Pobl a drigai ynNwyrain Ewrop yn ystod y cyfnod o ganol yr 8g i'r 10g oedd yRws. Cyfeirir atynt mewn sawl dogfen hanesyddol o'rOesoedd Canol Cynnar ar drawsEwrop a'rDwyrain Agos, a phriodolir iddynt ddatblygu trefi cynnar ySlafiaid Dwyreiniol a sefydlugwladwriaeth gyntaf y bobloedd hynny,Rws Kyiv, yn 882. Rhoesent eu henw i wledyddRwsia aBelarws, a rhanbarthau hanesyddol megisRwsia Fawr,Rwsia Wen,Rwsia Fechan, aRwthenia. Fodd bynnag, nid yw'n sicr taw'r Rws oedd hynafiaid y cenhedloedd Slafig Dwyreiniol modern—yRwsiaid, yBelarwsiaid, a'rWcreiniaid—nac yn frodorion i'r ardal. Mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn cytuno tawLlychlynwyr oedd y Rws yn wreiddiol, er i rai awduron, yn enwedig yn Rwsia, mynnu taw llwyth Slafig brodorol oeddynt.
Rhyfelwyr a masnachwyr oedd y Rws, a oedd yn bresennol yng ngogledd-orllewin Rwsia ac ar hyd flaenauAfon Volga yn niwedd yr 8g ac yn y 9g. Buont yn cyfnewid crwyn anifeiliaid a chaethweision amarian a phethau moethus o'r dwyrain. Rhoddir yr enw "Chaganaeth y Rws" gan rai awduron diweddar ar gynghrair ragdybiedig o'r llwyth hwn, ar sail ambell ffynhonnell sydd yn cyfeirio at arweinydd y Rws felchacanus, teitl o'rHen Dyrceg sydd yn gyfystyr ag "ymerawdwr". Fodd bynnag, mae'r mwyafrif o hanesyddion yn gwrthod disgrifiad owladwriaeth o'r fath yn y cyfnod hwnnw. Aeth byddin o'r Rws ar ryfelgyrch i'r de yn 860, gan warchae arGaergystennin. Er gwaetha'r ymgyrchoedd milwrol hyn, byddai cysylltiadau rheolaidd rhwng y Rws a diwylliant Bysantaidd ond yn datblygu'n ddiweddarach, perthynas a fyddai'n arwain at gristioneiddio'r Slafiaid Dwyreiniol—yr hyn a elwir "bedydd y Rws"—yn niwedd y 10g.
Yn ôl ycronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol,Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen, gwahoddwyd tri brawd o'rFarangiaid—yr enw arLychlynwyr a ymsefydlodd yn Nwyrain Ewrop—i deyrnasu arnynt yng nghanol y 9g. Er ei bod yn ddogfen ddigon manwl, tybir fod rhywfaint ofytholeg genedlaethol a ffurf lenyddol yrarwrgerdd yn y stori o'r tri brawd, cymeriadau ffughanesyddol neu led-chwedlonol efallai, ac ni ellir cymryd popeth sydd yn y cronicl yn ganiataol. Serch, mae'r mwyafrif o hanesyddion yn ystyried y cronicl yn gywir wrth nodi tarddiad Llychlynnaidd y Rws.
Mae hanes ac hunaniaeth y Rws yn bwnc hynod o ddadleuol. Yn ôl y consensws ysgolheigaidd yn y Gorllewin, tarddodd y Rws o'r Farangiaid, oSweden yn bennaf, a ymsefydlodd ar hyd yr afonydd rhwngy Môr Baltig a'rMôr Du yn y cyfnod o'r 8g i'r 11g.Pobl Germanaidd oeddynt, yn siarad yr iaithHen Norseg. Daethant i deyrnasu ar diroedd dwyreinioly bobloedd Slafonig, gan sefydlu Rws Kyiv yn 882. Cafwyd broses oymddiwylliannu rhwng y Farangiaid, y Slafiaid, a llwythau oFaltwyr,Ffiniaid, aBolgariaid.[1] Mae tarddiad y Rws yn elfen ganolog oethnogenesis y Slafiaid Dwyreiniol—y Rwsiaid, y Belarwsiaid, a'r Wcreiniaid—ac felly'n bwnc llosg ynhanesyddiaeth y cenhedloedd hynny. Mae nifer o ysgolheigion yn Rwsia, a rhai hanesyddion o wledydd eraill, yn arddel "gwrth-Normaniaeth", tuedd adolygiadol sydd yn dal taw brodorion Slafonig yr ardal a wnaeth sefydlu Rws Kyiv. Yn ôl rhai, llwyth o Slafiaid oedd y Rws a sefydlodd gynghrair i atgyfnerthu eu grym, ffurf ar lywodraeth a ddatblygodd yn yr hon a elwid Rws Kyiv. Er i'r garfan wrth-Normanaidd gydnabod goresgyniadau'r Llychlynwyr yn yr ardal, haearant i Rws Kyiv ond ildio i reolaeth Farangaidd am gyfnod byr o'i hanes.
Ffurfiwyd y dybiaeth "Normanaidd" o darddiad y Rws yn y 18g gan hanesyddion acieithegwyr Almaenig megisGottlieb Siegfried Bayer acAugust Ludwig von Schlözer. Eu prif ffynhonnell oeddHanes y Blynyddoedd o'r Blaen, y cronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol, sydd yn dyddio o'r 12g ac sydd yn adrodd hanes y bobloedd hynny o ganol y 9g hyd at 1110. Yn ôl yrhanes traddodiadol hwn, gofynnwyd i lwythNormanaidd o'r enw Rws i ymsefydlu ynNovgorod gan y boblogaeth leol, er mwyn rhoi taw ar ymgecru'r brodorion. Dywed iRurik, un o benaduriaid y Rws, gael ei dderbyn yn Dywysog Novgorod yn 862, gan osod seiliau y wladwriaeth newydd a fyddai'n cymryd ffurf Rws Kyiv ugain mlynedd yn ddiweddarach. Cefnogwyd y safbwyntiau hyn ganSergey Solovyov, hanesydd pwysicaf Rwsia yn y 19g, a ysgrifennai, "ni all ein hanes dilynol gynnig gwell esboniad ar ddyfodiad y tywysogion Farangaidd [na'r hyn a geir ynHanes y Blynyddoedd o'r Blaen]".[2]
Ymhelaethwyd ar y ddamcaniaeth hon yn y 19g gan yr ieithegwyrVilhelm Thomsen o Ddenmarc acErnst Kunik, Almaenwr a ymfudodd i Rwsia. Tynnwyd ar ffynonellauArabaidd yr Oesoedd Canol, er enghraifft disgrifiad y fforiwrAhmmad ibn Rustah o darddle'r Rws fel ynys goediog achorslyd, gan awgrymu tirwedd yr arfordir Baltig yng ngogledd-orllewin Rwsia. Cadarnhawyd y dybiaeth hon yn ddiweddarach o ganlyniad i gloddioarchaeolegoltomenni claddu ar lannauLlyn Ilme, ger hen ddinas Novgorod, aLlyn Ladoga, ffynhonnellAfon Neva, sydd yn profi presenoldeb y Llychlynwyr yn yr ardal yn y 9g a'r 10g.
Er gwaethaf pwysigrwydd llenyddolHanes y Blynyddoed o'r Blaen, mae nifer o ysgolheigion Rwsiaidd yn gwrthod dibynadwyedd hanesyddol y cronicl. Maent yn haeru i'r Rws gymryd eu henw oAfon Ros, un o lednentyddAfon Dnieper yng Ngorllewin Wcráin, ac yn tybio felly taw llwyth Slafig o'r ardal honno oedd y Rws yn wreiddiol. Tybiasant hefyd i'r Rws ddatblygu gwladwriaethffiwdal cyn dyfodiad y Farangiaid i'r ardal.
- ↑Christopher J. Ward a John M. Thompson,Russia: A Historical Introduction from Kievan Rus' to the Present (Efrog Newydd: Routledge, 2021), t. 6.
- ↑Sergei M. Soloviev,History of Russia, Volume 1: The Origins of Kievan Rus from Earliest Times to 1054 (Gulf Breeze, Florida: Academic International Press, 2014), t. 74