Pob dydd, mae miliynau o bobl yntorri deddfau hawlfraint, heb yn wybod iddynt drwy gyhoeddi lluniau ogerfluniau. Mae'r rheolRhyddid Panorama yn diffinio'r hawl i dynnu ffotograff o adeiladau modern, ac mewn rhai gwledydd felGwlad Belg,yr Eidal neuFfrainc; mae hynny'n cael ei wahardd a'i gyfri'n 'dorr hawlfraint'. Yma yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, a gwledydd felyr Almaen, caniateir i chi wneud hynny, ond mae trafodaethau'n digwydd yn Senedd Ewrop ar hyn o bryd ynglŷn ag ailwampio'r rheolau hyn a all weld dileu'r hawl neu'r rhyddid hwn.
Daw'r term o'rAlmaenegPanoramafreiheit (hawliau panorama),[1] yn erthygl 59 o DdeddfUrheberrechtsgesetz,[2] Ceir deddf debyg ym Mhrydain: rhan 62 o Ddeddfau Hawlfraint, Dylunio a Phatentau 1988,[3] a gwledydd eraill.
Rhyddid i Banorama yng ngwledydd Ewrop. Rhyddid llwyr, gan gynnwys gwaith 2D Rhyddid i dynnu lluniau adeiladau'n unig Ni chaniateir lluniau i ddefnydd masnachol, na'u rhoi ar Wicipedia Gwaharddiad llwyr Dim gwybodaeth
Mae'r ddau lun o'r 'Atomiwm', ar y dde, yn dangos mor wahanol yw'r sefyllfa mewn dwy wlad agos: ceir dau gerflun o'r Atomium, y naill yng Ngwlad Belg a'r llall ynAwstria. Mae'n ddigon posib y torrwyd deddfau Gwlad Belg sawl tro, drwy gyhoeddi llun o'r 'Atomium' arTrydar aFacebook. Dan arweiniad Julia Reda ASE, ceisir cysoni'r rheolau ar drawsEwrop, gan ddefnyddio deddfau agored gwledydd Prydain fel model i weddill Ewrop. Mae Adroddiad Reda'n galw arSenedd Ewrop i “sicrhau fod y defnydd o ffotograffau, fideo neu ddelweddau eraill sydd wedi'u gosod yn barhaol mewn llefydd cyhoeddus yn cael eu caniatáu.”
Fodd bynnag, mae nifer oAelod Senedd Ewrop yn ceisio cyflwyno'r isgymal 'anfasnachol' gan newid yr hawl i banorama, sydd felly'n nacàu'r hawl i gyhoeddi lluniau o gerfluniau modern. Byddai hyn yn golygu y byddai ffotograffydd yn torri deddfau Ewropeaidd pe bai'n rhoi llun ar Facebook neu eu huwchlwytho i erthygl ar Owain Glyn Dŵr ar y Wicipedia Cymraeg!
Pe bai'r ddeddf newydd i wrthwynebu Rhyddid neu'r hawl i banorama, yna mae elfen chwerthinllyd yn dod i'r darlun! Caniateir tynnu llun y Tŵr Eiffel (oherwydd ei oed) - os tynnir y llun yn ystod y dydd. Ond fin nos, mae'r golau arno cael ei ystyried yn osodiad 3-dimensiwn gwahanol, felly ni fydd hawl gan unrhyw berson i dynnu llun o'r Tŵr yn ystod y nos!
Mae'r erthygl hon yn trafod Rhyddid Panorama tri-dimensiwn, ac fel yr awgryma'r gair 'panorama': mae'n gymwys ar gyfer lluniau o'r tu allan neu'r awyr agored,[1][4] sy'n barhaol eu natur. Ystyr "parhaol" yma yw "am oes y cerflun neu'r gwaith".[5][6] Yny Swistir caniateir y rhyddid i dynnu lluniau gwaith 2-ddimensiwn hyd yn oed e.e. paentiad olew modern ar wal, mewn man cyhoeddus - ar yr amod nad yw'r defnydd o'r llun ddim yr un defnydd a'r gwaith gwreiddiol.[5]