| Richard Francis Burton |
|---|
 |
| Ganwyd | 19 Mawrth 1821  Torquay,Dyfnaint  |
|---|
| Bu farw | 20 Hydref 1890  Trieste  |
|---|
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig  |
|---|
| Alma mater | |
|---|
| Galwedigaeth | cyfieithydd,fforiwr,ysgrifennwr,bardd, diplomydd, person milwrol, ethnolegydd, ieithydd, mapiwr,hanesydd, swolegydd, ysbïwr, anthropolegydd, teithiwr, naturiaethydd, casglwr botanegol  |
|---|
| Arddull | Llenyddiaeth taith  |
|---|
| Tad | Joseph Netterville Burton  |
|---|
| Mam | Martha Baker  |
|---|
| Priod | Isabel Burton  |
|---|
| Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Medal y Sefydlydd, Grande Médaille d'Or des Explorations, Medal Rhyfel y Crimea (Prydain),Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol  |
|---|
| llofnod |
|---|
 |
Daearyddwr,fforiwr,cyfieithydd,llenor, milwr,dwyreinydd,cartograffydd,ethnolegydd,ysbïwr,ieithydd,bardd,cleddyfwr, adiplomydd oLoegr oedd yCaptenSyr Richard Francis BurtonKCMGFRGS (19 Mawrth1821 –20 Hydref1890). Roedd yn enwog am ei deithiau yn Asia, Affrica a'r Amerig yn ogystal â'i wybodaeth eang o ieithoedd a diwylliannau. Yn ôl un gyfrif, yr oedd yn medru siarad 29 o ieithoedd Ewropeaidd, Asiaidd ac Affricanaidd.
Ymhlith ei gampau enwocaf yw teithio mewn cuddwisg iMecca, cyfieithu'rMil ac un o nosweithiau o'r Arabeg i'r Saesneg mewn argraffiad heb ei sensro, cyhoeddi'rKama Sutra yn Saesneg, a theithio âJohn Hanning Speke dan arweiniad y tywysyddSidi Mubarak Bombay i ymweld âLlynnoedd Mawr Affrica wrth chwilio am darddiadAfon Nîl. Beirniadodd Burton bolisïau trefedigaethol Lloegr yn ei waith, er anfantais i'w yrfa. Roedd yn awdur toreithiog a dysgedig ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd ar bynciau gan gynnwys ymddygiad dynol, teithio, hebogyddiaeth, cleddyfa,ymddygiad rhywiol, acethnograffeg. Nodwedd unigryw o'i lyfrau yw'r troednodion ac atodiadau helaeth sy'n cynnwys sylwadau nodedig a gwybodaeth gyflawn.
Roedd yn gapten ym myddinCwmni Prydeinig India'r Dwyrain a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr ynRhyfel Crimea. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gany Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weldLlyn Tanganyika. Yn hwyrach gwasanaethodd felconswl dros Brydain ynFernando Po, Santos,Damascus aTrieste. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei urddo'n farchog (KCMG) ym 1886.