Dinas achymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrainyr Eidal ywRimini, sy'n brifddinastalaith Rimini ynrhanbarthEmilia-Romagna. Fe'i lleollir ar arfordirMôr Adria. Mae ganddi oddeutu 15 km o draeth tywodlyd, ac felly mae un o'r cyrchfannau glan môr mwyaf yn Ewrop.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 139,601.[1]
Mae pobl wedi byw yn y safle a'i gyffiniau ers y cynoesoedd. Roedd Rimini yn borthladdEtrwsgaidd,[2] a elwid yn "Arimna", cyn cael ei ddominyddu gany Celtiaid yn 390 CC, yna gan yRhufeiniaid fel "Ariminum" yn 268 CC.
Roedd ganddo hanes cythryblus ar ôlcwymp Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewinol, hyd y 13g pan ddaeth i rym tywysogion Malatesta a'i cadwodd hyd 1528, pan ddaeth i rym ypabau. Yn y 19g daeth Rimini yn ganolbwynt yn achos undod Eidalaidd.
Roedd yn darged brwydrau a bomiau yn ystodyr Ail Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner yr 20g daeth yn un o'r cyrchfannau glan môr enwocaf yn yr Eidal ac yn ganolfan gyngres bwysig.