![]() | |
Math | anheddiad dynol,pentref model ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Shipley |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 20 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.8372°N 1.7903°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Pentref model Fictoraidd ynShipley,Gorllewin Swydd Efrog,Swydd Efrog a'r Humber,Lloegr, ydySaltaire.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitanDinas Bradford. Gan fod y lle o bwysigrwydd hanesyddol fel enghraifft ardderchog o bentref diwydiannol sydd wedi goroesi bron yn gyfan gwbl, mae ar restrUNESCO oSafleoedd Treftadaeth y Byd ers2001.[2]
Adeiladwyd Saltaire ym1851 gan SyrTitus Salt, un o brif ddiwydianwyr diwydiant gwlân Swydd Efrog. Mae enw "Saltaire" yn gyfuniad o gyfenw'r sefydlydd ac enwAfon Aire, sy'n llifo drwy'r pentref. Mae'r pentref hefyd wedi'i leoli arGamlas Leeds a Lerpwl a wasanaethoddSalts Mill, melin wlân Titus Salt. O amgylch y felin adeiladodd Salt dai cerrig taclus ar gyfer ei weithwyr, golchdai, ymolchdai, ysgol, ysbyty, elusendai, rhandiroedd, parc a thŷ cychod. Roedd yna hefyd sefydliad ar gyfer hamdden ac addysg, gyda llyfrgell, ystafell ddarllen, neuadd gyngerdd, ystafell filiards, labordy gwyddoniaeth a champfa.