Robert Vaughan | |
---|---|
Ganwyd | 1592 ![]() Hengwrt ![]() |
Bu farw | 16 Mai 1667 ![]() |
Man preswyl | Hengwrt ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hynafiaethydd, casglwr,hanesydd ![]() |
Adnabyddus am | Llawysgrifau Peniarth ![]() |
Tad | Hywel Vaughan ap Gruffudd ap Hywel ![]() |
Mam | Margred Owen ![]() |
Plant | Jane Vaughan ![]() |
Hynafiaethwr oGymru oeddRobert Vaughan (tua1592 –16 Mai1667) o'rHengwrt, ynLlanelltud gerDolgellau. Roedd yn gasglwr llyfrau allawysgrifau Cymreig ac yn berchen ar lyfrgell enwog.
Roedd Robert yn fab i'r uchelwr lleol Hywel Fychan o'r Wengraig, ger Dolgellau. Cafodd ei addysg yngNgholeg Oriel,Rhydychen, ond gadawodd heb raddio er mwyn priodi merch GruffuddNannau (uchelwr pwysicaf yr ardal). Symudodd y pâr ifanc i blasdy'r Hengwrt i fyw. Daeth yn ustus heddwch lleol ond ymddengys na chymerai fawr o ddiddordeb yn helyntion gwleidyddol y cyfnod. Roedd ei fryd yn gyfangwbl ar astudio hynafiaethau Cymru,hel achau a chasglu llyfrau a llawysgrifau Cymreig. Gohebai â nifer o ysgolheigion a hynafiaethwyr eraill gan gynnwys y DrJohn Davies (Mallwyd),Rhys Cain,Siôn Cain, aJohn Jones (Gellilyfdy).
Roedd Robert Vaughan yn awdur y gyfrolBritish Antiquities Revised (1662) a sawl cyfrol arall na chafodd ei chyhoeddi yn cynnwys cyfieithiad Saesneg oFrut y Tywysogion ac ymdriniaeth arDrioedd Ynys Prydain.
Llwyddodd i hel at ei gilydd y casgliad pwysicaf o lawysgrifau Cymreig a luniwyd gan un person erioed. Roedd yn cynnwysLlyfr Du Caerfyrddin,Llyfr Taliesin,Llyfr Gwyn Rhydderch,Llyfr Aneirin a nifer o destunau o'rBrutiau aChyfraith Hywel Dda ynghyd â gwaith nifer oFeirdd yr Uchelwyr. Yn ddiweddarach cafodd y casgliad gwych hwn ei werthu i deulu plasdyPeniarth (gerTywyn) ac oddi yno i'rLlyfrgell Genedlaethol ar ôl i SyrJohn Williams ei brynu yn 1905. Fe'i adnabyddir heddiw felLlawysgrifau Peniarth.