Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Robin Llwyd ab Owain

Oddi ar Wicipedia
Robin Llwyd ab Owain
LlaisRobin Owain Llais cy.ogg Edit this on Wikidata
GanwydMehefin 1958 Edit this on Wikidata
Cynwyd Edit this on Wikidata
Man preswylRhuthun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd,llenor, cyhoeddwr, Wicipediwr Edit this on Wikidata
TadOwain Owain Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadair yr Eisteddfod Genedlaethol Edit this on Wikidata
Robin Llwyd ab Owain yn y seremoni cadeirio yn Eisteddfod Bro Delyn, 1991

Bardd acEnillydd CadairEisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 ywRobin Llwyd ab Owain (ganwyd Mehefin1958; enw barddol:Robin Llwyd). Ysgrifennodd yr awdlMerch Ein Amserau mewn dull modern ac yn ôl un o'r beirniadEirian Davies yn ei feirniadaeth yn y cyfansoddiadau, roedd yr awdl yn "torri tir newydd".

Mae o hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon e.e.Pedair Oed (Rhys Meirion) aBrenin y Sêr (Bryn Terfel). Ysgrifennodd sgript a geiriau caneuon y dramâu cerddCeidwad y Gannwyll (1985),Rhys a Meinir (1987),Iarlles y Ffynnon (1992-3) aPwy bia'r Gân? (2003).[1]

Nid yw wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwydRebel ar y We ar ywe fyd-eang yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.[2][3] Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y22 Mai2006 i 'Rhedeg ar Wydr'.[4]

Bu'n brifathro am gyfnod o tua 15 mlynedd.

Wikimedia

[golygu |golygu cod]

Ar 1 Gorffennaf 2013, apwyntiwyd Robin yn Reolwr cyntaf i Gymru ganWikimedia UK a Wici Cymru.[5][6] Mae ei rôl yn bwriadu ehangu yWicipedia Cymraeg a deunydd Cymreig ar y Wicipedia Saesneg. Fel rhan o'r cynllun hwn, cyfrannoddCynulliad Cenedlaethol Cymru yn ariannol at hyfforddi olygyddion newydd.[6] Wrth siarad am apwyntiad Robi, dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK: "Mae apwyntiad Robin fel Rheolwr Cymru yn rhan hanfodol o'n strategaeth allgymorth. Y Wicipedia Cymraeg yw'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd a rydym yn falch o gefnogi'r Gymraeg."[5]

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]

Rhannau o fewn cyfrolau

[golygu |golygu cod]
  • Er Hwylio'r Haul Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch 2005
  • Wyth Cân, Pedair Sioe; Gwasg y Lolfa. Cerddoriaeth Robat Arwyn; geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd.
  • Pedair Oed/Mae'r Gân yn ein Huno Dwy gân gan Robat Arwyn a Robin Llwyd; Trefniant SATB i 'Pedair Oed'. Trefniant deulais i 'Mae'r gân yn ein huno'.

Problem chwarae ffeil yma? GwelerCymorth.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. robatarwyn.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2018.
  2. Llais Llyfrau, Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd ganGyngor Llyfrau Cymru.
  3. Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.
  4. Gwefan Robin llwyd
  5. 5.05.1"Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru / Wikimedia UK appoints Wales Manager".Wikimedia UK (yn Saesneg). 2013-07-02. Cyrchwyd2013-07-25.
  6. 6.06.1"Wicipedia Cymraeg: New manager looks to expand Wiki in Welsh".BBC News. 2013-07-02. Cyrchwyd2013-07-25.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Robin_Llwyd_ab_Owain&oldid=11018574"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp