Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth

Oddi ar Wicipedia

Ymgyrch ganlywodraethUnol Daleithiau America a rhai o'i gynghreiriaid â'r nod o derfynuterfysgaeth ryngwladol yw'rRhyfel yn erbyn Terfysgaeth (neu weithiau'rRhyfel ar Derfysgaeth – yn swyddogol,"Global War on Terrorism"). Gall gynnwys ymyrraeth filwrol, gwleidyddol neu gyfreithiol.

Mae yn ymgyrch ddadleuol iawn gan ei fod yn ôl llawer yn cyfiawnhau taro'n gyntaf yn erbyn gwlad arall, yn gweithredu yn erbyn hawliau dynol ac yn erbyn cyfraith ryngwladol.

Lansiwyd y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth fel ymateb i'rymosodiadau arGanolfan Masnach y Byd ynEfrog Newydd a'rPentagon ynWashington, DC ar11 Medi2001.

Nid yw'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth yn ryfel draddodiadol – yn lle gwledydd â ffiniau pendant yn ymladd yn erbyn ei gilydd, mae rhan fwyaf o'r rhyfel yn cael ei ymladd gan ddefnyddiolluoedd arfog arbennig,gwybodaeth, gwaithheddlu adiplomyddiaeth.

Dechreuodd y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth gydagoresgyniad Affganistan yn Hydref 2001. Ar ôl dadl ryngwladol ynglŷn agarfau dinistriol[1], meddiannodd yr Unol Daleithiau,y Deyrnas Unedig ac eraillIrac yn 2003. Mae nifer yn credu maiSyria[2][3] acIran ymysg gwledydd nesaf i gael eu targedu.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. BBC Newyddion – 'Llais Saddam' yn gwadu arfau dinistriol
  2. BBC Cymru'r Byd – Tramor - Syria - y targed nesaf?
  3. "Rhybudd America i Syria",BBC,15 Ebrill,2003.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Pleidiau
Ymgyrchwyr
Targedau
Rhyfeloedd a gwrthryfeloedd
Arall
Terfysgaeth
Camdriniaethau hawliau dynol
Polisi a gwleidyddiaeth
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rhyfel_yn_erbyn_Terfysgaeth&oldid=11760457"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp