeth
Grwpiau ethnig perthynol
Pobloedd Ffinnig

Pobl Ffinno-Wgrig sydd yn byw yny Lapdir yng ngogleddFfenosgandia yw'rSami neu'rLapiaid. Ieithoedd brodorol y Sami ydy'rieithoedd Sami, er bod nifer ohonynt wedi rhoi'r gorau i'w mamiaith ac yn siaradNorwyeg,Swedeg,Ffinneg, neuRwseg.

Nomadiaid a fu'n trigo yng ngogleddLlychlyn ers miloedd o flynyddoedd oedd hynafiaid y Sami. Mae union darddiad y Sami yn ansicr: cred rhai ysgolheigion taw un o'rbobloedd Baleo-Siberaidd ydynt, tra bod eraill yn honni iddynt darddu o'rhil Alpaidd yngNghanolbarth Ewrop. Er eu bod yn siarad ieithoedd Ffinno-Wgrig, nid ydynt yn perthyn yn genetig i'r bobloedd Ffinnig eraill nac i'r bobloedd Indo-Ewropeaidd.[1] Yn sgil dyfodiad yFfiniaid i'rFfindir yn yr 2g OC, cafodd aneddiadau'r Sami eu gyrru tua'r gogledd. Digwyddai'r un peth ynSweden aNorwy, ac erbyn heddiw mae'r Sami wedi eu cyfyngu iGylch yr Arctig yn bennaf.

Am amseroedd maith, cafoddceirw Llychlyn eu hela gan y Sami, a'u cadw mewn niferoedd bychain felanifeiliaid denu. Ychydig o ganrifoedd yn ôl, dechreuasant cadw gyrroedd o geirw Llychlyn, a daeth fugeilyddiaeth nomadaidd yn brif fywoliaeth y Sami. Buont yn byw mewn pebyll neu gytiau pridd, ac yn mudo ar yr eira gyda'u hanifeiliaid mewn grwpiau o bum neu chwe theulu. Buont hefyd ynpysgota ac yn hela anifeiliaid eraill am fwyd. Yn yr 20g daeth y ffordd nomadaidd o fyw i ben, ar wahân i ambell fugail sydd yn gyrru ei anifeiliaid ar ben ei hun tra bod ei deulu yn byw mewn tŷ modern. Mae nifer o Sami Norwy yn bysgotwyr ar yr arfordir. Mae eraill yn dibynnu arffermio,coedwigaeth, pysgota afonydd, amwyngloddio, neu'n cymryd swyddi mewn trefi a dinasoedd Llychlyn.

Yn hanesyddolsiamanaeth oedd crefydd y Sami, ac mae rhai ohonynt yn dal i arfer defodau traddodiadol. Cafodd y mwyafrif ohonynt eucristioneiddio. Mae nifer o Sami'r Ffindir a Rwsia yn perthyn i'rEglwys Uniongred Ddwyreiniol, tra bo'r mwyafrif o'r Sami eraill ynLwtheriaid. Mae nifer o gymunedau'r gogledd yn dilyn ffurf ar gynulleidfaoliaeth efengylaidd o'r enw Laestadianaeth.[2]

Bu rhagfarn yn eu herbyn yn yr oes fodern ac ymdrechai llywodraethau Llychlyn i gymhathu'r Sami yn ddiwylliannol. Cafodd yr ieithoedd Sami eu gwahardd yn yr ysgol. Yn ail hanner yr 20g, enillodd y Sami fwy o hawliau, gan gynnwys addysg drwy gyfrwng yr ieithoedd Sami a gwarchodaeth porfeydd ceirw Llychlyn. Sefydlwyd cymdeithasau gwleidyddol a diwylliannol gan y Sami, ac mae ychydig o bapurau newydd a rhaglenni radio yn eu hieithoedd brodorol.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) Iiddá, "The Origin and Genetic Background of the Sámi",Prifysgol Texas. Adalwyd ar 4 Hydref 2018.
  2. (Saesneg) Sami. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2018.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Sami&oldid=13357455"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp