Dinas fwyafBrasil a phrifddinastalaith São Paulo ywSão Pauloynganiad. Fe'i lleolir arlwyfandir tua 70 km o'r môr yn ne-ddwyrain y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 11,451,999(2022)[1] gyda mwy na 20,850,000(2016)[2] o bobl yn yr ardal fetropolitaidd (São Paulo Fwayaf). Yn ogystal, São Paulo yw'r ddinas fwyaf yn yrAmericas a gwledydd y byd sy'n siaradPortiwgaleg ac yn y2020au hi oedd 12fed dinas fwyaf ei phoblogaeth ar y Ddaear.[3] Creodd y broses o ymuno ag ardaloedd metropolitan sydd wedi'u lleoli o amgylch São Paulo Fwyaf (Campinas, Santos, Sorocaba a São José dos Campos) y São Paulo Macrometropolis, sef 'megalopolis' gyda mwy na 30 miliwn o drigolion, un o'r crynodrefi trefol mwyaf poblog yn y byd.[3][4]
Lleoliad São Paulo
São Paulo, yw'r dalaith fwyaf poblog a chyfoethocaf ym Mrasil. Mae'n uned ryngwladol gref mewn masnach, cyllid, y celfyddydau ac adloniant.[5] Mae'r enw'n cyfeirio atyr Apostol Paul, un o'rdisgyblion mewnCristnogaeth.
Dyma'r economi fwyaf, yn ôlCynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) ynAmerica Ladin aHemisffer y De, ac mae'r ddinas yn gartref i Gyfnewidfa Stoc São Paulo.[6] Rhodfa Paulista yw craidd economi São Paulo. Yn 2018 roedd gan y ddinas yr 11eg GDP mwyaf yn y byd, sy'n cynrychioli 10.7% o holl GDP Brasil a 36% o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yn nhalaith São Paulo.[7] Mae'n gartref i 63% o gwmnïau rhyngwladol, enfawr Brasil, a chynhyrchodd 28% o 'r cynhyrchiad gwyddonol cenedlaethol yn 2005, o'i mesur ggyda nifer y papurau gwyddoniaeth a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion.[8][9]
Mae'r metropolis yn gartref i nifer o'r skyscrapers talaf ym Mrasil, gan gynnwys yMirante do Vale, Edifício Itália, Banespa, Twr y Gogledd a llawer o rai eraill. Mae gan y ddinas ddylanwad diwylliannol, economaidd a gwleidyddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n gartref i henebion, parciau ac amgueddfeydd fel Cofeb America Ladin, Parc Ibirapuera, Amgueddfa Ipiranga, Amgueddfa Gelf São Paulo, ac Amgueddfa'r IaithPortiwgaleg. Mae'r ddinas yn cynnal digwyddiadau fel Gŵyl Jazz São Paulo, Gwyl Gelf Senno Paulo, Grand Prix Brasil, Wythnos Ffasiwn São Paulo, ATP ATP Open, Sioe Gêm Brasil a Phrofiad Comic Con. Mae gorymdaith Hoywon LGBTQ São Paulo yn cystadlu â gorymdaith Hoywon Dinas Efrog Newydd fel yr orymdaith LGBTQ fwyaf yn y byd.[10][11]
Mae São Paulo yn grochan o ddinas cosmopolitaidd, lle mae pobloedd y byd yn toddi'n un, gan gynnwys, diasporas oArabia, yrEidal,Japan aPhortiwgal, gan mwyaf, gydag enghreifftiau yn cynnwys cymdogaethau ethnig Mercado, Bixiga, a Liberdade yn y drefn honno. Mae São Paulo hefyd yn gartref i'r boblogaethIddewig fwyaf ym Mrasil, gyda thua 75,000 o Iddewon.[12] Yn 2016, roedd trigolion y ddinas i dros 200 o wahanol wledydd.[13] Gelwir pobl o'r ddinas yn "paulistanos", tra bod paulistas yn dynodi unrhyw un o'r wladwriaeth, gan gynnwys y paulistanos. ArwyddairLladin y ddinas, y mae wedi'i rannu â'r llong ryfel a'r cludwr awyrennau, ywNon ducor, duco, sy'n cyfieithu fel "Nid wyf yn cael fy arwain, rwy'n arwain."[14]
Caiff y ddina ei hadnabod ar lafar gwlad fel "Sampa" neu "Terra da Garoa", ac mae'n adnabyddus am ei dywydd annibynadwy, ei phensaernïaeth, gastronomeg, tagfeydd traffig difrifol a skyscrapers. Roedd São Paulo yn un o ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd FIFA 2014. Yn ogystal, cynhaliodd y ddinas Gemau Pan-Americanaidd IV a'r São Paulo Indy 300.
Roedd poblTupi'n byw yn yr ardal lle saif ardal São Paulo heddiw, a elwid ar y pryd hynny'n "wastadeddau Piratininga" o amgylch Afon Tietê, a llwythi brodorol yTupiniquim, Guaianas, a'r Guarani. Roedd llwythau eraill hefyd yn byw mewn ardaloedd sydd heddiw'n ffurfio'r rhanbarth fetropolitan.[15] Rhannwyd y rhanbarth yn Caciquedoms (teyrnasoedd bychan) cyn dyfodiad yr Ewropeaid.[16] Y pennaeth (Cacique) mwyaf nodedig oeddTibiriça, sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth i'r Portiwgaliaid a gwladychwyr Ewropeaidd eraill. Ymhlith y nifer o enwau brodorol sydd wedi goroesi heddiw mae Tietê, Ipiranga, Tamanduateí, Anhangabaú, Piratininga, Itaquaquecetuba, Cotia, Itapevi, Barueri, Embu-Guaçu ac ati.
↑Zioni, Silvana; Silva, Gerardo; Passarelli, Silvia Helena (2011), Structuring dynamics of São Paulo macrometropolis: perspectives and strategies for rail infrastructure re-functioning.ZIONI, ; , ; , .
↑Ennis, Dawn (24 Mai 2017)."ABC will broadcast New York's pride parade live for the first time". LGBTQ Nation.Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd26 Medi 2018.Never before has any TV station in the entertainment news media capital of the world carried what organizer boast is the world's largest Pride parade live on TV