Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Rwmania

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oRwmaniaid)
Rwmania
România
Mathgwladwriaeth sofran,gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRhufain hynafol Edit this on Wikidata
PrifddinasBwcarést Edit this on Wikidata
Poblogaeth19,053,815 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemDeșteaptă-te, române! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarcel Ciolacu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwmaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Ewrop,yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd238,397 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaWcráin,Hwngari,Serbia,Bwlgaria,Moldofa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46°N 25°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Rwmania Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Rwmania Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Rwmania Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethIlie Bolojan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Rwmania Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarcel Ciolacu Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$285,405 million, $301,262 million Edit this on Wikidata
ArianRomanian Leu Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.41 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.821 Edit this on Wikidata

Gwlad ynne-ddwyrain Ewrop ywRwmania (Rwmaneg:România). Mae'n ffinio âHwngari aSerbia i'r gorllewin aBwlgaria i'r de, a'rWcráin aMoldofa i'r gogledd a'r dwyrain.[1] Ffurfir y mwyafrif o'r goror rhwng Rwmania a Bwlgaria ganAfon Donaw, sy'n arllwys iAberdir y Donaw yn y fan mae morlin yn ne-ddwyrain Rwmania ar lannau'rMôr Du. Mae ganddi arwynebedd o 238,391 metr sgcilowar (92,043 mi sgw) a hinsawdd gyfandirol athymherus. Rhed cadwyn dde-ddwyreiniolMynyddoedd Carpathia trwy ganolbarth y wlad, gan gynnwysCopa Moldoveanu (2,544 m (8,346 tr)).[2]

Datblygodd y wlad fodern yn nhiriogaethau'r dalaithRufeinigDacia. Unodd tywysogaethauMoldafia aWalachia ym 1859 yn sgil y deffroad cenedlaethol. Rhoddid yr enw Rwmania ar y wlad yn swyddogol ym 1866, ac enillodd ei hannibyniaeth oddi arYmerodraeth yr Otomaniaid ym 1877. YmunoddTransylfania,Bukovina aBesarabia âTheyrnas Rwmania ar ddiweddy Rhyfel Byd Cyntaf. Brwydrodd Rwmania ar ochryr Almaen Natsïaidd yn erbynyr Undeb Sofietaidd yn ystodyr Ail Ryfel Byd tan iddi ymuno â'r Cynghreiriaid ym 1944. Cafodd y wlad ei meddiannu gany Fyddin Goch a chollodd sawl tiriogaeth. Wedi'r rhyfel, trodd Rwmania yn weriniaeth sosialaidd ac yn aelod oGytundeb Warsaw. Dymchwelwyd y drefn gomiwnyddol gan Chwyldro 1989, a newidodd Rwmania'n wlad ddemocrataidd a chanddi economi'r farchnad.

Tyfod economi Rwmania yn gyflym ar ddechrau'r 2000au, a bellach mae'n seiliedig yn bennaf arwasanaethau a hefyd yn cynhyrchu ac allforio peiriannau ac ynni trydan. Ymaelododd âNATO yn 2004 a'rUndeb Ewropeaidd yn 2007. Trigai tua 20 miliwn o bobl yn y wlad, a bron i 2 miliwn ohonynt yn y brifddinasBwcarést.[3] Rwmaniaid, un o'rcenhedloedd Lladinaidd, yw mwyafrif y boblogaeth a siaradentRwmaneg ac ynGristnogion Uniongred Dwyreiniol. Ceir lleiafrifoedd o drasHwngaraidd aRoma.

Tarddiad yr enw

[golygu |golygu cod]

Daw enw'r wlad yn y bôn o'r gairLladinromanus, sy'n golygu "dinesydd Rhufain".[4] Defnyddid yr enw yn gyntaf, hyd y gwyddon, yn yr 16g gan ddyneiddwyr Eidalaidd a deithiodd i Dransylfania, Moldafia, a Walachia.[5][6][7][8] Sonir amȚeara Rumânească ("Tir Rwmania") yn Llythyr Neacșu o Câmpulung (1521), y ddogfen hynaf sy'n goroesi yn yr iaith Rwmaneg.[9]

Defnyddid y ddau sillafiadromân arumân hyd ddiwedd yr 17g, pan wahaniaethid y ddwy ffurf am resymau cymdeithasol-ieithyddol: "taeog" oedd ystyrrumân bellach, aromân oedd yr enw ar y bobl Rwmaneg eu hiaith.[10] Wedi diddymu'r system daeog ym 1746, gair anarferol oeddrumân a daeth y ffurfromân yn safonol. Defnyddid yr enw Rwmania i ddisgrifio mamwlad yr holl Rwmaniaid yng nghyfnod cynnar y 19g.[11]

