Phan Thị Kim Phúc, canol, ger Trảng Bàng, Fietnam, ar 8 Mehefin 1972, wedi i fom napalm gael ei ollwng gan AwyrluUnol Daleithiau America: Nick Ut / The Associated Press.
O safbwynt y llywodraeth Americanaidd roedd ei rôl yn y gwrthdaro yn fodd atal o De Fietnam rhag cwympo igomiwnyddiaeth, ac felly'n rhan o strategaeth ehangach yr Unol Daleithiau ogyfyngu lledaeniad Comiwnyddiaeth. Yn ôl llywodraeth Gogledd Fietnam roedd y rhyfel yn un drefedigaethol, a ymladdwyd yn gyntaf gan Ffrainc, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, ac yna yn erbyn De Fietnam, a gafodd ei gweld ynwladwriaeth byped Americanaidd.[7] Cyrhaeddodd cynghorwyr milwrol Americanaidd ar gychwyn 1950, a dwysaodd ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn gynnar yn y 1960au; treblodd niferoedd y lluoedd Americanaidd ym 1961 ac eto ym 1962.[8] Defnyddiwyd lluoedd ymladd gan yr Americanwyr o 1965 ymlaen. Ymledodd ymgyrchoedd milwrol dros ororau, a chafodd Laos a Chambodia eu bomio'n drwm. Bu ymyrraeth yr Unol Daleithiau ar ei hanterth ym 1968, adegYmosodiad Tet. Wedi hyn, enciliodd lluoedd Americanaidd o dir yr ardal fel rhan o bolisi a elwir yn Fietnameiddio. Er i holl ochrau'r gwrthdaro arwyddoCytundeb Heddwch Paris yn Ionawr 1973, parhaodd yr ymladd.
Daeth rhan filwrol yr Unol Daleithiau yn y rhyfel i ben ar 15 Awst 1973 o ganlyniad i Welliant Case–Church a basiwyd gan Gyngres y wlad.[9] Nododd cipio Saigon gan fyddin Gogledd Fietnam ddiwedd y rhyfel ym mis Ebrill 1975. Adunodd Gogledd a De Fietnam y flwyddyn wedyn. Bu nifer fawr o golledigion, ac mae amcangyfrifon o nifer y milwyr a sifiliaid Fietnamaidd a fu farw yn amrywio o lai nag un miliwn[10] i fwy na thair miliwn.[11] Bu farw tua 200,000–300,000 o Gambodiaid,[12][13][14] 20,000–200,000 o Laosiaid,[15][16][17][18][19][20] a 58,220 o luoedd Americanaidd hefyd.
Dynes[dolen farw] wedi'i llosgi gan napalm, gyda thag ynghlwm wrth ei braich sy'n darllen "VNC Female" sy'n golygu sifiliaid o Fietnam. Gan y ffotograffydd Cymraeg, Philip Jones Griffiths. 1967
Lleolir gwlad Fietnam ynne-orllewin Asia ar ochr ddwyreiniol yr orynys Indocheiniaidd. Roedd wedi bod o dan reolaethFfrainc ers y 19eg ganrif fel rhan o’i hymerodraeth.
Yn ystodyr Ail Ryfel Byd, roedd lluoeddJapaneaidd wedi goresgyn Fietnam. Er mwyn brwydro yn erbyn y Siapaneaid a’r Ffrancwyr, penderfynodd yr arweinydd gwleidyddol,Ho Chin Minh, a ysbrydolwyd gan gomiwnyddiaethTsieina a’rUndeb Sofietaidd, sefydlu'rViet Minh, neu’r Gynghrair dros Annibyniaeth Fietnam.
Wedi iddi gael ei threchu yn yr Ail Ryfel Byd yn 1945, penderfynodd Siapan dynnu ei milwyr allan o Fietnam, gan adael yr Ymerawdwr Bao Dai mewn grym. Gan weld cyfle i gipio pŵer, lansiwyd gwrthryfel yn syth gan luoedd Ho Chi Minh, sef y Viet Minh. Meddiannwyd dinas ogleddolHanoi a chyhoeddwyd bodolaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd Fietnam (DRV –Democratic Republic of Vietnam) gyda Ho fel ei harlywydd.
Er mwyn ceisio ail-gipio pŵer, dangosodd Ffrainc ei chefnogaeth i’r Ymerawdwr Bao a sefydlwyd gwladwriaeth Fietnam yng Ngorffennaf 1949, gydaSaigon fel ei phrifddinas.
