Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Roazhon

Oddi ar Wicipedia
Roazhon
ArwyddairVivre en intelligence Edit this on Wikidata
Mathcymuned, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCondate Riedonum Edit this on Wikidata
Poblogaeth227,830 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNathalie Appéré Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Poznań,Caerwysg,Rochester, Erlangen,Brno,Sendai,Leuven,Corc, Sétif,Jinan,Almaty, Bandiagara Cercle, Sibiu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIl-ha-Gwilen
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd50.39 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr46 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Gwilun,Afon Il, Blosne, Flûme Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSant-Gregor,Kantpig,Reuz,Gwezin,Sant-Jakez-al-Lann,Noal-Kastellan,Saozon-Sevigneg,Lanvezhon / Bezhon,Menezgervant,Pazieg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.1142°N 1.6808°W Edit this on Wikidata
Cod post35000, 35200, 35700 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Roazhon Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNathalie Appéré Edit this on Wikidata
Map
Manylion
Tai canoloesol yn Plasenn Champ-Jacquet
Lleoliad Roazhon yn Ffrainc

PrifddinasLlydaw ydywRoazhon (Ffrangeg:Rennes). Fe'i lleolir yn nwyrain Llydaw (Breizh-Uhel neu Lydaw Uchel), yng ngwladwriaethFfrainc. Yn ogystal â bod yn brifddinas rhanbarth (rannvro / région) Llydaw, mae Roazhon hefyd yn brifdref (pennlec'h / chef-lieu)Il-ha-Gwilen ac yn gartref iGyngor Rhanbarthol Llydaw. Roazhon yw hefyd prifddinasBro-Roazhon, un o naw hen fro hanesyddol Llydaw.

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]

Mae'r hen ddinas ei hun ar fryn ac mae'r rhan ogleddol yn uwch na'r rhan ddeheuol. Mae Roazhon wedi'i lleoli ar gymer afonydd Il (Ille) a Gwilen (Vilaine).

Hanes

[golygu |golygu cod]

Prifddinas yRiedones, pobl geltaidd, oedd Roazhon, haCondata oedd yr hen enw. Mae'r enwauRoazhon aRennes yn dod o'r gairRiedones.

Yn Roazhon roedd y tywysogion yn cael eu goronu yn amser yr Annibyniaeth.

Canolfan hanesyddol

[golygu |golygu cod]

Bu Roazhon yn ganolfan bwysig, a gyda dinasNaoned a weithiauGwened yn brifddinas Llydaw yn ystod cyfnodDugaeth Llydaw. Mae henSenedd Llydaw", "Parlement de Bretagne" neu "Breujoù Breizh" yn un o adeiladau enwocaf y ddinas. Cafodd ei hailgodi wedi tân a ddinistriodd yr adeilad ym 1994. Erbyn hyn, lleolir llys apêl y ddinas yno.

Er i dân mawr ddinistrio llawer o'r tai pren traddodiadol, cafodd y ddinas ei hail-godi yn arddullParis a cheir tai lliwgar traddodiadol a wneir o drawstiau pren ar hyd rhai o strydoedd y canol o hyd.

Poblogaeth

[golygu |golygu cod]

Mae poblogaeth y ddinas ar gynydd. Yn ôl amgangyfrifiad ym mis Chwefror 2012, roedd 209,860 o bobl yn byw yno. Roedd poblogaeth yr ardal fetropolataidd (Ffrangeg:aire urbaine) yn 690,467 yn ôl cyfrifiad 2012, gan olygu mai hi yw'r ddeuddegfed ardal fwyaf poblog yn Ffrainc gyfan. Gelwir y bobl sy'n byw yno yn "Rennais" (Roazhoniz, yn Llydaweg).

179318001806182118311836184118461851
30 16025 90429 22529 58927 34035 55237 89539 21839 505
185618611866187218761881188618911896
45 66445 48348 28352 04457 17760 97466 13969 23269 937
190119061911192119261931193619461954
74 67675 64079 37282 24183 41888 65998 538113 781124 122
1962196819751982199019992006200720112013
151 948180 943198 305194 656197 536206 229209 613207 922208 033211 373

Gweinyddiaeth

[golygu |golygu cod]

Mae'r ddinas wedi'i rhannu yn 11 o is-ardaloedd ac mae gan bob un ohonynt eu cynghorwyr eu hunain.