Ymhlith y ffurfiau ar enw'r wlad mewn ieithoedd eraill Ewrop maeRumänien ynAlmaeneg,Roumanie ynFfrangeg,Rumunija ynSerbo-Croateg, Румыния (Rumyniya) ynRwseg, aRumunia ynBwyleg. Daw'r enw Cymraeg drwy'r hen ffurf SaesnegRumania neuRoumania.[12]Romania yw'r ffurf Saesneg arferol ers canol y 1970au.[13][14]

Enwau swyddogol
  • 1859–1862:Tywysogaethau Unedig
  • 1862–1866:Tywysogaethau Unedig Rwmania
  • 1866–1881:Rwmania
  • 1881–1947:Teyrnas Rwmania
  • 1947–1965:Gweriniaeth Pobl Rwmania (RPR)
  • 1965–1989:Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (RSR)
  • 1989–presennol:Rwmania

Hanes

[golygu |golygu cod]

Hanes cynnar

[golygu |golygu cod]

Tua 2000 CC ymsefydlodd yrIndo-Ewropeaid yn ardal Donaw-Carpathia, a chymysgant â'r brodorionneolithig gan ffurfio'rThraciaid. Tros amser datblygodd y Thraciaid yn ddau dylwyth tebyg, y Getiaid a'rDaciaid, enwau a roddid arnynt gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Trigant yn y mynyddoedd i ogledd Gwastatir y Donaw ac ym Masn Transylfania. Daeth y Getiaid i gysylltiad â'rbyd Groeg drwy wladfeydd yrÏoniaid a'rDoriaid ar arfordir gorllewinol y Môr Du yn y 7g CC.

Yr Oesoedd Canol

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Annibyniaeth a brenhiniaeth

[golygu |golygu cod]

Roedd Rwmania dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaidd o'r 15g hyd y 19g. Yn sgil twfcenedlaetholdeb ar draws Ewrop, dechreuodd y Rwmaniaid frwydro am eu hannibyniaeth yn y 1820au wrth iddynt geisio uno Moldafia, Walachia a Thransylfania. Unodd Moldafia a Walachia ym 1862 i ffurfio'r Tywysogaethau Unedig, a ail-enwyd yn Rwmania ym 1866. Trodd yn deyrnas ym 1881.

Y Rwmania gomiwnyddol

[golygu |golygu cod]

Cafwyd ymchwydd economaidd bach yn y 1960au a'r 1970au. Nid oedd polisïauawtarciaiddNicolae Ceauşescu, arweinyddy Rwmania Gomiwnyddol o1965 i1989, yn llwyddiannus, ac wrth drio talu hollddyled y wlad cafodd effaith ddifrifiol ar yreconomi a arweiniodd atdlodi. Ansefydlogodd Rwmania ymhellach wrth iddi droi'nwladwriaeth heddlu dan warchodaeth ySecuritate. Saethwyd Ceauşescu a'i wraig DdyddNadolig 1989, ar ôl iddo orchymyn i'r heddlu cudd ymosod ar brotestwyr ynTimisoara.[15]

Y Rwmania fodern

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Map o Rwmania gyda dinasoedd a phrif afonydd

Ffurfir rhan fawr o ffiniau Rwmania âSerbia aBwlgaria ganAfon Donaw. Ymunir y Donaw ganAfon Prut, sy'n ffurfio'r ffin âMoldofa. Llifir y Donaw i'rMôr Du, yn ffurfioDelta'r Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.

Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.

Mae gan Rwmaniatirwedd eithaf dosbarthol, gyda 34%mynyddoedd, 33%brynau a 33%iseldiroedd.

MaeMynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Rwmania wrth iddynt amgylchynuGwastatir Uchel Transylfania, 14 o gopâu dros 2 000 m, yr uchaf ynCopa Moldoveanu (2 544 m). Yn y de, mae Mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag atWastadedd Bărăgan.

Tri mynydd uchaf Rwmania yw:

  Enw Uchder Grŵp Mynyddoedd
   1Copa Moldoveanu   2 544 mMynyddoedd Făgăraş
   2Omu   2 500 mMynyddoedd Făgăraş
   3Piatra Craiului   2 489 mMynyddoedd Făgăraş

Dinasoedd

[golygu |golygu cod]

Y dinasoedd pennaf yw'r prifddinasBwcarést,Iaşi,Timişoara,Cluj-Napoca,Constanţa,Craiova,Braşov, aGalaţi. Y dinasoedd mwyaf yw:

#DinasPoblogaeth[16]Sir
1.Bwcarést2 082 334Sir Bwcarést
2.Iaşi320 888Sir Iaşi
3.Cluj-Napoca317 953Sir Cluj
4.Timişoara317 660Sir Timiş
5.Constanţa310 471Sir Constanţa
6.Craiova302 601Sir Dolj
7.Galaţi298 861Sir Galaţi
8.Braşov284 595Sir Braşov
9.Ploiesti232 527Sir Prahova
10.Braila216 292Sir Braila
11.Oradea206 616Sir Bihor
12.Bacau175 500Sir Bacau

Gwleidyddiaeth a llywodraeth

[golygu |golygu cod]

Mae Rwmania ynweriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaetholllywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, ySenat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac yCamera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.

Etholir yrArlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'rPrif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.

Rhanbarthau a siroedd

[golygu |golygu cod]
Map gweinyddol o Rwmania
MaeTransylfania yn wyrdd,Wallachia yn las, ardalMoldofa yn goch, aDobrogea yn felyn

Caiff Rwmania ei rhannu i 41 ojudeţe, neusiroedd, a bwrdeisiaethBwcarést (y brifddinas).

Y siroedd (yn nhrefn yr wyddor) yw:

Economi

[golygu |golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.

Yn 2022, mae Rwmania yn cael CMC o gwmpas $737 biliwn a CMC y pen o $38,721[17]. Yn ôl Banc y Byd, mae Rwmania yn gwlad incwm uchel[18]. Yn ôl Eurostat, roedd CMC y pen Rwmania yn 77% o gyfartaledd yr UE yn 2022, cynnydd o 44% mewn 2007 gan wneud Rwmania yn un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf.[19]

Ar ôl 1989, fe wnaeth y wlad profi degawd o ansefydlogrwydd economaidd a ddirywiad, wedi arwain yn rhannol gan sylfaen ddiwydiannol ddarfodedig a ddiffyg diwyigo strwythurol. Er hyn, o 2000 ymlaen, roedd economi Rwmania wedi trawsnewid mewn i un gyda sefydlogrwydd macro-economaidd cymharol wedi ei nodweddi gan twf uchel, diweithdra isel a chwyddiant sy'n lleihau. Yn 2006, yn ôl Swyddfa Ystadegau Rwmania, roedd twf CMC yn 7.7%, un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop[20]. Er hyn, roedd y Dirwasgiad Mawr yn 2008 wedi gorfodi i'r gwlad benthyg yn allanol, gan gynnwys rhaglen 'bailout' o €20 biliwn o'r IMF[21]. Yn ôl Banc y Byd, tyfodd CMC y pen mewn pŵer prynu o $13,687 yn 2007 i $28,206 yn 2018[22]. Cynyddodd cyflog net cyfartalog i €913 yn 2023[23], a cyfradd chwyddiant o -1.1% yn 2016. Roedd di-weithdra yn Rwmania yn 4.3% yn Awst 2018, sy'n isel mewn cymhariaeth efo gwledydd eraill yn yr UE[24].

Llun car Dacia Duster yn 2022

Roedd twf allbwn diwydiannol wedi cyrraedd 6.5% blwyddyn-ar-flwyddyn yn Chwefror 2013, yr uchaf yn Ewrop[25]. Y cwmnïoedd lleol mwyaf yn cynnwys gwneuthurwr ceir Dacia, Petrom, Rompetrol, Ford Romania, Electrica, Romgaz, RCS & RDS a Banca Transilvania. O 2020 ymlaen, mae yna o gwmpas 6000 o allforion y mis. Prif allforion Rwmania yw: ceir, meddalwedd, dillad a tecstiliau, peiriannau diwydiannol, offer trydannol ac electronig, cynhyrchion metalig, deunyddiau crai, offer milwrol, cynhyrchiol fferyllol, cemegion, a cynhyrchion amaethfyddol (ffrwythau, llysiau, a blodau). Mae masnach wedi'i ganoli'n bennaf o amgylch aelodau yr UE, gyda'r Almaen a'r Eidal fel ei partneriaid masnach fwyaf. Roedd balans cyfrif yn 2012 o gwmpas 4.52% o CMC.

Ar ôl cyfres o preifateiddio a diwygiadau yn y 1990au hwyr a'r 2000au, ymyrraeth llywodraethol yn economi Rwmania yn llai na gwledydd Ewropeaidd arall[26]. Yn 2005, disodlodd y llywodraeth system trethi flaengar Rwmania efo treth gwastad o 16% am incwm personol ac elw corfforaethol, ymhlith y cyfraddau isaf yn yr Undeb Ewropeaidd[27]. Mae'r economi wedi'i seilio ar wasanaethau, sy'n cyfri am 56.2% o CMC y wlad yn 2017, gyda diwydiant ac amaethfyddiaeth yn cyfri am 30% a 4.4% yn y drefn honno[28]. Amcangyfrir bod 25.8% o weithlu Rwmania yn cael eu gyflogi yn y sector amaethfyddol, un o'r uchaf yn Ewrop[29].