Roedd y ddwy ochr yn anelu at yr un bwriad: Fietnam unedig. Ond tra bod Ho a’i gefnogwyr yn dymuno creu gwlad a oedd wedi ei modelu ar wledydd comiwnyddol eraill, roedd Bao a llawer o bobl eraill eisiau creu Fietnam oedd â chysylltiadau economaidd a diwylliannol agosach â’r Gorllewin.[21]
Wedi i luoedd comiwnyddol Ho gipio pŵer yn y gogledd, parhaodd y gwrthdaro arfog rhwng byddinoedd y gogledd a’r de nes enillodd y Viet Minh frwydr yn y gogledd, sef Brwydr Dien Bien Phu ym Mai 1954. Daeth y fuddugoliaeth â diwedd ar gyfnod o bron i ganrif o reolaeth gan Ymerodraeth Ffrainc ynIndo-Tsieina.
Llofnodwyd cytundeb yng Ngorffennaf 1954 mewn cynhadledd ynGenefa a oedd yn rhannu Fietnam ar hyd y lledred oedd yn cael ei hadnabod fel Paralel 17 (17 gradd lledred gogleddol), gyda Ho yn rheoli'r Gogledd a Bao yn rheoli'r De. Roedd y cytundeb yn gofyn hefyd am etholiadau cenedlaethol ar gyfer ail-uno, a fyddai'n cael eu cynnal yn 1956.
Serch hynny, dymchwelwyd llywodraeth yr Ymerawdwr Bao yn 1955 gan y gwleidydd gwrth-gomiwnyddolNgo Dinh Diem, a ddaeth yn arlywydd Llywodraeth Gweriniaeth Fietnam (GVN –Government of the Republic of Vietnam). Cyfeirir at y Weriniaeth yn aml yn ystod y cyfnod hwn fel De Fietnam.[21]
Wrth i’r Rhyfel Oer ddwysáu ar draws y byd, mabwysiadodd UDA bolisïau mwy llym tuag at gynghreiriaid a chefnogwyr yr Undeb Sofietaidd. Yn 1961 anfonwyd tîm gan yr Arlywydd Kennedy i adrodd yn ôl ar yr amodau yn Ne Fietnam. Daeth y tîm i’r penderfyniad bod angen cynyddu cymorth milwrol, economaidd a thechnolegol UDA yn y wlad er mwyn helpu Diem i wynebu’r bygythiad yng Ngogledd Fietnam.
Yn 1964, dechreuodd UDA fomio'r Gogledd a thargedau comiwnyddol eraill yn y rhanbarth, ac yn 1965 roedd 82,000 o luoedd arfog wedi eu lleoli yn Fietnam er mwyn helpu i amddiffyn byddin De Fietnam a oedd yn cael trafferthion gwrthsefyll y bygythiad o’r Gogledd.
Roedd tactegau ac arfau'r Fiet Cong yn is o rantechnoleg na rhai'r Unol Daleithiau, er eu bod nhw wedi defnyddio ambellroced athanc a gyflenwyd gan Tsieina a'r Undeb Sofietaidd. Fe wnaethon nhw ddefnyddio eu cynefindra â'r tir i adeiladu rhwydweithiau eang o dwneli a ffosydd i guddio o olwg y fyddin Americanaidd.
Bu Unol Daleithiau America yn chwarae rhan fawr yn y rhyfel. Roedd technoleg newydd yn ffactor pwysig yn eu tactegau ymladd, gydag awyrennau bomioB-52,hofrenyddion alanswyr rocedi yn cael eu defnyddio. Gwelwyd hefyd defnydd oryfela cemegol gan y lluoedd Americanaidd, felAgent Orange -chwynladdwr i rwystro'r Fiet Cong rhag cuddio yn yjyngl, anapalm, cemegyn sy'n llosgi'r croen.
Cychwynnodd UDAYmgyrch Rolling Thunder yn 1965, sef ymosodiad ofomio strategol lle targedwydporthladdoedd, canolfannau a llinellau cyflenwadau milwrol yng Ngogledd Fietnam i rwystro cefnogaeth i'r Fiet Cong. Parhaodd Byddin yr Unol Daleithiau â strategaeth chwilio a dinistrio drwy gydol y rhyfel, lle bu filwyr yn ymosod ar aneddiadau a'u dinistrio'n llwyr a lladd yr holl drigolion.
Wrth iddi wynebu mwy o golledigion, gwrthwynebiad cynyddol i’r rhyfel yn Fietnam yn yr Unol Daleithiau a beirniadaeth gynyddol o’i rôl yn y rhyfel, penderfynodd UDA dynnu ei milwyr arfog ar y tir allan o Fietnam ar ddechrau’r 1970au. Bwriad y broses hon hefyd oedd ceisio cryfhau a sefydlogi llywodraeth De Fietnam. Profodd hyn yn aflwyddiannus.[22] Yn dilyn Cytundeb Heddwch Paris ar 27 Ionawr 1973, tynnwyd holl luoedd arfog America allan ar 29 Mawrth 1973.[23] Yn Rhagfyr 1974, meddiannodd Gogledd Fietnam dalaith Phước Long a chychwynnwyd ymosodiad a arweiniodd at gipio Saigon ar 30 Ebrill 1975.[24] Rheolwyd De Fietnam am bron i wyth mlynedd gan lywodraeth dros dro tra'r oedd hefyd o dan reolaeth filwrol Gogledd Fietnam.[25]
Yn 1974 amcangyfrifodd is-bwyllgor Senedd UDA bod bron i 1.4 miliwn o sifiliaid Fietnamaidd wedi cael eu lladd neu eu hanafu rhwng 1965 a 1974 – dros eu hanner wedi eu hachosi o ganlyniad i weithredoedd milwrol UDA a De Fietnam.
Ar 2 Gorffennaf 1976, unwyd Gogledd a De Fietnam er mwyn ffurfio Gweriniaeth Sosialaidd Việt Nam. Achosodd y rhyfel ddinistr ofnadwy yn Fietnam, gyda chyfanswm y marwolaethau rhwng 966,000 a 3.8 miliwn.[26] Yn dilyn y rhyfel, pan fu llywodraeth Lê Duẩn mewn pŵer, er mawr syndod i’r Gorllewin, ni ddienyddiwyd y rhai o Dde Fietnam a oedd wedi cydweithio ag UDA neu gyda hen lywodraeth De Fietnam. Er hynny, cafodd 300,000 o bobl De Fietnam eu hanfon i wersylloedd ail-addysgu, lle cafodd llawer eu harteithio, eu hamddifadu o fwyd a dioddef afiechydon wrth iddynt gael eu gorfodi i wneud llafur caled.[27]
Hyd heddiw, mae Fietnam yn cael ei hystyried yn wladgomiwnyddol gyda llywodraeth un blaid sosialaidd unedolMarcsaidd –Leninaidd.
Hofrennydd UH-1D yn codi wedi iddo ollwng criw o filwyr traed Americanaidd ar faes y gad, ar ymgyrch "chwilio a dinistrio".
↑1.01.1Oherwydd presenoldeb cynnar yn Fietnam gan luoedd Americanaidd mae dyddiad cychwyn Rhyfel Fietnam yn ardal lwyd. Ym 1998, yn dilyn adolygiad danAdran Amddiffyn yr Unol Daleithiau a thrwy ymdrechion teuluRichard B. Fitzgibbon, fe newidiwyd dyddiad cychwyn Rhyfel Fietnam i 1 Tachwedd 1955.[2] Yn ôl adroddiadau llywodraethol Americanaidd modern, 1 Tachwedd 1955 yw dyddiad cychwyn "Gwrthdaro Fietnam", sef y dyddiad a grëwyd Grŵp Ymgynghorol Cynorthwyol Milwrol (MAAG) Fietnamaidd gan yr Unol Daleithiau, gan ddilyn aildrefniad MAAG Indo-Tsieina yn unedau unigol i bob gwlad.[3]Mae dyddiadau cychwyn eraill yn cynnwys Rhagfyr 1956, pan awdurdododd Hanoi i luoedd y Fiet Cong ddechraugwrthryfel ar raddfa isel yn Ne Fietnam.[4] Yn ôl eraill dechreuodd y rhyfel ar 26 Medi 1959, dyddiad y frwydr gyntaf rhwng y fyddin Gomiwnyddol a byddin De Fietnam.[5]
↑Gelwir hefyd ynAil Ryfel Indo-Tsieina,y Rhyfel Americanaidd yn Fietnam ac, yn Fietnam,y Rhyfel yn erbyn yr Americanwyr er Achub y Genedl.[1]
↑"Vietnam War". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd5 March 2008.Meanwhile, the United States, its military demoralized and its civilian electorate deeply divided, began a process of coming to terms with defeat in its longest and most controversial war
↑Charles Hirschman et al., “Vietnamese Casualties During the American War: A New Estimate,” Population and Development Review, December 1995.
↑Associated Press, April 3, 1995, "Vietnam Says 1.1 Million Died Fighting For North."
↑Heuveline, Patrick (2001). "The Demographic Analysis of Mortality in Cambodia." In Forced Migration and Mortality, eds. Holly E. Reed and Charles B. Keely. Washington, D.C.: National Academy Press.
↑Marek Sliwinski, Le Génocide Khmer Rouge: Une Analyse Démographique (L’Harmattan, 1995).
↑Banister, Judith, and Paige Johnson (1993). "After the Nightmare: The Population of Cambodia." In Genocide and Democracy in Cambodia: The Khmer Rouge, the United Nations and the International Community, ed. Ben Kiernan. New Haven, Conn.: Yale University Southeast Asia Studies.