| Robin Griffith | |
|---|---|
| Ganwyd | 1946 Llangoed, Sir Fôn |
| Bu farw | 18 Awst 2017 Llundain |
| Galwedigaeth | actor, actor llais |
Actor o Gymru oeddRobin Griffith (Medi1946 –18 Awst2017)[1] a gafodd yrfa hir ar lwyfan, ffilm a theledu.[2]
Fe'i magwyd ynLlangoed ar Ynys Môn ond roedd wedi byw yn Llundain ers blynyddoedd. Bu farw yn 70 mlwydd oed.[3]
Ymddangosodd ar nifer o raglenni plant yn y 1970au gan gynnwysMiri Mawr yn lleisio'r cymeriad 'Blodyn Tatws' aSiop Siafins (BBC Cymru) yn chwarae 'Y Barwn Coch'. Bu'n actio yn y rhaglen comediNewydd Bob Nos arS4C yn y 1980au (a'i fersiwn SaesnegNight Beat News).
Chwaraeodd Yncl Wil yn y ffilmUn Nos Ola Leuad. Yn y 2000au ymddangosodd yng nghyfresi teleduMine All Mine aHigh Hopes,Torchwood ymysg eraill.
Yn 2012 perfformiodd ar lwyfan ynSgint gan Bethan Marlow, a gyfarwyddwyd gan Arwel Gruffydd mewn cyd-cynhyrchiadTheatr Genedlaethol Cymru aSherman Cymru ac yn 2016 perfformiodd ynChwalfa, addasiadGareth Miles o nofel T Rowland Hughes a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru.
(detholiad)