Golygfeydd

[golygu |golygu cod]

Mae Roazhon yn ddinas adnabyddus am ei hanes a'i phrydferthwch ac mae rhai adeiladau'n dyddio'n ôl mor bell â'r 14g.

Senedd Llydaw

Trafnidiaeth

[golygu |golygu cod]

Mae rhwydwaith bysiau cynhwysfawr gan y ddinas, yn ogystal â llinell reilffordd danddaearol. Mae Roazhon yn un o ddinasoedd lleiaf y byd i fod â system o'r fath ac mae wedi lleihau traffig yng nghanol y ddinas yn sylweddol. Yn sgil llwyddiant y system bresennol, bwriedir sefydlu ail linell yn y dyfodol.

Mae trenauTGV yn cysylltu Roazhon â Pharis mewn ychydig dros ddwy awr ac mae maes awyr gan y ddinas yn St Jaques de la Lande.

Palas San Siôr: un o adeiladau mwyaf urddasol Roazhon. Codwyd yn wreiddiol felabaty.

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Roazhon Llydaweg

[golygu |golygu cod]
Dim ond un ysgol Ffrangeg sydd yn cynnig dosbarthiadau Llydaweg.

Er nad yw Roazhon yn yr ardal hanesyddolLlydaweg ei hiaith, mae'r diwylliant i'w weld o gwmpas y ddinas. Cynhelirfestoù-noz yn aml. Mae ysgol LydawegDiwan yn ne'r ddinas, ac ysgol ddwyieithog yng nghanol y ddinas. Gellir gweld ambell arwydd dwyieithog yn y strydoedd.

Mae'r Llydaweg yn cael ei dysgu yn y brifysgol, lle dysgir Cymraeg hefyd.

Yn ogystal â'r Llydaweg, maeGallo hefyd yn cael ei siarad i ryw raddau yn y ddinas.

Mae'r ddinas yn rhoi pwyslais ar y celfyddydau ac mae nifer o wyliau cerddorol a gweledol trwy gydol y flwyddyn. Mae'rTransmusicales yn denu nifer fawr o bobl sy'n heidio i weld y grwpiau rhyngwladol sy'n perfformio yno ac maeles Tombées de la Nuit yn dod â'r ddinas yn fyw yn yr haf. Mae Travelling (gŵyl sinema) yn adnabyddus dros ben ynFfrainc am roi llwyfan i ffilmiau o un wlad ddethol bob blwyddyn.

Roedd Roazhon yn un o ddinasoedd cyntaf Ffrainc i sefydlu ei sianel deledu ei hun,TV Rennes, a grëwyd yn 1987. Mae hefyd yn gartref i dîm pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghrair Ffrainc (Stade Rennais yw eu stadiwm).

Economi

[golygu |golygu cod]

Mae cynhyrchuceir athelegyfathrebu ymhlith prif ddiwydiannau'r ddinas. Agorwyd ffatriCitroën yno yn 1961.

gw  sg  go
Dinasoedd Ffrainc

Aix-en-Provence ·Amiens ·Angers ·Argenteuil ·Besançon ·Bordeaux ·Boulogne-Billancourt ·Brest ·Caen ·Clermont-Ferrand ·Dijon ·Dunkerque ·Grenoble ·Le Havre ·Le Mans ·Lille ·Limoges ·Lyon ·Marseille ·Metz ·Montpellier ·Montreuil ·Montsoreau ·Mulhouse ·Nancy ·Naoned ·Nice ·Nîmes ·Orléans ·Paris ·Perpignan ·Reims ·Roazhon ·Roubaix ·Rouen ·Sant-Denis ·Saint-Étienne ·Saint-Paul ·Strasbwrg ·Toulon ·Toulouse ·Tourcoing ·Tours ·Villeurbanne ·

gw  sg  go
PrifddinasoeddEwrop
Gogledd
Gorllewin
De
Dwyrain
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Roazhon&oldid=14113713"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp