Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Salm 23

Oddi ar Wicipedia

Salm 23 yw'r 23ain o 150 osalmau ynLlyfr y Salmau. Mae'n cael ei hadnabod yn gyffredinol wrth eiriau agoriadol ei hadnod gyntaf, sef "Yr Arglwydd yw fy Mugail". Llyfr y Salmau yw trydedd adran yBeibl Hebraeg,[1] ac mae'n lyfr sydd wedi'i gynnwys yn yrHen DestamentCristnogol. Yn y cyfieithiad Deg a Thrigain Groeg o'r Beibl, ac yng nghyfieithiad Lladin yFwlgat ,Salm 22 yw'r salm hon oherwydd bod y system rifo ychydig yn wahanol. Yn Lladin, fe'i gelwir yn "Dominus reget me et nihil mihi deerit".[2]

Fel pob salm, byddai'r hen Hebreaid yn defnyddio Salm 23 wrth addoli. Mae'r awdur yn disgrifio Duw fel ei fugail, yn ei amddiffyn a darparu ar ei gyfer. Caiff yr salm ei darllen, ei hadrodd a'i chanu ganIddewon a Christnogion. Mae wedi'i disgrifio fel y mwyaf adnabyddus o'r holl salmau oherwydd y modd y mae'n trafod y thema gyffredinol o ymddiried yn Nuw.[3]

Y testun

[golygu |golygu cod]

Ceir isod y testun Hebraeg a chyfieithiadBeibl 1588 gan yr Esgob William Morgan o Salm 23:

AdnodHebraegCymraeg (Beibl 1588)
1מִזְמ֥וֹר לְדָוִ֑ד יְהֹוָ֥ה רֹ֜עִ֗י לֹ֣א אֶחְסָֽרSalm Dafydd. Yr ARGLWYDD yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf.
2בִּנְא֣וֹת דֶּ֖שֶׁא יַרְבִּיצֵ֑נִי עַל־מֵ֖י מְנֻח֣וֹת יְנַֽהֲלֵֽנִיEfe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog; efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel.
3נַפְשִׁ֥י יְשׁוֹבֵ֑ב יַנְחֵ֥נִי בְמַעְגְּלֵי־צֶ֜֗דֶק לְמַ֣עַן שְׁמֽוֹEfe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4גַּ֚ם כִּֽי־אֵלֵ֨ךְ בְּגֵ֪יא צַלְמָ֡וֶת לֹא־אִ֘ירָ֚א רָ֗ע כִּי־אַתָּ֥ה עִמָּדִ֑י שִׁבְטְךָ֥ וּ֜מִשְׁעַנְתֶּ֗ךָ הֵ֣מָּה יְנַֽחֲמֻֽנִיIe, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant.
5 תַּֽ֘עֲרֹ֤ךְ לְפָנַ֨י | שֻׁלְחָ֗ן נֶ֥גֶד צֹֽרְרָ֑י דִּשַּׁ֖נְתָּ בַשֶּׁ֥מֶן רֹ֜אשִׁ֗י כּוֹסִ֥י רְוָיָֽהTi a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.
6אַ֚ךְ ט֣וֹב וִ֖סֶד יִ֖רְדְּפוּנִי כָּל־יְמֵ֣י חַיָּ֑י וְשַׁבְתִּ֖י בְּבֵית־יְ֜הֹוָ֗ה לְאֹ֣רֶךְ יָמִֽיםDaioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr ARGLWYDD yn dragywydd.

Defnydd yn y traddodiadau Iddewig a Christnogol

[golygu |golygu cod]

Yn yr traddodiad Iddewig, mae Salm 23 yn cael ei chanu yn ystod trydydd pryd y Saboth. Mae hefyd yn cael ei thraddodi ym mhresenoldeb person ymadawedig, gan y rhai sy'n gwylio dros y corff cyn claddedigaeth, neu yn y gwasanaeth angladd ei hun.

I Gristnogion, mae'r ddelwedd o Dduw fel bugail yn cysylltu nid yn unig â Dafydd ond hefydIesu , a ddisgrifiodd ei hun fel "Bugail Da" ynEfengyl Ioan . Mae "glyn cysgod angau" hefyd yn aml yn cael ei gymryd fel cyfeiriad at fywyd tragwyddol y mae Iesu yn ei roi.

MaeCristnogion Uniongred fel arfer yn cynnwys y Salm hon yn eu gweddïau wrth baratoi ar gyfer derbyn yCymun .

Mae'r salm yn ddarn poblogaidd i'w roi ar gof ac fe'i defnyddir yn aml mewn pregethau. Mae hefyd wedi'i gosod i nifer fawr o drefniannau cerddorol.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Mazor 2011, t. 589.
  2. "Lladin cyfochrog / English Psalter / Psalmus 22 (23) middleist.net". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2019-05-24. Cyrchwyd2019-04-02.
  3. Heller, Rebbetzin Tziporah (3 August 2002)."The Lord is My Shepherd".Aish.com. Cyrchwyd28 June 2018.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Salm_23&oldid=12208649"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp