Ffurf hanesyddol ar yr iaithSaesneg ywSaesneg Canol a siaredid ar ôl y goncwestNormanaidd yn yr 11g tan ddiwedd y 15g. Aeth Saesneg drwy sawl newid a datblygiad yn y cyfnod wedi'rHen Saesneg. Nid yw ysgolheigion yn hollol gytûn ynglŷn â dyddiadau'r iaith, ond pennir y tri a hanner can mlynedd 1150–1500 fel y cyfnod pan siaredid Saesneg Canol yn ôlGeiriadur Saesneg Rhydychen.[1] Yn fras, dilynodd y cam hwn yn natblygiad yr iaith Saesnegyr Oesoedd Canol Uchel aDiweddar. Fe'i siaredid ar drawsLloegr, yn ne-ddwyrainyr Alban, mewn ambell man ary ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yny Pâl ynIwerddon.
Gwelodd Saesneg Canol newidiadau sylweddol i'w gramadeg, ynganiad, acorgraff. Roedd arferion ysgrifennu yn ystod y cyfnod hwn yn amrywio'n eang. Dangosir amrywiaeth helaeth mewn enghreifftiau ysgrifenedig Saesneg Canol yn ôl ardal eu tarddiad. Daeth Hen Saesneg, iaith safonol mewn cymhariaeth, yn fratiog a'i rhannu'n sawl ffurf leol, ac awduron yn ei datblygu yn y fan a'r lle yn fynyachaf.[1] Erbyn diwedd y cyfnod (tua 1470), gyda chymorthy wasg argraffu a ddyfeisiwyd ganJohannes Gutenberg yn 1439, derbyniwyd ffurf safonol yn seiliedig ar dafodiaith Lludain o'r enw Safon y Siawnsri. Roedd hyn i raddau helaeth yn sylfaen ar gyfer sillafu Saesneg Modern, er bod ynganiad wedi newid yn sylweddol ers hynny. Olynwyd Saesneg Canol yn Lloegr gan gyfnod y Saesneg Modern Cynnar, a barodd hyd ganol yr 17g. Datblygodd yr iaithSgoteg ar yr un pryd fel datblygiad o dafodiaithNorthymbria, ffurf ar Saesneg oedd yn gyffredin yng ngogledd Lloegr ac yn ne-ddwyrain yr Alban.
Yn ystod cyfnod Saesneg Canol, symleiddiwyd nifer o nodweddion gramadeg yr Hen Saesneg, neu ddiflanasant yn gyfan gwbl. Cafoddffurfdroadau'r enw, yr ansoddair, a'r ferf eu symleiddio o ganlyniad i ostyngiad (ac yn y pen draw diflaniad) y mwyafrif o wahaniaethau o ran ycyflwr gramadegol. Benthycwyd llawer o eiriauNormaneg, yn enwedig ym meysydd gwleidyddiaeth, y gyfraith, y celfyddydau, a chrefydd. Cedwai'rgeirdarddiad Germanaidd gan y rhan fwyaf o eirfa'r Saesneg, a dylanwadau'rHen Norseg yn amlygach. Cafwyd newidiadau sylweddol yn nhermau ynganiad, gan gynnwysllafariaid adeuseiniaid hirion, ac yng nghyfnod diweddar Saesneg Canol yr hyn a elwir Sifft Fawr y Llafariaid.