Rwmania wedi denu symiau cynyddol o fuddsoddiad tramor yn dilyn diwedd Comiwnyddiaeth, gyda stoc o fuddsoddiad tramor uniongyrchol (FDI) yn Rwmania yn codi i €83.8 biliwn yn Mehefin 2019. Cyfanswm stoc allanol FDI Rwmania (busnes allanol neu dramor naill ai'n buddsoddi mewn neu'n prynu stoc economi leol) oedd $745 miliwn yn Rhagfyr 2018, y gwerth isaf ymhlith 28 aelod-wladwriaethau'r UE[30]. Rhai cwmnïoedd sy'n buddsoddi yn Rwmania yn cynnwys Coca-Cola, McDonald's, Pizza Hut, Procter & Gamble, Citibank, a IBM.

Yn ôl adroddiad Banc y Byd yn 2019, mae Rwmania yn safle 52 allan o 190 yn economïau o ran rhwyddineb gwneud busnes, un lle yn uwch na Hwngari gyfagos ac un lle yn is na'r Eidal. Canmolodd yr adroddiad y broses gyson o orfodi contractau a mynediad at gredyd yn y wlad, tra'n nodi anawsterau o ran mynediad at drydan a delio â thrwyddedau adeiladu.

Llun yn dangos nodyn 200 Lei Rwmania

Ers 1867 arian cyfred swyddogol wedi bod yn y leu Romania ac yn dilyn enwadau ers 2005. Ar ôl ymuno â'r Ue yn 2007, mae Rwmania yn cynllunio i ddefnyddio'r Ewro yn 2029[31].

Yn Ionawr 2020, adroddwyd bod dyled allanol Rwmania yn US$122 biliwn yn ôl data CEIC[32].

Demograffeg

[golygu |golygu cod]
Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
18664,424,961—    
18875,500,000+24.3%
18995,956,690+8.3%
19127,234,919+21.5%
193018,057,028+149.6%
193919,934,000+10.4%
194113,535,757−32.1%
194815,872,624+17.3%
195617,489,450+10.2%
196619,103,163+9.2%
197721,559,910+12.9%
199222,760,449+5.6%
200221,680,974−4.7%
201120,121,641−7.2%
2016 (amcan.)19,474,952−3.2%
Nid yw rhifau cyn 1948 yn cyfateb i ffiniau cyfredol y wlad.
Map o grwpiau ethnig Rwmania, yn seiliedig ar ddata o gyfrifiad 2011.

Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Rwmania yw 20,121,641. Megis gwledydd eraill yn ei chylch, mae disgwyl i'r boblogaeth leiháu'n raddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad igyfradd ffrwythlondeb (1.2–1.4) sy'n rhy isel i gynnal nifer cenedlaethau'r dyfodol a chyfradd allfudo sy'n uwch na'r gyfradd mewnfudo. Ym mis Hydref 2011, roedd Rwmaniaid ethnig yn cyfri am 88.9% o'r boblogaeth. Y lleiafrifoedd ethnig mwyaf eu maint yw'r Hwngariaid (6.5%) a'r Roma (3.3%).[33][34] Mwyafrif yw'r Hwngariaid yn siroedd Harghite a Covasna. Ymhlith y lleiafrifoedd eraill mae'rWcreiniaid, yrAlmaenwyr, yTyrciaid, y Lipofiaid (Hen Gredinwyr o drasRwsiaidd), yrAromaniaid, yTatariaid, a'rSerbiaid.[35] Ym 1930, trigai 745,421 o Almaenwyr yn Rwmania,[36] ond dim ond rhyw 36,000 sy'n byw yno heddiw.[35] Yn 2009 roedd tua 133,000 o fewnfudwyr yn Rwmania, yn bennaf o Foldofa aTsieina.

Ieithoedd

[golygu |golygu cod]

