Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Saint-John Perse

Oddi ar Wicipedia
Saint-John Perse
Saint-John Perse ym 1960.
FfugenwSaint-John Perse Edit this on Wikidata
GanwydAlexis Leger Edit this on Wikidata
31 Mai 1887 Edit this on Wikidata
Pointe-à-Pitre Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1975 Edit this on Wikidata
Hyères Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bordeaux Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, diplomydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodDorothy Russel Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd adiplomydd oFfrainc oeddSaint-John Perse (Marie-René-Auguste-Aléxis Saint-Léger Léger;31 Mai188720 Medi1975). EnilloddWobr Lenyddol Nobel ym 1960 "am ehediad esgynnol a delweddaeth atgofus ei farddoniaeth sydd mewn dull gweledigaethol yn adlewyrchu amodau ein hoes".[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu |golygu cod]

Ganed ef yn Pointe-à-Pitre,Guadeloupe, yny Caribî, pan oedd yr ynys yn un o drefedigaethauYmerodraeth Ffrainc ond nid eto yn rhan hanfodol oFfrainc. Fe'i magwyd yn Guadeloupe nes iddo symud ila Métropole yn 12 oed. Astudiodd ym mhrifysgolionBordeaux aPharis.

Gyrfa ddiplomyddol

[golygu |golygu cod]

Ymunodd â gwasanaeth diplomyddol Ffrainc ym 1914. Aeth iTsieina a gwasanaethodd yn is-gennad ynShanghai ac yn ysgrifennydd yn y llysgenhadaeth ynBeijing. Ym 1921 aeth i'r Gynhadledd Lyngesol ynWashington, D.C. fel arbenigwr ar faterion Dwyrain Asia. O 1921 i 1932, efe oedd ysgrifennydd iAristide Briand, Prif Weinidog a Gweinidog Tramor Ffrainc. Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd cyffredinol yn y weinyddiaeth dramor ym 1933, a'i dyrchafwyd i reng llysgennad.[2]

Yn sgil cwymp y Drydedd Weriniaeth yn ystodyr Ail Ryfel Byd, fe'i diswyddwyd ganlywodraeth Vichy ym 1940 a chollodd ei ddinasyddiaeth Ffrengig. Aeth yn alltud iUnol Daleithiau America, ac yno gweithiodd yn arbenigwr arlenyddiaeth Ffrangeg ynLlyfrgell y Gyngres. Dychwelodd i Ffrainc ym 1957.[2]

Barddoniaeth

[golygu |golygu cod]

Mae barddoniaeth gynnar Perse, er enghraifft y casgliadÉloges (1911), yn dangos dylanwadSymbolaeth. Yn ddiweddarach, datblygodd arddull ei hun, gydag ieithwedd fanwl ond anodd a werthfawrogir gan feirdd eraill a beirniaid, gyda llai o apêl i'r darllenydd cyffredin. Yr enwocaf o'i weithiau cynnar ydy'r gerdd hirAnabase (1924).

Ymhlith y cyfrolau a gyhoeddwyd ganddo yn ei gyfnod o alltudiaeth yn yr Unol Daleithiau maeExile (1942),Vents (1946),Amers (1957),Chronique (1960), acOiseaux (1962). Mae ei gasgliadau diweddarach yn mynegi purdeb, trasiedi, a chyfuniad o ddeallaeth ac angerdd a ystyrir yn nodweddiadol olên Ffrainc.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1960",Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2023.
  2. 2.02.1(Saesneg) Saint-John Perse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2023.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Saint-John_Perse&oldid=12967670"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp