Rhys Goch Eryri | |
---|---|
Ffugenw | Rhys Goch o Eryri ![]() |
Ganwyd | 14 g ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Bardd o gyfnodOwain Glyn Dŵr aRhyfeloedd y Rhosynnau oeddRhys Goch Eryri (fl.1385 -1448).[1] Roedd yngywyddwr medrus a phriodolir nifer o gerddibrud iddo yn ogystal.
Roedd yn frodor o ardalBeddgelert yn yr henSir Gaernarfon (Gwynedd). Eiathro barddol oeddGruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Lygliw. Roedd yn gyfaill i'r barddLlywelyn ap Moel y Pantri a chanodd farwnad iddo. Ceir cyfres o gerddi ymryson rhwng Rhys, Llywelyn aSiôn Cent ynghlych swyddogaeth y beirdd a natur yrAwen. Ymhlith y beirdd eraill yr oedd yn adnabod yr oeddDafydd Nanmor, a drigai yn yr un ardal; mae'n bosibl fod Rhys Goch yn athro barddol iddo. Yn ôl traddodiad treuliodd Rhys Goch ei oes gyfan yn ardal Eryri. Roedd ganddo blasdy bychan ynHafod Garegog ger Beddgelert a chafodd ei gladdu yn y pentref, yn eglwysPriordy Beddgelert, yn ôl y traddodiad.[1]
Ceir sawl testun cerdd brud a briodolir i Rys ond mae'r awduraeth yn ansicr ac yn cael ei gwrthod gan ysgolheigion diweddar.Cywyddau traddodiadol yw'r mwyafrif o'i gerddi. Ei brif noddwr oeddGwilym ap Gruffudd o'rPenrhyn (ardalLlandygái, gerBangor).[1]
Canodd iRobert ap Meredudd, un o hynafwyr SyrJohn Wynn o Wydir, pan fu'r uchelwr hwnnw allan gyda Glyn Dŵr. Ceir cywydd yn olrhainachauWiliam Fychan Siambrlen Hen a chywydd i Syr Gruffudd Fychan. Canodd foliant i lys Gwilym ap Gruffudd. Yn y cerddi hyn amlygir cefnogaeth y bardd i achos Owain Glyn Dŵr.[1]
Canoddfarwnadau iFeredudd ap Cynfrig oFôn, Gwilym ap Gruffudd. Canodd farwnad i'w gyfaill a chyd-farddLlywelyn ap Moel y Pantri.[1]
Priodolir y gerdd ymddiddan rhwng bardd aCharnedd Llywelyn i Rys Goch, ond bernir heddiw maiIeuan ap Gruffudd Leiaf oedd yr awdur. Diddorol hefyd a phwysig er mwyn deall syniadaeth y beirdd am eu crefft yn y cyfnod hwnnw yw'r cywyddauymryson rhwng Rhys Goch a Siôn Cent.[1]
Ceir cywyddau ganddo i ddiolch am gyllell hir, a dau gywydd dychanol i'r farf. Ei gerdd fwyaf anghyffredin efallai yw cywydd i'rllwynog yn erchi iddo laddpaun y barddDafydd Nanmor, cymydog iddo.[1]
Canodd gywydd iFeuno Sant yn ogystal.[1]
![]() | Mae ganWicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Y golygiad diweddaraf a mwyaf safonol yw,
Gweler hefyd,
Bedo Hafesb ·Bleddyn Ddu ·Cadwaladr Cesail ·Casnodyn ·Rhisiart Cynwal ·Wiliam Cynwal ·Dafydd ab Edmwnd ·Dafydd Alaw ·Dafydd ap Gwilym ·Dafydd ap Siencyn ·Dafydd Benwyn ·Dafydd Ddu o Hiraddug ·Dafydd Gorlech ·Dafydd Llwyd o Fathafarn ·Dafydd Nanmor ·Dafydd y Coed ·Edward Dafydd ·Deio ab Ieuan Du ·Lewys Dwnn ·Edward Maelor ·Edward Sirc ·Edward Urien ·Einion Offeiriad ·Gronw Ddu ·Gronw Gyriog ·Gruffudd ab Adda ap Dafydd ·Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan ·Gruffudd ap Dafydd ap Tudur ·Gruffudd ap Llywelyn Lwyd ·Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd ·Gruffudd ap Tudur Goch ·Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed ·Gruffudd Gryg ·Gruffudd Hiraethog ·Gruffudd Llwyd ·Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan ·Guto'r Glyn ·Gutun Owain ·Gwerful Fychan ·Gwerful Mechain ·Gwilym Ddu o Arfon ·Gwilym Tew ·Hillyn ·Huw Cae Llwyd ·Huw Ceiriog ·Huw Cornwy ·Huw Llŷn ·Huw Pennant (I) ·Huw Pennant (II) ·Hywel ab Einion Lygliw ·Hywel ap Mathew ·Hywel Cilan ·Hywel Ystorm ·Ieuan ap Huw Cae Llwyd ·Ieuan ap Hywel Swrdwal ·Ieuan Brydydd Hir ·Ieuan Du'r Bilwg ·Ieuan Dyfi ·Ieuan Gethin ·Ieuan Llwyd ab y Gargam ·Ieuan Tew Ieuanc ·Iocyn Ddu ab Ithel Grach ·Iolo Goch ·Iorwerth ab y Cyriog ·Iorwerth Beli ·Iorwerth Fynglwyd ·Ithel Ddu ·Lewis ab Edward ·Lewys Daron ·Lewys Glyn Cothi ·Lewys Môn ·Lewys Morgannwg ·Llywarch Bentwrch ·Llywelyn ab y Moel ·Llywelyn ap Gwilym Lygliw ·Llywelyn Brydydd Hoddnant ·Llywelyn Ddu ab y Pastard ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ·Llywelyn Goch ap Meurig Hen ·Llywelyn Goch y Dant ·Llywelyn Siôn ·Mab Clochyddyn ·Madog Benfras ·Maredudd ap Rhys ·Meurig ab Iorwerth ·Morus Dwyfech ·Owain Gwynedd ·Owain Waed Da ·Prydydd Breuan ·Tomos Prys ·Gruffudd Phylip ·Phylip Siôn Phylip ·Rhisiart Phylip ·Rhys Cain ·Rhys Nanmor ·Siôn Phylip ·Siôn Tudur ·Raff ap Robert ·Robert ab Ifan ·Robin Ddu ap Siencyn ·Rhisierdyn ·Rhisiart ap Rhys ·Rhys ap Dafydd ab Einion ·Rhys ap Dafydd Llwyd ·Rhys ap Tudur ·Rhys Brydydd ·Rhys Goch Eryri ·Sefnyn ·Simwnt Fychan ·Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan ·Siôn ap Hywel Gwyn ·Siôn Brwynog ·Siôn Cent ·Siôn Ceri ·Sypyn Cyfeiliog ·Trahaearn Brydydd Mawr ·Tudur Aled ·Tudur ap Gwyn Hagr ·Tudur Ddall ·Wiliam Llŷn ·Y Mab Cryg ·Y Proll ·Yr Ustus Llwyd