Iaith swyddogol Rwmania yw'rRwmaneg, iaithRomáwns ddwyreiniol sy'n debyg i'rAromaneg, yMegleno-Romaneg, a'rIstro-Romaneg, ond sy'n rhannu nifer o nodweddion â'r ieithoedd gorllewinol megisEidaleg,Ffrangeg,Sbaeneg, aPhortiwgaleg. Mae 31 o lythrennau yn yr wyddor Rwmaneg. Siaredir Rwmaneg yniaith gyntaf gan 85% o'r boblogaeth. SiaredirHwngareg gan 6.2%, a'r Flach-Romani (tafodiaithRomani) gan 1.2%. Trigai 25,000 o siaradwyrAlmaeneg brodorol a 32,000 o siaradwyrTyrceg yn Rwmania, yn ogystal â 50,000 o siaradwyrWcreineg[37] sy'n byw ger y ffin â'r Wcráin ac yn fwyafrif yn yr ardaloedd hynny.[38] Yn ôl y cyfansoddiad, mae rhaid i gynghorau lleol sicrháuhawliau iaith i holl leiafrifoedd y wlad, ac os yw'r lleiafrif ethnig yn cyfri am ddros 20% o'r boblogaeth yna ceir defnyddio'r iaith leiafrifol yn y llywodraeth, y llysoedd, a'r ysgolion.[39] Y Saesneg a'r Ffrangeg yw'r prif ieithoedd tramor a addysgir yn yr ysgol.[40] Yn 2012 roedd 31% o Rwmaniaid yn medru'r Sasneg, 17% yn medru'r Ffrangeg, a 7% yn gallu siarad Eidaleg.[41]

Crefydd

[golygu |golygu cod]
Crefydd yn Rwmania (cyfrifiad 2011)
CrefyddCanran
Uniongrededd Dwyreiniol
  
81.0%
Pabyddiaeth
  
4.3%
Eglwysi Diwygiedig
  
3.0%
Pentecostiaeth
  
1.8%
Eglwys Gatholig Groeg
  
0.7%
Bedyddwyr
  
0.6%
Adfentydd y Seithfed Dydd
  
0.4%
Arall
  
1.8%
Digrefydd
  
0.2%
Dim data
  
6.2%

Gwladwriaethseciwlar a heb grefydd swyddogol yw Rwmania.Cristnogion yw'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth. Yn 2011 roedd 81% yn perthyn iEglwys Uniongred Rwmania, 4.8% yn Brotestaniaid, 4.3% yn Babyddion, a 0.8% yn ffyddlon iEglwys Gatholig Groeg Rwmania. O weddill y boblogaeth, mae 195,569 yn perthyn i enwadau Cristnogol eraill neu'n aelodau o grefydd arall, gan gynnwys 64,337 oFwslimiaid (y mwyafrif o dras Dyrcaidd neu Dataraidd) a 3,519 oIddewon. Yn ogystal, mae 39,660 ynanffydwyr neu fel arall yn ddigrefydd.[42]

Eglwys hunanbenaethol dan Batriarch yw Eglwys Uniongred Rwmania sy'n rhan o gymundeb yr Eglwysi Uniongred Dwyreiniol. Hon yw'r Eglwys Uniongred ail fwyaf yn y byd, ac yn wahanol i'r eglwysi eraill mae ganddi ddiwylliant Lladinaidd ac yn defnyddio iaith Romáwns yn eilitwrgi.[43] Mae ganddi awdurdod canonaidd dros holl diriogaeth Rwmania a Moldofa,[44] acesgobaethau ar gyfer Rwmaniaid yn Serbia ac Hwngari yn ogystal â chymunedau ar wasgar yng Nghanolbarth a Gorllewin Ewrop, Gogledd America, ac Oceania.

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Er bod hunaniaeth gymdeithasol a diwylliannol genedlaethol, mae diwylliannau'r rhanbarthau yn adlewyrchu gwahaniaethau hanesyddol. Gwelir dylanwad Awstria ac Hwngari ym mhensaernïaeth Transylfania a'rBanat: arddulliauRomanésg,Gothig, aBaróc. Cafodd ySlafiaid, yn bennaf yr Wcreiniaid a'r Rwsiaid, eu heffaith ar ardal Moldafia, a gwelir nodweddion o darddiad Tataraidd a phobloedd eraillCanolbarth Asia yng nghelfyddyd y werin. Trwy Walachia yn ne'r wlad daeth ddylanwadMôr y Canoldir: y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, y Bysantiaid a'r Otomaniaid. Mae'r lleiafrifoedd Hwngaraidd, Roma, ac Almaenig yn cadw at draddodiadau eu hunain o ran celfyddyd, coginiaeth, a gwisg.

Y Weinyddiaeth Diwylliant sy'n gyfrifol am gefnogi bywyd a sefydliadau diwylliannol ar draws Rwmania. Bwcarést yw canolfan ddiwylliannol y wlad ac yma lleolir sawltheatr, tŷopera, y Gerddorfa Genedlaethol, Cerddorfa Ffilharmonig George Enescu, yr Amgueddfa Gelfyddyd Genedlaethol, yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol, Amgueddfa Byd Natur Grigore Antipa, Amgueddfa'r Werin, Amgueddfa'r Pentref, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Ganolog Prifysgol Bwcarést, a Llyfrgell Academi Rwmania. Mae gwyliau cenedlaethol Rwmania yn cynnwysy flwyddyn newydd (1 ac 2 Ionawr), y Llun wedi'r Pasg, Gŵyl Fai (mărțișor), y Diwrnod Cenedlaethol (1 Rhagfyr, sy'n dathlu uno Transylfania â gweddill y wlad), a Dydd y Nadolig.

