Caru'n ofer, neu yr hen wynebau, yw symbol rhyddfeddyliaeth ers diwedd y 19g. Ei enw Ffrangeg ywpensée ("meddwl"), gan ei fod yn edrych yn debyg i wyneb ac yn yr haf mae'n pendrymu fel petai ynghanol meddyliau.[1]
Agwedd o feddwl sy'n ymlynu wrthreswm yn hytrach nadogma ac awdurdod ywrhyddfeddyliaeth[2] neuryddfeddwl. Defnyddir y gair yn enwedig mewn materion ffydd adiwinyddiaeth, ac felly mae rhyddfeddyliaeth yn gysylltiedig â ffurfiau ar sgeptigiaethgrefyddol megisanffyddiaeth,agnostigiaeth,anghrefydd,dyneiddiaeth,anghydffurfiaeth, arhesymoliaeth. Rhoddir yr enw Rhyddfeddyliaeth â Rh fawr ar fudiad o athronwyr a llenorion adegyr Oleuedigaeth oedd yn ddylanwadol yn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a bywyd deallusol y gwledyddCristnogol yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America yn y 18g.
Eginodd syniadau'r mudiad a elwir bellach yn Rhyddfeddyliaeth ym Mhrydain yn niwedd yr 17g. Dechreuwyd defnyddio'r gair yn sgil cyhoeddi'r traethawdA Discourse of Free-thinking (1713) gan y SaisAnthony Collins. Duwgredwr ac nid anffyddiwr oedd Collins a wrthodai crefydd ddatguddiedig gan arddeldeistiaeth. Fel rheol, credai'r deistiaid mewn creawdwr y bydysawd ond nid bod goruwchnaturiol sy'n ymyrryd mewn materion bydol. Mabwysiadwyd yr enw rhyddfeddylwyr ynderm mantell gan ddeistiaid, anffyddwyr ac amheuwyr eraill i amlygu eu rhyddhâd oddi wrth ragfarnau crefyddol, ac oddi wrth bob cyfundrefn grefyddol. Ym 1718 dechreuwyd cyhoeddi'r papur wythnosol,The Freethinker. Roedd Collins,Toland,Tindal, aMorgan yn cael eu hystyried yn gampwyr y mudiad, ond hwyrach maiDavid Hume a'rIs-iarll Bolingbroke oedd y ddau enwocaf o'i haelodau. Yn Ffrainc, yr oeddVoltaire,D'Alembert,Diderot, aHelvetius, yn arweinyddion y dosbarth a wrthwynebent Gristnogaeth yn ei holl ffurfiau. Amlygodd yr un ysbryd ei hun yn yr Almaen yn oesFfredrig Fawr, a theimlwyd ei ddylanwad i raddau helaeth iawn trwy gyfrwng y wasg, y prifysgolion, ac hyd yn oed y pulpud yn y wlad honno.
Ennynai ymateb amddiffynnol gan gredinwyr o bob math. Cyhoeddwyd llu o atebion i draethodau Collins, Tindal a'r lleill, a rhoddai sawl clerigwr, er enghraifftyr Esgob Hoadly, ei bin ar bapur i fynnu'r ffydd a'i hawdurdod fel ei gilydd. MaeColton, yn eiLacon, yn sylwi ei fod yn ymddangos nad ydyw Rhyddfeddyliaeth yn ei oes yn ddim amgen nag enw arall ar ryddid i beidio gosod y meddwl ar waith. Er gwaetha'r adlach, llwyddodd syniadau'r rhyddfeddylwyr i groesi'r Iwerydd yng ngeiriauTom Paine ac eraill. DeistiaethJefferson ac ambell un arall o'rSefydlwyr oedd wrth wraidd ymwahanu'r eglwys oddi ar y wladwriaeth yngNghyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Ceisiwyd creu llywodraethseciwlar yn Ffrainc hefyd yn sgily Chwyldro Ffrengig, ond atgyfnerthai'r gwrthwynebiad gan geidwadwyr megisBurke o ganlyniad i drais yr ymgyrch honno yn erbynyr Eglwys Gatholig. Cynhelid y traddodiad rhyddfeddyliol yn y 19g gan athronwyr megisMill, gwyddonwyr megisDarwin aHuxley, ac areithwyr megisRobert Ingersoll.