Rheolir nifer o arferion a thraddodiadau gan grefydd y gymuned. Mae'r Rwmaniaid ethnig yn cynnal seremonïau yn ôl yr arfer Uniongred Ddwyreiniol yn ystod Wythnos y Grog a'rPasg. Mae'r Hwngariaid ac Almaenwyr, sy'n perthyn i'rEglwys Babyddol ac eglwysiProtestannaidd, yn rhoi mwy o bwyslais ar ddathlu'rNadolig. Cedwir y wisg werin Rwmanaidd yng nghefn gwlad, ac mae gan bob sir bron ei lliw ac arddull leol. Cyfunir y grefft a'r gelfyddyd gan arferion y werin: cerfweithiau pren, gwisg addurnedig,brodwaith, carpedi, achrochenwaith. Mae Rwmania yn enwog am ei wyau Pasg addurnedig a phaentio ar wydr.

Coginiaeth

[golygu |golygu cod]

Cafwyd dylanwad sylweddol ar goginiaeth Rwmania gan draddodiadau'r Tyrciaid a'r Groegiaid. Prif fwyd y werin ers talwm ywcawl a ballu: cawl cig, llysiau anwdls, cawlbresych tew, a stiw cig moch gydagarlleg a winwns. Am damaid melys bwyteircrwst plăcintă,baclafa, neu deisen almon o'r enw saraille. Maegwin o ardal Moldafia yn boblogaidd, a cheircyrfau lleol ar draws y wlad. Diod archwaeth gryf yw palincă, sefbrandieirin sy'n ffurf ranbarthol ar wirod sy'n boblogaidd ar draws Basn Carpathia.

Celf, cerdd a llên

[golygu |golygu cod]

Offerynnau cerdd traddodiadol y wlad yw'r cobza (sy'n debyg iliwt), y tambal (dwlsimer), y flaut (ffliwt), yralpgorn, ybibgod, a'r nai (pibau Pan). Mae'rgerddoriaeth werin yn cynnwys cerddoriaeth ddawns, y doina (galarganeuon),baledi, acherddoriaeth fugeiliol. Daeth sawl arlunydd a llenor Rwmanaidd i sylw'r byd yn y 19g, gan gynnwys y beirdd Mihail Eminescu a Tudor Arghezi, y llenor a chwedleuwr Ion Creanga, yr arlunydd Nicolae Grigorescu, a'r dramodydd Ion Luca Caragiale. Ymfudodd nifer o artistiaid a deallusion Rwmanaidd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys y dramodydd Eugène Ionesco, y bardd a thraethodydd Andrei Codrescu, yr athronyddEmil Cioran, y llenor a chyfarwyddwr ffilm Petru Popescu, y cerflunydd Constantin Brancusi, a'r hanesydd Mircea Eliade. Roedd yn rhaid i'r holl gelfyddydau cydymffurfio âRealaeth Sosialaidd yn ystod yr oes gomiwnyddol.

Chwaraeon

[golygu |golygu cod]

Gêm bat a phêl o'r enw oină yw mabolgamp draddodiadol Rwmania.Pêl-droed yw'r gamp fwyaf poblogaidd, a saif meysydd yn y dinasoedd mawrion a chanddynt timau yn y gynghrair genedlaethol. Bu'rtîm pêl-droed cenedlaethol yn llwyddiannus iawn ar adegau, yn enwedig yn y 1990au dan gapteiniaethGheorghe Hagi. Fel arfer mae Rwmaniaid yn chwarae a hamddena mewn clybiau, a'r gweithgareddau mwyaf boblogaidd ywseiclo, pêl-droed,pêl-law,tenis,rygbi, a'rcrefftau ymladd. Mae Mynyddoedd Carpathia yn denudringwyr a heicwyr yn yr haf, asgïwyr aceirfyrddwyr yn y gaeaf. Yn Aberdir y Donaw maegwylwyr adar wrth eu helfen, ac maenofwyr yn heidio i'r traethau ar lannau'r Môr Du pan bo'r tywydd yn braf.

Er i Rwmania ddanfon un athletwr iGemau Olympaidd yr Haf 1900, ni chafwyd carfan sylweddol gan y wlad tanGemau'r Haf ym 1924. Cystadleuodd Rwmania ym mhob un Olympiad ers hynny ac eithrioGemau'r Haf 1932,Gemau'r Haf 1948, aGemau'r Gaeaf 1960. Rwmania oedd yr unig wlad yny Bloc Dwyreiniol i fynychuGemau'r Haf yn Los Angeles ym 1984 wedi i'r Undeb Sofietaidd datgan boicot yn erbyn yr Americanwyr. Y cystadleuydd enwocaf o'r wlad ywNadia Comăneci, a enillodd chwe medalgymnasteg yngNgemau'r Haf 1974 ac hi oedd y cyntaf i sgorio'r deg perffaith yn y Gemau Olympaidd. Ymhlith athletwyr o fri eraill mae timaurhwyfo'r dynion a'r menywod, yr athletwraigIolanda Balaș, a'r chwaraewr tenisIlie Năstase.

Y cyfryngau

[golygu |golygu cod]

Ffynodd y cyfryngau torfol a lleol yn Rwmania yn sgil Chwyldro 1989, er i nifer o gyhoeddiadau derfyn o ganlyniad i gwymp economaidd yn y ddegawd olynol. Cyhoeddir ypapurau newydd cenedlaetholLibertatea ("Rhyddid"),Jurnalul Naţional ("Cyfnodolyn Cenedlaethol"), Adevărul ("Y Gwir"), acEvenimentul Zilei ("Digwyddiadau'r Dydd") yn ddyddiol ym Mwcarést, aMonitorul Oficial ("Sylwedydd Swyddogol") yw newyddiadur y llywodraeth. Rompres yw asiantaeth newyddion swyddogol y wlad. Lansiwyd y gwasanaeth Media Fax, cwmni preifat, ym 1991. Lleolir adrannau o asiantaethau newyddion tramor, er enghraifft yBBC, yn y brifddinas. Rheolir rhwydwaith radio a theledu cenedlaethol gan y wladwriaeth, a cheir hefyd nifer o sianeli preifat, megis PRO-TV. Mae'r cyfansoddiad yn haeru i sicrháurhyddid y wasg, ond gwelir y llywodraeth yn aml yn dylanwadu ar y cyfryngau ac yn erlyn newyddiadurwyr am resymau gwleidyddol.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) Romania at a glance (Adroddiad). NATO. http://www.nato.int/invitees2004/romania/glance.htm. Adalwyd 5 Chwefror 2017.
  2. (Saesneg)"Romania Geography". aboutromania.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2015-03-28. Cyrchwyd5 Chwefror 2017.
  3. (Rwmaneg)"POPULAŢIA REZIDENTĂ1"(PDF). Sefydliad Ystadegau Cenedlaethol Rwmania. Cyrchwyd5 Chwefror 2017.
  4. "Explanatory Dictionary of the Romanian Language, 1998; New Explanatory Dictionary of the Romanian Language, 2002" (yn Rwmaneg). Dexonline.ro. Cyrchwyd25 Medi 2010.
  5. Verres, Andréas.Acta et Epistolae.I. t. 243.nunc se Romanos vocant
  6. Cl. Isopescu (1929). "Notizie intorno ai romeni nella letteratura geografica italiana del Cinquecento". Bulletin de la Section Historique XVI: 1–90. ""... si dimandano in lingua loro Romei ... se alcuno dimanda se sano parlare in la lingua valacca, dicono a questo in questo modo: Sti Rominest ? Che vol dire: Sai tu Romano, ...""
  7. Holban, Maria (1983).Călători străini despre Țările Române (yn Romanian).II. Ed. Științifică și Enciclopedică. tt. 158–161.Anzi essi si chiamano romanesci, e vogliono molti che erano mandati quì quei che erano dannati a cavar metalli ...CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Cernovodeanu, Paul (1960).Voyage fait par moy, Pierre Lescalopier l'an 1574 de Venise a Constantinople, fol 48.Studii și materiale de istorie medievală (yn Romanian).IV. t. 444.Tout ce pays la Wallachie et Moldavie et la plus part de la Transilvanie a eté peuplé des colonies romaines du temps de Traian l'empereur ... Ceux du pays se disent vrais successeurs des Romains et nomment leur parler romanechte, c'est-à-dire romain ...CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. Ion Rotaru,Literatura română veche,"The Letter of Neacșu from Câmpulung" (Bwcarést, 1981), t. 62–65
  10. Brezeanu, Stelian (1999).Romanitatea Orientală în Evul Mediu. Bucharest: Editura All Educational. tt. 229–246.
  11. Yn 1816, cyhoeddodd yr ysgolhaig Groegaidd Dimitrie Daniel Philippide yn Leipzig ei gyfrolHanes Rwmania, a ddilynwyd ganDaearyddiaeth Rwmania.
  12. See, for example, "Rumania: Remarkable Common Ground",The New York Times, 21 Rhagfyr 1989.
  13. See theGoogle Ngrams for Romania, Rumania, and Roumania.
  14. "General principles" (yn Romanian). cdep.ro. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2017-09-07. Cyrchwyd7 Medi 2009.CS1 maint: unrecognized language (link)
  15. BBC Cymru'r Byd – Tramor – Cofio pen-blwydd yn Romania
  16. (Rwmaneg)Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002Archifwyd 2007-02-16 yn yPeiriant WaybackPDF
  17. "IMF". Ebrill 2023.
  18. "World Bank Country and Lending Groups".The World Bank.
  19. Eurostathttps://ec.europa.eu/eurostat/databrowser/view/PRC_PPP_IND__custom_7358921/default/table?lang=en.Missing or empty|title= (help)
  20. Romanian Statistics Office(PDF)https://web.archive.org/web/20080216015144/http://www.insse.ro/cms/files/statistici/comunicate/pib/pibr06.pdf. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-16. Cyrchwyd2024-03-17.Missing or empty|title= (help)CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  21. "Romania to get next instalment of bailout".New York Times. 1 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-21. Cyrchwyd2024-03-17.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  22. "GDP per capita, PPP - Romania".The World Bank.
  23. "National Institute of statistics - Romania"(PDF).
  24. "In January 2017, the seasonally adjusted unemployment rate was estimated at 5.4%"(PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-05. Cyrchwyd2024-03-17.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  25. "Industrial production up by 0.4% in euro area and EU27"(PDF).Eurostat. 12 Ebrill 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-17. Cyrchwyd2024-03-17.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  26. "Romania".2005 Index of Economic Freedom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-05. Cyrchwyd2024-03-17.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  27. "Rise in overall tax burden in the EU27 to 39.6% of GDP in 2005"(PDF).Eurostat. 26 Mehefin 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-28. Cyrchwyd17 Mawrth 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  28. "Romania: Share of economic sectors in the gross domestic product (GDP) from 2012 to 2022".Statista. Cyrchwyd17 Mawrth 2024.
  29. "Farmers in the EU - statistics".Eurostat. Awst 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-15. Cyrchwyd17 Mawrth 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  30. "FDI stock in Romania approaches EUR 84 bln".Business Review. 5 Medi 2019. Cyrchwyd17 Mawrth 2024.
  31. "Romania wants to push euro adoption by 2026".Euractiv. 20 Mawrth 2023. Cyrchwyd17 Mawrth 2024.
  32. "Romania External Debt".CEIC.
  33. 2002 census data, based onpopulation by ethnicity, gave a total of 535,250 Roma in Romania. Many ethnicities are not recorded, as theydo not have ID cards. International sources give higher figures than the official census (e.g.,UNDP Regional Bureau for EuropeArchifwyd 2013-11-01 yn yPeiriant Wayback,World BankArchifwyd 2006-08-24 yn yPeiriant Wayback,"International Association for Official Statistics"(PDF). Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2008-02-26. Cyrchwyd2017-02-05.
  34. "European effort spotlights plight of the Roma". usatoday. 10 Chwefror 2005. Cyrchwyd31 Awst 2008.
  35. 35.035.1 (yn Romanian) Official site of the results of the 2002 Census (Adroddiad). Archifwyd oy gwreiddiol ar 5 Chwefror 2012. https://web.archive.org/web/20120205002157/http://www.recensamantromania.ro/rezultate-2. Adalwyd 31 Awst 2008.
  36. "German Population of Romania, 1930–1948". hungarian-history.hu. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2007-08-17. Cyrchwyd7 Medi 2009.
  37. "2011 census results by native language"(xls). www.recensamantromania.ro, website of the Romanian Institute of Statistics. Cyrchwyd2015-05-05.
  38. "IARNA UCRAINEANĂ - Află care sunt localitățile din Maramureș în care se prăznuiesc sărbătorile de iarnă după rit vechi", Infomm.ro, http://infomm.ro/ro/detalii/in-maramures-aproape-31-000-ucraineni-petrec-sarbatorile-de-iarna, adalwyd 5 Mai 2015
  39. "Constitutia României". Cdep.ro. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-09-07. Cyrchwyd29 Awst 2011.
  40. "Two-thirds of working age adults in the EU28 in 2011 state they know a foreign language"(PDF). Eurostat. 26 Medi 2013. Cyrchwyd21 Awst 2014.
  41. "Europeans and their Languages: Report"(PDF). Eurostat. 2012. Cyrchwyd21 Awst 2014.
  42. "2011 census results by religion"(xls). www.recensamantromania.ro, website of the Romanian Institute of Statistics. Cyrchwyd2015-05-05.
  43. Profiles of the Eastern Churches at cnewa.org
  44. European Court of Human Rights - Case of Metropolitan Church of Bessarabia

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
gw  sg  go
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)
Aelodau
Ymgeiswyr
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rwmania&oldid=12442141"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp